RHEOLYDD CYFLEUSTERAU
Ystradgynlais
A GBP 37,938 i A GBP 40,476 pro rata
Mae Cyngor Ystradgynlais wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad cymunedol a llesiant ein trigolion. Mae rhan allweddol on gwasanaethau yn cynnwys rheoli nifer o gyfleusterau cymunedol pwysig. Maer rhain yn cynnwys dau barc hamdden mawr 14 and 15 hectar, dau barc coffa, cloc canol y dref, cae chwaraeon, clwb bowlio, y fynwent leol a rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus.
Wrth inni gynnal ein hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn chwilio am Reolydd Cyfleusterau rhagweithiol, ymarferol a threfnus iawn i oruchwylio a rheoli portffolio eiddo, asedau, a seilwaith y Cyngor. Mae hon yn rÃl allweddol syn cynnwys nifer o gyfrifoldebau amrywiol ar draws rheoli cyfleusterau, iechyd a diogelwch, cyflawni prosiectau, a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Bydd eich rÃl yn cynnwys mynychu cyfarfodydd y Cyngor yn rheolaidd i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i sicrhau y caiff fframweithiau rheoleiddiol, trefniadau archwilio a deddfwriaeth Iechyd and Diogelwch eu hyrwyddo. Bydd disgwyl ichi gynnal y safonau uchaf ar draws ein holl eiddo a llecynnau cyhoeddus, trwy ddatblygu rhaglen fanwl o archwiliadau a gwelliannau ac atgyweiriadau yn Ãl y galw, gan sicrhau bod yr holl waith a phrosiectau yn cael eu cyflawni mewn pryd ac o fewn cytundebau lefel gwasanaeth a chyllidebau.
Bydd angen hefyd ichi allu cynrychiolir Cyngor mewn trafodaethau a negydiadau gyda chyrff a chyflenwyr allanol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gefnogi cyfrifoldebau amgylcheddol y Cyngor o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol.
Mae disgwyl y bydd gennych gymhwyster proffesiynol priodol. Mae disgwyl hefyd y byddwch yn ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae sgiliau TG Office medrus yn hanfodol hefyd. Bydd disgwyl hefyd ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gydar nos ac ambell benwythnos yn Ãl y galw.
Er mwyn cael rhagor o fanylion am y swydd gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais, ewch in gwefan yn: onevoicewales.wales/opportunities:and:engaging:with:one:voice:wales/vacancies/
Ni dderbynnir dogfennau CV.
DYDDIAD CAU: Canol nos ar y 23ain Mai 2025
Mae Cyngor Tref Ystradgynlais yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac maen croesawu ceisiadau o bob rhan or gymuned.