Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Swyddog tai (cytundeb dros dro) / housing officer (fixed term contract)

Penygroes
Temporary
Housing officer
Posted: 13h ago
Offer description

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol i weithredu fel y prif gyswllt i’r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a’r gymuned leol yn gyffredinol. Byddwch yn s icrhau gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori: gosod eiddo yn deg ac yn effeithiol; uchafu incwm rhent y Gymdeithas; delio gydag achosion o ymddygiad gwrth gymdeithasol. Disgwylir i chi weithio’n effeithiol fel rhan o’r tîm tai er mwyn darparu gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol ac effeithlon i denantiaid a chleientiaid eraill, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a safonau Gofal Cwsmer y Gymdeithas. Byddwch yn cymryd rhan allweddol i dd atblygu cyfleoedd cyfranogiad effeithiol i denantiaid. ​ ​ ​ Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir; rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd gefnogol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a d ylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. ​ Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol ein tenantiaid, hon yw’r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Delyth Thomas, Cydlynydd Tai ar 0300 111 2122. ​ Y Pecyn Math o gytundeb: Dros Dro, tan diwedd Awst 2026 Cyflog: £28,911 y flwyddyn pro rata Lleoliad: Penygroes (gellir gweithio o adref ar adegau ond mae disgwyliad i'r swyddog fod yn ymweld â thenantiaid yn eu cartrefi ac yn gweithio yn y swyddfa) Oriau Gweithio: 21 awr yr wythnos (Dydd Llun, Mawrth a Gwener yn ddelfrydol) Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau ​ banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd pro rata Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) ​ Disgrifiad Swydd ​ DS Swyddog Tai Dros dro 0525.pdf ​ JD Housing Officer Temporary 0525.pdf ​ Buddiannau Pecyn Buddion.pdf ​ ​ Datblygiad Personol: ​ Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais Cyfweliadau: 26.06.25 ​ Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
Social care jobs in Pembrokeshire
jobs Pembrokeshire
jobs Penygroes
jobs Wales
Home > Jobs > Social care jobs > Housing officer jobs > Housing officer jobs in Pembrokeshire > Swyddog Tai (cytundeb dros dro) / Housing Officer (fixed term contract)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save