Uwch-ddarlithwyr yn y Gyfraith - Addysgu ac Ymchwil
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dymuno penodi Uwch-ddarlithwyr (Gradd 8) yn y Gyfraith.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn athrawon ac yn ysgolheigion rhagorol, neu â'r potensial i fod; yn agos at gwblhau neu’n meddu ar radd PhD neu brofiad proffesiynol cyfwerth yn y Gyfraith neu faes cysylltiedig; ac yn meddu ar agenda ymchwil uchelgeisiol sy’n cefnogi a/neu’n ehangu cryfderau ymchwil presennol yr Ysgol. Y maes/meysydd arbenigedd ymchwil cyfreithiol ac addysgu penodol ym maes y Gyfraith yw Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Cystadleuaeth, Cyfraith Defnyddwyr, a Chyfraith a Thechnoleg.
Mae’n bosibl y bydd deiliad y swydd hefyd yn goruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac yn cyfrannu at weinyddu a rheoli Ysgol y Gyfraith yn llwyddiannus.
Mae'r swyddi’n rhai penagored ac ar gael ar sail amser llawn neu’n rhan-amser. Er mwyn cefnogi ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
E-bostiwch Bennaeth yr Ysgol os oes gennych ymholiadau sy’n ymwneud â'r swydd hon lawpl-management@caerdydd.ac.uk
Cyflog: £60,907 - £66,537 y flwyddyn (Gradd 8)
Mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus, fydd yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, gynnig addysg o safon ar y lefel israddedig ac ôl-raddedig, a chyfrannu at hanes ymchwil yr Ysgol drwy ymrwymo i gynnal ymchwil sy'n arwain at gyhoeddi ymchwil o safon. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod gweithgar a cholegol o gymuned yr Ysgol a chyfrannu at bob agwedd ar fywyd yr Ysgol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 14 Awst 2025
Dyddiad cau: Dydd Sul, 07 Medi 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Ymchwil
* Cynnal ymchwil wreiddiol ac arloesol yn nisgyblaeth y Gyfraith a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol drwy gynhyrchu allbynnau mesuradwy gan gynnwys gwneud ceisiadau am gyllid, cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd rhyngwladol, cynadleddau rhyngwladol a/neu allbynnau ymchwil eraill.
* Datblygu prosiectau ymchwil sydd â’r potensial i ennill cyllid mewnol neu allanol.
* Rhoi anerchiadau gwadd mewn cyfarfodydd a chynadleddau proffesiynol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, gan feithrin rhwydweithiau i ddatblygu allbynnau ymchwil ac enw da yn y maes arbenigol, gan gymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol.
* Cyfrannu at recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a goruchwylio myfyrwyr PhD yn gyd-oruchwylydd, yn adolygyddneu’n oruchwylydd.
* Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol a'r gymuned ymchwil ac ysgolheictod.
* Meddu ar y potensial i gyfrannu at astudiaethau achos effaith, os yn briodol.
* Cyfrannu'n llawn at reoli ymchwil ôl-raddedig.
Addysgu
* Arwain ar ddatblygu a chyflwyno graddau a modiwlau a chyfrannu at addysgeg y maes pynciol
* Bod yn rheolwr rhaglenni, arweinydd modiwlau a/neu diwtor – gan sicrhau bod yr addysgu'n cael ei gyflwyno’n unol â gofynion y cwricwlwm presennol, a datblygu a defnyddio deunyddiau a thechnegau addysgu arloesol a phriodol sy\'n ennyn diddordeb, dealltwriaeth a brwdfrydedd ymhlith y myfyrwyr
* Ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig ag arholiadau, megis gosod a marcio asesiadau a rhoi adborth i fyfyrwyr
* Bod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth bugeiliol i fyfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio gwaith myfyrwyr Israddedig a Meistr, cyd-oruchwylio ymchwilwyr ôl-raddedig a bod yn aelod o banel adolygu cynnydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn ôl y gofyn
* Dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol a chymryd rhan yn y prosesau adolygu gan gymheiriaid.
