Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Gweithiwr cymorth arbenigol ymgysylltiad a gweithgareddau

Rhyl
Permanent
The Salvation Army
Posted: 20h ago
Offer description

Working hours: 40 awr yr wythnos (ROTA a allai gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau)

Interview Date: I’w gadarnhau

Rydym yn chwilio am unigolyn medrus, cadarnhaol a dymunol i ddarparu cyfleoedd cyd-gynhyrchu a gweithgareddau dargyfeiriol yn ein gwasanaeth newydd, y Prosiect STEP yn Sir Ddinbych.

Nod y prosiect hwn yw darparu profiad gwell, cyffredinol, o fyw mewn llety dros dro yn Sir Ddinbych, lle mae pobl yn cael eu cefnogi i wella eu lles ac adeiladu ar eu dyfodol.

Bydd STEP yn cefnogi hyd at 32 o aelwydydd sy’n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd.
Bydd cymorth yn dechrau yn y lle cyntaf mewn lleoliadau dros dro presennol yn y fwrdeistref (Gwely a Brecwast), cyn trosglwyddo i gyfleusterau byw â chymorth pwrpasol, wrth i'r adeiladau hyn ddod ar gael.

Cyfrifoldebau Allweddol:

1. Dylunio a chyflwyno rhaglen ddeniadol o weithgareddau ystyrlon a chyfleoedd cydgynhyrchu, i ddarparu strwythur a diben i deuluoedd a phobl sengl ar draws nifer o leoliadau cymunedol.
2. Gweithio mewn partneriaeth â’n tîm ehangach yn cefnogi teuluoedd a phobl sengl sy’n byw mewn llety brys dros dro ar draws sawl safle yn y Rhyl.

Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu:

3. Arwain mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n helpu i ddatblygu hyder a lles y rhai sy'n cymryd rhan.
4. Creu cyfleoedd cyd-gynhyrchu i bawb yn y gwasanaeth, gan alluogi llais pawb i gael ei glywed, harneisio syniadau da a’u defnyddio i ddylanwadu, dylunio a datblygu’r prosiect.
5. Arddangos gwerthoedd sefydliadol cadarnhaol, cymhwyso ymarfer sy’n wybodus yn seicolegol ac ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma i hwyluso ymgysylltiad.
6. Meddu ar y gallu i weithio mewn cydymdeimlad ag egwyddorion ysbrydol Byddin yr Iachawdwriaeth

Mae gan y rôl hon ofyniad galwedigaethol sef bod yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn Gristion ymroddedig ac ymarferol a chydymdeimlo ag athrawiaethau a bod yn gefnogol i amcanion a nodau Byddin yr Iachawdwriaeth.

Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.

Yn y proffil swydd fe welwch y meini prawf sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Gwnewch yn siwr eich bod yn eu trafod yn eich datganiad ategol gan fod hyn yn sail i'n rhestr fer.

Mae penodiad yn amodol ar eirdaon boddhaol, prawf o'r hawl i weithio yn y DU a gwiriad boddhaol DBS Uwch gyda Rhestr Wahardd o'r Gweithlu Plant.

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hon yn gynharach os ydym o'r farn bod digon o geisiadau wedi eu derbyn.

Sylwch y bydd unrhyw weithwyr Byddin yr Iachawdwriaeth sydd dan rybudd o ddiswyddo ac sy'n gwneud cais am y swydd hon yn cael ystyriaeth flaenoriaethol.

Gan ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun arweinwyr anabledd hyderus, rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd wag hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Rhyl
jobs Denbighshire
jobs Wales
Home > Jobs > Gweithiwr Cymorth Arbenigol Ymgysylltiad a Gweithgareddau

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save