Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Lecturer in law

London
Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Law lecturer
Posted: 11 July
Offer description

Join to apply for the Lecturer in Law role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

1 week ago Be among the first 25 applicants

Join to apply for the Lecturer in Law role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

Get AI-powered advice on this job and more exclusive features.

Darlithydd yn y Gyfraith - Addysgu ac Ymchwil

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dymuno penodi Darlithydd (Gradd 6) yn y Gyfraith.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn athrawon ac yn ysgolheigion ardderchog, neu â'r potensial i fod; yn meddu ar radd PhD neu brofiad proffesiynol cyfwerth yn y Gyfraith neu faes cytras erbyn i’r penodiad ddechrau; ac yn meddu ar agenda ymchwil uchelgeisiol sy’n cefnogi a/neu ehangu cryfderau ymchwil presennol yr Ysgol. Y maes penodol o arbenigedd ymchwil cyfreithiol ac addysgu o fewn y Gyfraith yw Troseddau Ariannol.

Gall deiliad y swydd hefyd oruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a chyfrannu at weinyddu a rheoli Ysgol y Gyfraith yn llwyddiannus.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydyn ni o’r farn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned ac yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon, a bydd ar gael o 1 Medi 2025 ymlaen.

Er mwyn cefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio'n hyblyg.

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â'r swydd hon at Bennaeth yr Ysgol yn lawpl-management@caerdydd.ac.uk

Cyflog: £40,497 - £45,413 y flwyddyn (Gradd 6). Mae unigolion a benodir i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 25 Mehefin 2025

Dyddiad cau: Dydd Sul, 13 Gorffennaf 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu awyrgylch cynhwysol ar gyfer gweithio. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Rydym ni'n arbennig yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng ngweithlu'r Brifysgol, fel y rheini sy'n uniaethu'n LHDT+ BAME neu bobl ag anableddau. Wrth helpu ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn ni’n ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg, hefyd.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Disgrifiad Swydd

Bydd deiliad y swydd yn addysgu israddedigion ac ôl-raddedigion yn unol â chanfyddiadau ymchwil ac yn cyfrannu at hanes ymchwil yr ysgol drwy ymroi i wneud ymchwil a fydd yn cael ei chyhoeddi. Mynnu rhagoriaeth ymchwil, addysgu a mentergarwch ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.

Ymchwil


* Cynnal ymchwil ym maes troseddau ariannol a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a’r Brifysgol trwy gynnyrch y bydd modd ei fesur megis ceisiadau am nawdd, cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion, cynadleddau academaidd cenedlaethol a/neu ganlyniadau ymchwil eraill yn ogystal â denu a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
* Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid
* Cyflwyno papurau mewn cynadleddau/seminarau, yn lleol ac yn genedlaethol
* Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol

Addysgu

* Cynllunio a chyflwyno rhaglenni addysgu ar gyfer cyrsiau a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu modiwlau, a hynny’n rhan o dîm modiwl
* Cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgolheigaidd eraill, gan gynnwys gwneud gwaith sy’n gysylltiedig ag arholiadau (gosod a marcio papurau a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), cyflawni dyletswyddau gweinyddol, gwasanaethu ar bwyllgorau a rhoi cymorth bugeiliol i fyfyrwyr y Brifysgol
* Ysbrydoli israddedigion ac ôl-raddedigion dan arweiniad mentor/arweinydd modiwl a datblygu sgiliau ar gyfer asesu a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr
* Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio israddedigion a myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd meistr a chyd-oruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
* Bod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth bugeiliol i fyfyrwyr

Arall

* Ymgysylltu’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn codi proffil yr Ysgol, meithrin cysylltiadau strategol werthfawr a nodi cyfleoedd i gydweithio ar amrywiaeth o weithgareddau – mae disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol
* Datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich perfformiad yn Ddarlithydd
* Cyfrannu at weinyddiaeth a gweithgareddau'r ysgol er mwyn hyrwyddo'r ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt
* Unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u cynnwys uchod, ond sy’n cyd-fynd â’r rôl.

