Diolch am eich diddordeb yn y swyddi uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydym yn gwneud cam sylweddol i ehangu ein tîm Gwasanaeth Cynnal a Chadw Mewnol (DLO) sydd yn rhan o'n strategaeth ehangach i wella a chyflymu'r broses o addasu eiddo gwag yn barod i'w osod i denantiaid newydd. Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a gofalgar i fod yn rhan o'r siwrne ac i ymuno â’n tîm Cynnal a Chadw. Mae'r swyddi hyn yn cynnig gyfleoedd cyffrous i unigolion sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, dyma'r swydd i chi. Rydym yn chwilio am 10 o grefftwyr yn y crefftau canlynol: Saer Coed Trydanwr Peiriannydd Nwy a Phlymwr Labrwr Os hoffech sgwrs pellach am y swyddi hyn, cysylltwch â Shaun Jones, Rheolwr Atgyweiriadau a Cynnal a Chadw Cynlluniedig, ar 0300 111 2122. Cewch gyfle i gyfarfod y tîm a thrafod y swyddi yn ystod dwy noson agored ar 17/06/2025 a 2 4/06/2025 (manylion isod). Byddwn hefyd yn cynnig cymorth gyda CV ac i gyflwyno 'ch cais yn ystod y nosweithiau hyn. Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: Cystadleuol Lleoliad:Gogledd Cymru Oriau Gweithio: 40 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddio cerbyd, a ddarperir gan y cwmni, sy’n cyd-fynd â’r dibenion gwaith, i'w ddefnyddio yn amser Grŵp Cynefin yn unig. Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Disgrifiadau Swyddi DS Labrwr Aml-Grefft JD Multiskilled Labourer DS Saer Coed Aml-Grefft JD Multiskilled Joiner DS Trydanwr Aml-Grefft JD Multiskilled Electrician DS Peiriannydd Nwy a Phlymwr Aml-Grefft JD Multiskilled Gas Engineer and Plumber Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: w/c 07/07/2025 Nosweithiau Agored - cyfle i alw heibio a chael sgwrs hefo'r tîm am y swyddi: 17/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn,Uned 8/9, Llys y Fedwen, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4BL 24/06/2025 17:00 - 19:30 Swyddfa Grŵp Cynefin, Tŷ John Glyn, 54 Vale Street, Dinbych. LL16 3BW Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swyddi hyn.