Job Description
Os oes gennych gofnod o gyflawniad sy'n dangos yr ymrwymiad, y doniau a'r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang drwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd rhagorol, ynghyd ag angerdd cyffredin am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau, ac i'w cefnogi.
Rydym yn recriwtio ar gyfer Tiwtoriaid Cyswllt eithriadol, â chymwysterau addas, sydd ar gael i addysgu ym maes Celf Gemau yn achlysurol neu'n sesiynol. Mae'n hanfodol bod gennych ddealltwriaeth sylweddol o natur academaidd a/neu broffesiynol eich pwnc ac y gallwch gyfleu hyn yn eglur, â manyldeb academaidd a brwdfrydedd.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
* Cael dogfennau perthnasol y cwrs, a bod yn gyfarwydd â nhw, sy'n rhoi gwybodaeth yn ymwneud â nodau a gweithrediad y cwrs, gan gynnwys y maes llafur, dulliau asesu, y dulliau addysgu a ffefrir, gwybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr, dyddiadau ac amseroedd y cwrs, ac ati.
* Cysylltu ag aelodau o dîm y rhaglen, fel y bo'n briodol, er mwyn deall gofynion, cydlynu cynlluniau a chamau gweinyddol ac i drafod newidiadau.
* Paratoi deunydd cwrs effeithiol a fydd yn cyflawni nodau'r cwrs, gan gynnwys
* gwella'r profiad dysgu trwy ddull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.
* Mynychu a chyflwyno sesiynau fel y cytunwyd arnynt, darlithio, arwain trafodaethau ac, fel arall, darparu arweiniad a chyngor, a hyrwyddo dysgu, yn ôl yr angen.
* Paratoi a marcio unrhyw waith ysgrifenedig, gwaith stiwdio, gwaith dosbarth a phapurau arholiad cysylltiedig yn ôl yr angen, yn unol â’r gweithdrefnau asesu priodol.
* Rhoi adborth adeiladol ac amserol i fyfyrwyr ar eu cynnydd.
* Cadw’r cofnodion o asesiadau a phresenoldeb hynny sydd eu hangen ar y
* Brifysgol.
* Cadw at amseroedd agor a chau dosbarthiadau yn llym.
* Sicrhau bod Cyfarwyddwr/Arweinydd y Rhaglen a'r dosbarth yn cael gwybod am eich absenoldeb, lle nad oes modd osgoi hyn, mor bell o flaen llaw â phosibl.
* Darparu cynllun cwrs/gwaith, set o amcanion a rhestrau darllen i fyfyrwyr lle bo hynny'n briodol.
Beth rydym yn chwilio amdano
* Gradd anrhydedd dda a/neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.
* Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch.
* Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol Celf Gêm.
* Tystiolaeth o ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
* Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
* Dealltwriaeth eang o faes y pwnc.
* Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
* Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
* Y gallu i gyflawni dyletswyddau gweinyddol mewn modd cywir ac amserol.
* Y gallu i gynllunio llwythi gwaith.
* Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
* Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau, adroddiadau, deunyddiau dysgu.
* Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gweithio cynhyrchiol fel rhan o dîm proffesiynol.
* Y gallu i ddangos ymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch a Safonau Ansawdd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Sarah Smith, Pennaeth yr Adran ar smsmith@cardiffmet.ac.uk neu mae croeso i chi e-bostio Aleksandra Janusiewicz, y Cynghorydd Recriwtio sy'n cefnogi'r swydd wag hon ar ajanusiewicz2@cardiffmet.ac.uk.
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.
Dyddiad Cau: 05 Jan 2026
Ysgol/Uned: Academaidd
Cyflog: £45,413 to £51,039 £47.08 y sesiwn yn ogystal â 18% tâl gwyliau
Achlysurol