Cardiff Parenting Services are strategically led by a Principal Educational Psychologist. Parents Plus (0-5) and Parents First (5-18) are the psychology-led parenting services within Cardiff Parenting. We are excited to be looking for a Psychology-Led Practitioner to cover a maternity leave within the Parents Plus team, specifically working with parents who are pregnant, or parents or carers who have an infant or child in the early years.
Parents Plus is an innovative psychology-led parent-infant service, who deliver personalised, psychology-informed interventions in the family home and community with a focus on supporting parent-child relationships to promote early child development and wellbeing. The team is led by a Senior Educational Psychologist. The successful candidate will join a team of 12 Psychology-Led Practitioners, supported by 5 Senior Psychology-Led Practitioners and 3 Educational Psychologists.
We have office bases across Cardiff, and also have equipment to work remotely.
Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Brif Seicolegydd Addysg. Parents Plus (0-5) a Parents First (5-18) yw’r gwasanaethau rhianta dan arweiniad seicoleg o fewn Rhianta Caerdydd. Rydym yn awyddus i recriwtio Ymarferydd Dan Arweiniad Seicoleg i gyflenwi absenoldeb mamolaeth o fewn tîm Parents Plus, gan weithio'n benodol gyda rhieni sy'n feichiog, neu rieni neu ofalwyr sydd â baban neu phlentyn bach yn y blynyddoedd cynnar.
Mae Parents Plus yn wasanaeth rhieni-babanod arloesol, sy'n cynnig ymyriadau personol yn seiliedig ar seicoleg yng nghartref y teulu neu yn y gymuned. Ffocws ei gwaith yw cefnogi perthnasoedd rhieni a phlant i hyrwyddo datblygiad a lles cynnar plant. Caiff y tîm ei arwain gan Uwch Seicolegydd Addysg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o 12 Ymarferydd Dan Arweiniad Seicoleg, gyda chefnogaeth 5 Uwch Ymarferydd Dan Arweiniad Seicoleg a 3 Seicolegydd Addysg.
Mae gennym swyddfeydd ar draws Caerdydd, yn ogystal ag offer ar gyfer gweithio o bell.