* Cymryd rhan yn y gymuned addysgu gan gynnwys bod yn aelod o bwyllgorau a gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr
Arweinyddiaeth
* Arwain yn academaidd drwy gydlynu gwaith eraill i sicrhau bod meysydd sy’n rhan o gyrsiau ymchwil/gradd yn cael eu trefnu a'u cyflwyno'n effeithiol
* Bod yn rhan o gynllunio strategol adrannol a chyfrannu at brosesau cynllunio strategol ehangach yn y Brifysgol
Gwybodaeth Ychwanegol
Parhau mewn gwybodaeth ychwanegol...
Arall
* Ymgymryd â chyfrifoldebau gweithredol a gweinyddol, a'u harwain, yn ôl y gofyn gan Bennaeth yr Ysgol a'r uwch-dîm rheoli er mwyn hybu’r Ysgol a’i gwaith yn y Brifysgol drwyddi draw a’r tu allan iddi, a chyfrannu at geisiadau at ddibenion ymgynghori a chyllid ychwanegol a/neu arwain y rhain.
* Ymgysylltu’n effeithiol â sefydliadau, cyrff proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, i gynyddu ymwybyddiaeth o’r Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
* Bod yn gydweithiwr cydweithredol, colegol ac ymrwymo i gymryd rhan ym mywyd yr Ysgol a chyfrannu'n llawn at y gymuned, yr addysgu a’r gweithgareddau ymchwil a gweinyddol.
* Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill heb eu nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd
Manyleb Unigolyn
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni\'r HOLL Feini Prawf Hanfodol, yn ogystal â'r rhai Dymunol, lle bo\'n berthnasol. Fodd bynnag, nid yw bodloni\'r holl Feini Prawf Hanfodol yn gwarantu y cewch gyfweliad, oherwydd gallai fod ymgeiswyr eraill sydd wedi dangos eu bod yn bodloni rhai o\'r meini prawf dymunol neu bob un ohonynt, neu eu bod yn bodloni\'r meini prawf i raddau helaethach a/ neu fwy perthnasol.
Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag arno – 20518BR_supporting_statement.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
* Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn pwnc cysylltiedig â Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol.
* Tystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu Prifysgol neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
* Arbenigedd a phortffolio diamheuol o ymchwil mewn un o\'r meysydd canlynol:
* Astudiaethau Polisi Tramor/Rhyfel/Diogelwch nad ydynt yn orllewinol (yn enwedig nad ydynt yn yr Unol Daleu) gan gynnwys Cysylltiadau Rhyngwladol a hanes y Rhyfel Oer, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn
* Theori wleidyddol, gan gynnwys hanes meddwl yn wleidyddol, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn
* Hanes a theori trefedigaethedd a\'i etifeddiaeth mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
* Profiad sylweddol o addysgu o safon i israddedigion/ôl-raddedigion.
* Enw da cynyddol yn genedlaethol yn y maes academaidd
* Hanes sylweddol diamheuol o gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol a/neu allbynnau ymchwil eraill.
* Cofnod diamheuol o gyfrannu at geisiadau llwyddiannus am gyllid ymchwil cystadleuol, neu eu harwain.
* Gallu cyfrannu at gyflwyno a datblygu modiwlau\’n barhaus ar draws rhaglenni addysgu\’r Ysgol.
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
* Gallu profedig i gyfathrebu mewn modd effeithiol a pherswadiol a rhoi cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrio anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a gweithredu\'n diwtor personol iddynt.
* Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd a\'i wneud yn effeithiol.
Meini Prawf Dymunol
* Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
* Tystiolaeth o gydweithio neu gysylltiadau â sefydliadau anacademaidd yn y sectorau preifat a chyhoeddus, neu\'r trydydd sector.
* Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch.
* Tystiolaeth o\'r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a\'u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol
Seniority level
* Mid-Senior level
Employment type
* Full-time
Job function
* Education and Training
Industries
* Higher Education
#J-18808-Ljbffr