Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Tiwtor asesydd i cerbydau modur

Swansea
Gower College Swansea
£29,910 - £32,718 a year
Posted: 1 October
Offer description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Motor Vehicle Assessor

* Rhan-Amser (37 awr yr wythnos)
* Cyfnod Penodol (1 flwyddyn)
* £29,910 - £32,918 y flwyddyn
* Tycoch Campus

Cyfrifoldebau Allweddol:

* Asesu dysgwyr ym maes Cerbydau Modur trwy NVQs, prentisiaethau a chyrsiau adennill costau.
* Gweithio gyda'r tîm i addysgu, asesu a monitro portffolios dysgwyr yn fewnol, er mwyn sicrhau eu bod wedi diwallu gofynion gwiriwr allanol a chyrff cyhoeddus.
* Gweithio gyda chwsmeriaid o fewn y diwydiant i gynnal perthnasoedd a sicrhau contractau newydd gyda sefydliadau presennol a newydd.

Amdanoch chi:

* Cymhwyster addysgu a dysgu megis PTTL neu barodrwydd i ennill un.
* Dyfarniad Asesu (CAVA, TAA, A1, D32 / D33 neu
* Profiad llwyddiannus o weithio mewn amgylchedd cerbydau modur.

Buddion:

* 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
* Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
* 2 ddiwrnod lles i staff
* Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion:

Os nad oes gennych gymhwyster asesu, gall Coleg Gwyr Abertawe gynnig cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr llwyddiannus fel y gallant ennill dyfarniad/tystysgrif dan fframwaith TAQA. Cyflawnir hyn trwy ein cyfleuster datblygiad proffesiynol. Dysgwch ragor:

Os ydych chi'n meddu ar gymhwyster neu ddyfarniad Asesu D32/D33/A1, cysylltwch â ni Mae'r rhain yn gymwysterau dilys a chydnabyddedig. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn gallu cynnig hyfforddiant gloywi i ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn i chi ddiweddaru eich cymhwyster asesu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno'ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Swansea
jobs Swansea
jobs Wales
Home > Jobs > Tiwtor Asesydd i Cerbydau Modur

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save