Pennaeth Cyfathrebu
Llawn amser, 37 awr yr wythnosParhaolGradd E:Cyflog cychwynnol o £53,606Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg,, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl:Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Pennaeth Cyfathrebu i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo safbwynt cywir, cadarnhaol a gwybodus o’r Cyngor Celfyddydau, ac o'r gweithgarwch rydym yn ei gefnogi. Mae'r Pennaeth Cyfathrebu yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ein gwaith mewn un llais cyson, mewn modd sy'n ddeniadol ac yn hygyrch.Mae’r Pennaeth yn arwain tîm o arbenigwyr Cyfathrebu sydd gyda’i gilydd yn datblygu deunydd print ac electronig – yn y Gymraeg a’r Saesneg – sy’n adlewyrchu gwerthoedd, uchelgeisiau a hunaniaeth y Cyngor Celfyddydau. Un o nodau allweddol y tîm yw hyrwyddo’r celfyddydau mewn ffyrdd arloesol er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd ac ehangach. Mae'r Pennaeth hefyd yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd hyrwyddo a digwyddiadau sy'n codi proffil y celfyddydau a’r Cyngor Celfyddydau ei hun.
Amdanoch chiMae gennych gymhwyster perthnasol a/neu brofiad proffesiynol...