DYSGU
Appointment of Members – 4 Members
Location: Pan Wales
Time commitment: You will be expected to commit a minimum of 1 day per month and also attend meetings of the Board.
Tenure of office: 4 years initial appointment.
Remuneration: The post of Board Member is remunerated at £198 per day. Dysgu will have a scheme to reimburse travel and other reasonable expenses incurred in carrying out the role. The appointment is not pensionable. Members will not be employed by Dysgu nor the Welsh Ministers and, therefore, will not have the rights of an ‘employee’ under employment legislation.
Welsh Government has brought a range of existing functions together into an arms-length body, Professional Learning and Leadership Education Wales (Dysgu), which has been operational since September 2025. Dysgu will lead on the delivery of nationally consistent professional learning to support practitioners including teaching assistants, teachers, senior leaders and headteachers in maintained schools in Wales along their career pathways. It will provide national support, including leadership and direction, for school improvement advisors and youth workers. The national professional learning programmes will reflect the Cabinet Secretary for Education’s priorities, including literacy, numeracy and wellbeing, alongside long-term change programmes including Welsh as a subject and Additional Learning Needs (ALN).
The Board of Dysgu will be expected to challenge, support and provide an external perspective and experience. The aim is to have a Board that comprises diverse range of relevant skills and life experiences that will enable it to develop a collective view on issues, providing the stimulus for continuous improvement within the organisation for the benefit of its customers and wider society.
Essential Criteria:
* Demonstrable interest in education and understanding of the education system in Wales including an understanding of the future needs and challenges, with a commitment to ensuring Dysgu drives progress on the Welsh Government’s key priorities in education.
* Excellent analytical skills and intellectual capability with the ability to make decisions and contribute effectively to thinking on both strategic and practical issues
* Excellent communication skills with the ability to represent Dysgu in public and engage with key stakeholders
* Ability to work collaboratively, in partnership and as part of a team to meet common goals
* The ability to bring fresh ideas to discussions while ensuring Dysgu keeps to its stated aims and has effective governance arrangements
* An ability to demonstrate understanding of the commitments of a public role, and the importance of robust governance, helpful challenge and scrutiny. Able to demonstrate a track record of commitment and delivery in relation to principles of equality and diversity.
It is the policy of the Welsh Government to promote and integrate equality of opportunity into all aspects of its business including appointments to public bodies. Applications are welcomed and encouraged from all groups, and we ensure that no eligible candidate for public office receives less favourable treatment on the grounds of age, disability, gender, marital status, sexual orientation, gender reassignment, race, religion or belief, or pregnancy and maternity. The principles of fair and open competition will apply, and appointments will be made on merit.
Language:
Dysgu – Professional Learning and Leadership Education Wales - Appointment of Members - Welsh Essential - Welsh Government (Cais)
Dysgu – Professional Learning and Leadership Education Wales - Appointment of Members - Welsh Desirable - Welsh Government (Cais)
The closing date for receipt of applications is 22 December 2025 (16:00).
DYSGU
Penodi Aelodau – 4 Aelodau
Lleoliad: Cymru Gyfan
Ymrwymiad amser: Disgwylir ichi ymrwymo i un diwrnod y mis o leiaf, ac ymuno hefyd â chyfarfodydd y Bwrdd.
Hyd y swydd: Penodiad cychwynnol o bedair blynedd
Tâl: Bydd yr Aelod Bwrdd yn cael tâl o £198 y diwrnod. Bydd gan Dysgu gynllun i ad-dalu costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill yr eir iddynt wrth gyflawni'r rôl. Ni thelir cyfraniad pensiwn. Ni fydd yr Aelodau yn cael eu cyflogi gan Dysgu na chan Weinidogion Cymru ac, felly, ni fydd ganddynt hawliau 'cyflogai' o dan ddeddfwriaeth cyflogaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod ag ystod o swyddogaethau presennol ynghyd i greu corff hyd braich, Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru (Dysgu), sydd wedi bod yn weithredol ers Medi 2025. Bydd Dysgu yn arwain y gwaith o ddarparu dysgu proffesiynol, sy'n gyson yn genedlaethol, i gefnogi ymarferwyr, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, athrawon, uwch arweinwyr a phenaethiaid mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ar hyd eu llwybrau gyrfa. Bydd yn darparu cymorth cenedlaethol, gan gynnwys arweiniad a chyfarwyddyd, i gynghorwyr gwella ysgolion a gweithwyr ieuenctid. Bydd y rhaglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol yn adlewyrchu blaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a llesiant, ochr yn ochr â rhaglenni newid hirdymor gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Bydd disgwyl i Fwrdd Dysgu herio, cefnogi, a chynnig persbectif allanol a phrofiad. Y nod yw cael Bwrdd sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o sgiliau perthnasol a phrofiadau bywyd fel y gall yr Aelodau, gyda’i gilydd, ffurfio barn ar faterion, gan ysgogi gwelliant parhaus o fewn y sefydliad er lles ei gwsmeriaid a chymdeithas yn ehangach.
Y Meini Prawf Hanfodol
* Diddordeb amlwg mewn addysg a dealltwriaeth o'r system addysg yng Nghymru, gan gynnwys dealltwriaeth o anghenion a heriau'r dyfodol, ynghyd ag ymrwymiad i sicrhau bod Dysgu yn gyrru gwelliant o ran blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ym maes addysg.
* Gallu deallusol a sgiliau dadansoddi rhagorol, ynghyd â’r gallu i wneud penderfyniadau a chyfrannu'n effeithiol at drafodaeth ar faterion strategol ac ymarferol
* Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i gynrychioli Dysgu yn gyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol
* Y gallu i weithio ar y cyd, mewn partneriaeth ac fel rhan o dîm i gyflawni amcanion cyffredin
* Y gallu i ddod â syniadau newydd i drafodaethau, gan sicrhau ar yr un pryd bod Dysgu yn cadw at y nodau a bennwyd, a bod ganddo drefniadau llywodraethiant effeithiol
* Y gallu i ddangos dealltwriaeth o ymrwymiadau rôl gyhoeddus, a phwysigrwydd llywodraethiant cadarn, herio buddiol a chraffu. Hanes blaenorol clir o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac o weithredu ar eu sail
Mae'n bolisi gan Llywodraeth Cymru i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ei busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Mae ceisiadau’n cael eu croesawu a’u hannog gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a bydd penodiadau'n cael eu gwneud yn ôl teilyngdod.
Iaith:
Dysgu – Addysg Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol Cymru - Penodi Aelodau - Cymraeg yn Hanfodol –
Dysgu – Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru - Penodi Aelodau -Cymraeg dymunol -
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 22 Rhagfyr 2025 (16:00).