Rydym yn awyddus i benodi athro / athrawes angerddol Cam Cynnydd 2-3 i ymuno â staff Ysgol Ifor Bach ym mis Medi 2025. Cyfle i fod yn rhan o ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghwm yr Aber,ger Caerffili sydd yn gweithredu fel ysgol adferol ac yn galon i’w chymuned. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig, egniol ac ymroddgar i ymgeisio am swydd athro / athrawes. Eich nod fydd i sicrhau addysg gynhwysol o’r safon uchaf i bob disgybl o fewn y dosbarth. Mae dealltwriaeth am les a gofal disgyblion yn hanfodol a dylai’r ymgeisydd llwyddiannus meddu ar sgiliau cynnal disgyblaeth gref a magu perthnasau er mwyn creu hafan ddiogel i’m disgyblion. Rydym yn ysgol arloesol sy’n dysgu ar sail ymholiad ac yn cynllunio amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau unigryw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar ddealltwriaeth arbennig o addysgeg ac yn deall ethos ac egwyddorion cwricwlwm i Gymru. Mae’r gallu i gyd-weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol a chymunedol yr ysgol. Mae deallusrwydd o weithdrefnau adferol yn ddymunol gan taw dyma’r ffordd yr ydym yn cydweithio gydag ein disgyblion, rhieni a holl randdeiliaid yr ysgol sy’n sicrhau ymdeimlad deuluol o ymberthyn. Mae’r swydd yn llawn amser a dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf. Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, mae pob croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth dros dro Dian Morris ar 02920 830375. Bwriedir cynnal arsylwadau gwersi wythnos yn dechrau 9fed o Fehefin ac yna cyfweliadau ar 16eg o Fehefin. I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau. I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol ar 02920 830375. Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i Dian Morris, Pennaeth Ysgol Ifor Bach Windsor Pl Abertridwr Caerphilly CF83 4AB Fel arall, gwnewch gais trwy eteach. Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006. Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.