Cyfrifydd Rheoli Cyflog: £39,517 y flwyddyn Oriau: 37 awr yr wythnos gyda gweithio hybrid hyblyg Lleoliad: Parc Busnes Llanelwy Ynghylch y rôl Cyfrifydd Rheoli Fel ein Cyfrifydd Rheoli, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi llwyddiant ariannol ein rhaglen datblygu tai. Byddwch yn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyfri'n gywir, bod rhagolygon llif arian yn gadarn, a bod cyllid yn cael ei reoli’n effeithlon — gan ein helpu i wneud y defnydd gorau o bob punt i greu effaith wirioneddol. Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Tîm Cyllid a’r Tîm Datblygu, byddwch yn darparu mewnwelediad ariannol y gellir ymddiried ynddo i gefnogi penderfyniadau strategol. Byddwch yn rheoli trosglwyddo tai sydd newydd eu cwblhau i’r gofrestr asedau, dadansoddi hyfywedd prosiectau a’u perfformiad, ac yn helpu llunio’r seiliau ariannol sy’n troi cynlluniau datblygu yn gartrefi sy’n newid bywydau pobl. Rydym yn chwilio am rywun cymwys (CIMA, ACCA, CIPFA neu gymhwyster cyfatebol) sydd â chymhelliant i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn fanwl gywir, yn gydweithredol, ac yn awyddus i gyfuno eich sgiliau technegol gyda phwrpas cymdeithasol gwirioneddol. Yng NghlwydAlyn, rydym yn byw ein gwerthoedd o Ymddiriedaeth, Caredigrwydd a Gobaith — ac rydym, gyda’n gilydd, yn adeiladu cymunedau cryfach a dyfodol heb dlodi. Bydd y rôl hon yn addas i chi os oes gennych brofiad o: Gweithio fel Cyfrifydd Rheoli, Cyfrifydd Prosiect neu Bartner Busnes Cyllid mewn cymdeithas dai, adeiladu neu ddatblygu eiddo. Cyfrifyddu ym maes eiddo tiriog, tai cymdeithasol, neu seilwaith, gyda dealltwriaeth o gylchoedd prosiect datblygu a chyfalafu asedau. Rhagolygon llif arian, hyfywedd prosiectau neu gynllunio busnes. Rheolaethau ariannol, TAW/CIS, a throsglwyddo gwaith ar y gweill i asedau cwblhedig. Gweithio’n gydweithredol â chydweithwyr cyllid ac anghyllid — gan gyfieithu data ariannol cymhleth yn fewnwelediad ystyrlon. Meddylfryd rhagweithiol ac atebol, gyda’r hyder i herio, cynghori a dylanwadu ar benderfynwyr. Teitlau cyfatebol: •Cyfrifydd Cyllid Datblygu • Cyfrifydd Prosiect • Partner Busnes Cyllid • Cyfrifydd Eiddo • Cyfrifydd Cyfalaf • Cyfrifydd Buddsoddi • Cyfrifydd Rheoli (Eiddo/Asedau)