Manyleb Unigolyn

Mae Manyleb y Person yn cael ei rannu i 2 adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut ydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Lle bo'n bosibl, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a ble y gwnaethoch ddefnyddio eich profiad, gwybodaeth, sgiliau penodol a galluoedd i gyd-fynd â’r rheini sy’n ofynnol ar gyfer y swydd benodol hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu hyn yn llawn drwy greu datganiad i gefnogi eich cais, gan restru’r holl feini prawf a rhoi sylwadau wrth bob un sy’n nodi sut y gwnaethoch eu bodloni. Rhaid cwblhau’r datganiad cyn dechrau gwneud eich cais ar-lein oherwydd bydd yn rhaid i chi ei lanlwytho. Pan fyddwch yn lanlwytho’r datganiad ategol, mae angen enwi’r ddogfen fel “datganiad ategol a dylai hefyd gynnwys gyfeirnod y swydd sy’n gorffen gyda BR” (sy’n berthnasol i’w swydd dan sylw). Mae'r adran ddymunol yn cynnwys rhestr o sgiliau, cymwysterau a phrofiad fyddai'n fuddiol i ddeiliad y swydd eu cael.

Bydd yr holl benderfyniadau wrth lunio rhestr fer yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol yn y lle cyntaf, gyda'r meini prawf dymunol yn cael eu defnyddio i ddewis neu ddad-ddewis ymgeiswyr yn dilyn hynny fel sy'n briodol. Byddwn yn cyfweld â'r ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r meini prawf dynodedig orau

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg

* Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn pwnc cysylltiedig, neu brofiad diwydiannol perthnasol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

* Arbenigedd a phortffolio diamheuol o ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol:

Troseddau ariannol gydag arbenigedd penodol ym maes osgoi talu trethi a gwyngalchu arian

Atebolrwydd Troseddol Corfforaethol

Perchnogaeth fuddiol

Cyfrinachedd Banciau

* Profiad addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig (gydag arbenigedd mewn o leiaf un gradd/modiwl craidd cymhwysol yn y gyfraith)
* Gwybodaeth am statws cyfredol yr ymchwil yn eich maes arbenigol
* Gallu diamheuol i gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion rhyngwladol cydnabyddedig a/neu sicrhau allbynnau ymchwil eraill
* Gallu diamheuol i fod yn llwyddiannus wrth geisio am gyllid ymchwil cystadleuol
* Gallu cyfrannu at y gwaith o gyflwyno’r modiwlau sy’n rhan o raglenni addysgu’r ysgol a’u datblygu’n barhaus

Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm

* Y gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
* Y gallu i gynnig cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion myfyrwyr unigol a’u hamgylchiadau a bod yn diwtor personol iddynt

Meini Prawf Dymunol

* Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol.
* Tystiolaeth o gydweithio â’r diwydiant
* Gallu amlwg i weithio heb oruchwyliaeth agos
* Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch.
* Tystiolaeth o’r gallu i gymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio, a hynny i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol.
* Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd.


Seniority level

* Seniority level

Mid-Senior level


Employment type

* Employment type

Full-time


Job function

* Job function

Education and Training
* Industries

Higher Education

Referrals increase your chances of interviewing at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd by 2x

Get notified about new Lecturer of Law jobs in Greater London, England, United Kingdom.

London, England, United Kingdom 1 week ago

Greater London, England, United Kingdom 2 weeks ago


Professor / Associate Professor / Lecturer in Corporate and / or Financial Law

London, England, United Kingdom 4 days ago

Wembley, England, United Kingdom 1 week ago


Volunteer Sexual Harassment at Work Employment Law Advice Line Volunteer | Rights of Women

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 1 week ago


Legal, Investment Banking Lawyer, Executive Director, London

London, England, United Kingdom 2 weeks ago


Simmons Adaptive – Interim Funds Consultant

London, England, United Kingdom 1 week ago

Greater London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 1 day ago

London, England, United Kingdom 1 month ago


Volunteer Immigration Law Tutor | Centre for Human Development

Feltham, England, United Kingdom 1 week ago

London, England, United Kingdom 10 hours ago


In-House Legal Counsel (Contractor - Maternity Leave Coverage)

London, England, United Kingdom 1 week ago


Volunteer Legal Volunteer – Help Us Review & Strengthen Our Charity’s Governance Documents | BoxAid

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 2 months ago

London, England, United Kingdom 2 months ago

London, England, United Kingdom 1 week ago


Legal Advisor Financial Markets - Director

London, England, United Kingdom 4 hours ago


Senior Specialist Legal Editor, Practical Law Employment

London, England, United Kingdom 2 weeks ago


Client Advisor - Re:link (hybrid/remote)

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 3 months ago

London, England, United Kingdom 1 week ago

We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Lecturer in law
Wembley
Regent College London
Law lecturer
Similar job
Lecturer in law
London
University of West London
Law lecturer
Similar job
Lecturer in law
London
Arden University
Law lecturer
See more jobs
Similar jobs
Education jobs in London
jobs London
jobs Greater London
jobs England
Home > Jobs > Education jobs > Law lecturer jobs > Law lecturer jobs in London > Lecturer in Law

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save