Job Description:
Llais ein tirluniau, hyrwyddwyr cadwraeth a’r rheiny sy’n caru popeth am yr awyr agored. Byddwch yn helpu i gadw cefn gwlad ac arfordir Prydain yn hardd. Gan weithio yn rhai o leoedd a mannau mwyaf godidog y wlad, waeth beth yw’r tywydd, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill a byddwch yn ymdrechu i sicrhau bod tirluniau’n cael eu harddangos ar eu gorau ac yn parhau i syfrdanu ymwelwyr.
[ads1]
Job Responsibilities:
* Byddwch hefyd yn gyfrifol am helpu i gyfathrebu ein gwaith cadwraeth yn llwyddiannus gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd newydd a phresennol, a hynny drwy ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywysedig a thrwy ymgysylltu gyda chymunedau lleol.
* Byddwch yn magu ac yn cynnal cysylltiadau proffesiynol cryf gyda chydweithwyr, contractwyr, tenantiaid a rheolwyr tir cyfagos.
* Byddwch yn gwerthfawrogi’r angen i’n safleoedd cefn gwlad gynhyrchu incwm, felly bydd eich syniadau busnes yn chwarae rhan bwysig yn llwyddiant y tîm.
* Byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran cynnal safonau rhagorol cyflwyno a chynnal a chadw eiddo, gan lwyddo i gyflawni targedau Dangosyddion Perfformiad Cadwraeth.
Job Requirements:
* Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn cynnwys cyflwyno’n gyhoeddus
* Meddu ar sgiliau trefnu da, yn cynnwys creu rhaglenni gwaith
* Meddu ar dystiolaeth o reoli ac arwain pobl yn dda
* Dod o gefndir llwyddiannus o reoli ac arwain materion cydymffurfio gyda gofynion iechyd a diogelwch ac amgylcheddol
* Yn gallu rheoli contractwyr a phrosiectau bach, yn cynnwys cyllidebau.
* Meddu ar brofiad ymarferol o sgiliau cefn gwlad/gwledig
* Profiad sylweddol o weithio gyda gwirfoddolwyr ac yn gallu dangos empathi tuag atynt
* Diploma/NVQ3 neu uwch mewn cadwraeth cefn gwlad neu amgylcheddol
* Profiad o arolygu cynefinoedd a rhywogaethau
* Meddu ar drwydded yrru lawn y DU
* Sgiliau adnabod bywyd gwyllt da
Job Details:
Company:National Trust
Vacancy Type:Full Time
Job Location:Caernarfon, Wales, United Kingdom
Application Deadline: N/A
[ads2]
Apply Here
instantcareers.net
#J-18808-Ljbffr