PRIFYSGOL BANGOR
UNDEB Y MYFYRWYR
Cydlynydd y Cyfryngau Cymdeithasol a Chynnwys Digidol
(Cyf: BU03902)
Cyflog: £26,942 - £29,959 y flwyddyn (Graddfa 5)
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm fel Cydlynydd y Cyfryngau Cymdeithasol a Chynnwys Digidol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Drwy ymuno â'r sefydliad mewn cyfnod hollbwysig o ran ymgysylltu digidol ac ar-lein, mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio presenoldeb digidol yr Undeb ac arwain ar greu cynnwys effeithiol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli a datblygu ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol (Instagram, TikTok, Facebook), gan greu postiadau, straeon, fideos a graffeg deniadol sy'n adlewyrchu llais y myfyrwyr ac yn cefnogi ein hymgyrchoedd a'n digwyddiadau. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynnal ac yn diweddaru ein gwefan, gan sicrhau bod y cynnwys yn ffres, yn hygyrch, ac yn cyd-fynd â'n brand.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n hyderus ac yn effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol yn y swydd hon.
Bydd deiliad y swydd wedi cael addysg hyd lefel Safon Uwch (neu gyfwerth) a byddant yn gyfrifol am roi cyngor ar sut i ddatblygu cyfathrebiadau digidol Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol o'r gwasanaethau a'r cyfleoedd y mae Undeb Bangor yn eu cynnig. Byddant hefyd yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu system aelodaeth ar-lein yr Undeb, ynghyd â’r wefan, a phob platfform digidol arall.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o gyflwyno a chydlynu ymgyrchoedd digidol mawr eu heffaith ac o gynyddu amlygiad ar draws amrywiaeth o gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau gwe. Bydd ganddynt brofiad o weinyddu cynnwys gwefannau a bydd ganddynt sgiliau dylunio graffig a sgiliau creadigol cryf, a phrofiad o ddylunio deunyddiau hyrwyddo ar-lein a ffisegol megis posteri, logos a thaflenni. Mae sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i reoli nifer o brojectau a gweithio ar y cyd mewn amgylchedd cyflym a deinamig.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd barhaol hon mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio'r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â’r canlynol: Sharon Brown, Rheolwr Cyllid a Gweithrediadau, sharon.brown@undebbangor.com, ffôn: 01248 388012
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 11 Tachwedd 2025
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
----------------------------
BANGOR UNIVERSITY
STUDENT UNION
Social Media & Digital Contents Coordinator
(Ref: BU03902)
Salary: £26,942 - £29,959 p.a. (Grade 5)
We are looking to recruit a creative and enthusiastic individual to join our team as the Social Media & Digital Content Coordinator at Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor).
Joining the organisation at a very crucial time of digital and online engagement, this is an exciting opportunity to shape the Union’s digital presence and lead on the creation of impactful, student-focused content. The post holder will be responsible for managing and developing our social media channels (Instagram, TikTok, Facebook), creating engaging posts, stories, videos, and graphics that reflect the student voice and support our campaigns and events. They will also maintain and update our website, ensuring content is fresh, accessible, and aligned with our brand.
The ability to communicate confidently and effectively through the medium of Welsh is essential for this role.
Educated to A Level standard (or equivalent), the post holder will be responsible for advising on the development of the Students’ Union’s digital communications to ensure that all members are aware of the services and opportunities offered by Undeb Bangor. They will also contribute to the development of the Union’s online membership system, website, and all digital platforms.
The ideal candidate will have proven experience delivering and coordinating impactful digital campaigns and maximising exposure across a range of social media and web platforms. They will have experience in website content administration and possess strong graphic design and creative skills, with experience in designing both online and physical promotional materials such as posters, logos, and flyers. Strong communication and organisational skills are essential, along with the ability to manage multiple projects and work collaboratively in a fast-paced, dynamic environment.
The successful candidate will be expected to commence this permanent role as soon as reasonably possible.
This role will be located on campus at Bangor. Through our Dynamic Working framework, there will also be the option to spend some time working remotely (although remaining in the UK) to support work life balance, which will be discussed further with candidates at interview.
Applications will also be considered to carry out this role on a part-time or job share basis.
Applications will only be accepted via our on-line recruitment website, jobs.bangor.ac.uk. However, in cases of access issues due to disability, paper application forms are available by telephoning 01248 383865.
Informal enquiries can be made by contacting: Sharon Brown, Finance and Operations Manager, sharon.brown@undebbangor.com, tel. 01248 388012
Closing date for applications: 11 November 2025
Committed To Equal Opportunities