Job Description
Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu\nCaerdydd neu Gyffordd Llandudno (gyda gweithio hybrid)\n\nAmdanom Ni\n\nMae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.\n\nEr mwyn cyflawni hyn, rydyn ni’n arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal.\n\nAr hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â ni ar sail barhaol. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg a byddwn ni’n ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.\n\nMae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.\n\nY Manteision\n\n- Cyflog o £48,134 - £52,966 y flwyddyn\n- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc\n- Cynllun pensiwn llywodraeth leol\n- Polisi gwaith hyblyg\n- Polisi absenoldeb teuluol\n\nY Rôl\n\nFel Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu, byddwch chi’n arwain swyddogaethau cyfathrebu craidd, gan oruchwylio prosiectau proffil uchel, ymgyrchoedd mewnol ac allanol, a datblygu cynnwys strategol.\n\nByddwch chi’n rheoli ystod eang o weithgareddau cyfathrebu corfforaethol, o arwain ein gwobrau blaenllaw, sef y Gwobrau a’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg, i oruchwylio'r brif wefan, cyfathrebu mewnol, cylchlythyrau, a chynnwys corfforaethol.\n\nGan weithio ar draws timau, byddwch chi’n hyrwyddo ymarfer gorau o ran tôn llais, brand a hygyrchedd, tra hefyd yn cyfrannu at gysylltiadau â'r cyfryngau, strategaeth cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu argyfwng a materion cyhoeddus.\n\nYn ogystal, byddwch chi’n:\n\n- Arwain a datblygu tîm marchnata a chyfathrebu aml-sgiliau\n- Rheoli cyllidebau, monitro perfformiad, a chydymffurfiaeth reoleiddiol\n- Goruchwylio cynhyrchu fideo, dadansoddeg cynnwys, nwyddau, a gwelliannau i’r wefan\n- Gweithredu fel prif olygydd ar gyfer cynnwys corfforaethol ac arwain ar weithredu cyfathrebu mewnol\n\nAr hyn o bryd rydyn ni’n ymgysylltu â staff ar ad-drefnu, felly gallai fod rhai newidiadau i feysydd cyfrifoldeb y swydd hon.\n\nAmdanoch Chi\n\nEr mwyn i chi gael eich ystyried yn Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu, bydd angen y canlynol arnoch chi:\n\n- Profiad o weithio mewn swyddogaeth farchnata a/neu gyfathrebu\n- Profiad o ddatblygu a gweithredu cynlluniau marchnata a chyfathrebu wedi'u targedu\n- Gwybodaeth am lwyfannau e-bost sy'n seiliedig ar brosiectau, Adobe InDesign, Adobe Acrobat a Microsoft SharePoint\n- Gwybodaeth am gynhyrchu cynnwys fideo, digidol a phrint hygyrch\n- Gwybodaeth am sut i ddehongli data ansoddol a meintiol\n- Gwybodaeth ragorol o'r Saesneg a'r Gymraeg\n\nDyddiad Cau: 11eg Awst 2025\n\nGall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Bennaeth Cyfathrebu a Marchnata, Arweinydd Marchnata a Chyfathrebu, Pennaeth Marchnata, Uwch Reolwr Marcomms, Uwch Reolwr Cyfathrebu, neu Bennaeth Cyfathrebu Digidol.\n\nGellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.\n\nFelly, os hoffech ymuno â ni fel Uwch Reolwr Marchnata a Chyfathrebu, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit.\n\nSenior Marketing and Communications Manager\nCardiff or Llandudno Junction (with hybrid working)\n\nAbout Us\n\nSocial Care Wales provides leadership and expertise in social care and early years in Wales.\n\nOur vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers.\n\nTo do this, we lead on developing and regulating the social care workforce, service improvement, data and research to improve care.\n\nWe are currently looking for a Senior Marketing and Communications Manager to join us on a permanent basis.
This role is offered with flexible working options and we will consider candidates as part of a job share.\n\nYou must be based in the UK to apply for this role and be able to visit one of the stated offices when required.\n\nThe Benefits \n\n- Salary of £48,134 - £52,966 per annum\n- 28 days’ holiday plus bank holidays\n- Local government pension scheme\n- Flexible work policy\n- Family leave policy\n\nThe Role \n\nAs Senior Marketing and Communications Manager, you will lead core communications functions, overseeing high-profile projects, internal and external campaigns, and strategic content development.\n\nYou’ll manage a wide range of corporate communications activities, from leading the flagship Accolades and Caring in Welsh awards to overseeing the main website, internal communications, newsletters, and corporate content. \n\nWorking across teams, you’ll champion best practice in tone of voice, brand, and accessibility, while also contributing to media relations, social media strategy, crisis communications, and public affairs.\n\nAdditionally, you will:\n\n- Lead and develop a multi-skilled marketing and communications team\n- Manage budgets, performance monitoring, and regulatory compliance\n- Oversee video production, content analytics, merchandise, and website improvements\n- Act as editor-in-chief for corporate content and lead internal communications delivery\n\nWe’re currently engaging with staff on a reorganisation, so there could be some changes to this post’s areas of responsibility.\n\nAbout You\n\nTo be considered as our Senior Marketing and Communications Manager, you will need:\n\n- Experience working in a marketing and/or communications function\n- Experience developing and implementing targeted marketing and communications plans\n- Knowledge of project-based email platforms, Adobe InDesign, Adobe Acrobat and Microsoft SharePoint\n- Knowledge of producing accessible video, digital and print content\n- Knowledge of how to interpret qualitative and quantitative data\n- Excellent knowledge of English and Welsh\n\nClosing Date: 11th August 2025\n\nOther organisations may call this role Head of Communications and Marketing, Marketing and Communications Lead, Head of Marketing, Senior Marcomms Manager, Senior Communications Manager, or Head of Digital Communications.\n\nReasonable adjustments can be made at any stage of the recruitment process for candidates with a disability, impairment or health condition, for example who are neuro-divergent or who use British Sign Language. Please get in touch with the HR Team to discuss adjustments for any part of the process.\n\nSo, if you’d like to join us as a Senior Marketing and Communications Manager, please apply via the button shown.
This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency