Mae gan NRL gyfleoedd cyffrous ar gyfer Peirianwyr Dylunio Mecanyddol (pob lefel) gydag un o'n cleientiaid blaenllaw, Tenet Consultants Ltd. Maent yn arbenigwyr mewn peirianneg a dylunio amlddisgyblaethol arloesol, wedi' eu lleoli ar hyn o bryd yn Warrington a Cumbria. Ym mis Ionawr 2024 byddant yn agor swyddfa newydd yn Ynys Môn, Gogledd Cymru ac yn ceisio ymgysylltu â phersonél lleol i ymuno â'u tîm. Fel Ymgynghoriaeth Dylunio Peirianneg, mae Tenet yn darparu gwasanaethau dylunio a thechnegol arbenigol i amrywiaeth o sectorau diwydiant, yn bennaf Niwclear. Mae eu gweithgareddau dylunio mecanyddol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Astudiaethau Dylunio Peirianneg Cysyniad a Phen blaen (FEED) Manyleb Offer Dylunio Manylion Cadarnhad Peirianneg Dylunio Trin Mecanyddol Arbenigol Dylunio Pibellau Mecanyddol Gosod gweithgynhyrchu a Chymorth Comisiynu Adolygiadau Cyfnodol o Ddiogelwch Cofnodion Ansawdd Oes (LQR) Dylunio System Ddiogelwch Asesiad Diogelwch Niwclear Annibynnol (INSA) ac Adolygiad Cymheiriaid Yr hyn y bydd ei angen arnoch chi: Profiad o weithio mewn diwydiant sy'n cael ei reoleiddio i safon uchel, yn ddelfrydol Niwclear. Isafswm HNC. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da. Y gallu i wneud cyfrifiadau dylunio mecanyddol, cynhyrchu manylebau technegol ac ymholiadau, taflenni data, perfformio gwerthusiadau cynigion technegol. Gwirio dogfennau dylunio. Rhaid bod gan bob ymgeisydd y gallu i gael BPSS. AutoCAD, Inventor, pecyn cyffredinol Microsoft Office. Beth yw’r fantais i chi?: Swyddi contract neu swyddi parhaol ar gael Portffolio o waith diddorol Tâl / cyflogau cystadleuol Gweithio hybrid ar gael Am y Cleient: Mae gan dîm Mecanyddol Tenet flynyddoedd lawer o brofiad mewn Niwclar a diwydiannau tra reoledig eraill. O’r cysyniad cychwynnol, a’r dichonoldeb trwy gomisiynu, adeiladu a’r datgomisiynu yn y pen draw, mae gan Tenet y profiad a’r gallu i ddarparu dylunio a pheirianneg un ddisgyblaeth ac amlddisgyblaeth i ateb eich gofyniono’r gofal asedau hyd at rhoi cymorth i prosiectau sylweddol. Ynglŷn â NRL: Mae NRL yn cysylltu cwmnïau peirianneg byd-eang â'r bobl iawn i ddod â'u prosiectau'n fyw. Wrth i ni symud ymlaen â’ch cais bydd ein tîm o recriwtwyr dawnus wrth law i’ch cefnogi i sicrhau eich rôl nesaf. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir, ac rydym wedi ymrwymo i hybu amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y diwydiannau rydym yn eu cefnogi. Dyna pam mae ein statws Aelod sydd wedi Ymrwymo i Amrywiaeth gyda’r Gymdeithas Cwmnïau Staffio Proffesiynol mor bwysig i ni. The NRL Group connect global companies with the right people to bring engineering projects to life. Supporting contracting companies with energy transition plans and working with our clients to create a cleaner, greener future. We welcome applications from every walk of life and are committed to diversity within the industries we support, as a certified Inclusive Recruiter and Armed Forces friendly employer. You can ensure you stay safe when job searching online by visiting the JobsAware website