Swyddog Lles Disgyblion (drwy'r ysgol) (Ysgol Bro Caereinion)
Job description
Welsh Language Skills are essential for this position
Pupil Wellbeing Officer
This is a role where the ability to read, write and speak in Welsh (Common European Framework of Reference (CEFR) C levels: Proficient user) is essential.
YSGOL BRO CAEREINION
Swyddog lles disgyblion
Graddfa 6 (Pwynt 11 – 14)
37 awr, 39 wythnos y flwyddyn
Mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i ystyried gwneud cais am swydd Swyddog Lles Disgyblion yn ein hysgol. Yn Ysgol Bro Caereinion, rydym yn arwain ein gwaith drwy ein gweledigaeth glir – “O’n bro, i’r byd” – gan sicrhau bod pob disgybl yn datblygu’r medrau, y hyder a’r gwerthoedd i lwyddo yn eu cymuned leol a thu hwnt. Wrth galon hyn mae ein gwerthoedd craidd, sef “Parch, Perthyn, Parod” sy’n llywio ein
diwylliant dyddiol ac yn sail i berthnasoedd cadarnhaol ar draws y gymuned ysgol. Rydym yn falch iawn o’n hysgol fel cymuned ddysgu fyrlymus a gofalgar, lle mae lles a llwyddiant pob disgybl wrth galon popeth a wnawn. Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion ‘yn gymuned ysgol groesawgar lle
caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau’r ysgol. Maent yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu’.
Mae ein hysgol yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol, wedi’i feithrin gan ethos cryf o ofal, gyda thîm staff ymroddgar sy’n cydweithio’n effeithiol er mwyn sicrhau’r gorau i’n disgyblion. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pob aelod o staff ac yn ymrwymo i’w datblygiad proffesiynol, gan feithrin ymdeimlad cryf o berthyn iddynt o fewn ein cymuned.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn ysbrydoledig, brwdfrydig a threfnus ymuno â’n tîm yn ein canolfan lles – Hafan, sydd yn ganolbwynt ein hysgol. Mae Hafan yn lle diogel a chroesawgar i bob disgybl, gan chwarae rôl allweddol wrth gefnogi eu datblygiad personol ac addysgol. Fel Swyddog Lles Disgyblion byddwch yn hyrwyddo lles emosiynol a chymdeithasol disgyblion, gan gryfhau ymdeimlad o berthyn, meithrin
parch, a’u cefnogi i fod yn barod ar gyfer eu dysgu a bywyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos iawn gyda’r Arweinwyr Cynnydd, gan adeiladu perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd, a chyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygu amgylchedd dysgu cadarnhaol lle gall pob disgybl ffynnu – o’n bro i’r byd.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd:
• yn angerddol dros lles a llwyddiant pob disgybl;
• yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol ac sy’n gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol;
• yn dangos empathi, dealltwriaeth a gallu i gefnogi unigolion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd;
• yn fedrus wrth weithio fel rhan o dîm ac yn gallu gweithredu’n effeithiol yn annibynnol;
• yn ymroddedig i hyrwyddo presenoldeb da ac ymddygiad cadarnhaol, gan gymryd cyfrifoldeb am fonitro a thracio presenoldeb yn ddyddiol ar draws yr ysgol (cyfnod cynradd ac uwchradd) er mwyn annog presenoldeb cryf;
• yn meddu ar y gallu i weithio’n effeithiol gyda rhieni, y gymuned a phartneriaid allanol, gan gynnwys asiantaethau allanol, er mwyn cefnogi disgyblion;
• yn dangos agwedd gadarnhaol ‘gallaf wneud’ tuag at ddatrys problemau;
• yn drefnus iawn ac yn meddu ar sgiliau cadarn o gadw cofnodion a dilyn prosesau;
• yn meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf (neu’n barod i’w ennill);
• yn awyddus i gyfrannu’n llawn at fywyd ehangach yr ysgol.
Os ydych yn chwilio am gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, ac i fod yn rhan o gymuned ysgol gefnogol a chroesawgar, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol pob oed, 5 – 18 mlwydd oed sy’n symud ar hyd y continwwm ieithyddol ac ym mis Medi 2026 mi fydd hi’n ysgol cyfrwng Cymraeg trawsnewidiol ar gyfer y dosbarth derbyn, blwyddyn 1, 2 a 7. Mae’r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C – Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)).
Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person isod. Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda’r ysgol os dymunwch sgwrs gyda’r pennaeth neu i ddod i ymweld â’r ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda’ch cais.