Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Director of education

Cardiff
Educators Wales
Director education
€100,000 - €125,000 a year
Posted: 2h ago
Offer description

The Representative Body of the Church in Wales

Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Addysg
Cyflog: £68,149
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)

Diben y Swydd

Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at ddyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddarparwr addysgol sylweddol sy'n gwasanaethu 27,000 o ddisgyblion mewn 144 o ysgolion (gan gynnwys 5 ysgol uwchradd) mewn ystod eang o gymunedau gwledig a threfol, mawr a bach, Cymraeg a Saesneg eu hiaith.

Mae’r Cyfarwyddwr Addysg yn gyfrifol am arwain ar berthnasoedd a sgyrsiau am ddatblygu polisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector ac am sicrhau bod darpariaeth addysg yr Eglwys yng Nghymru yn parhau i ddatblygu o ran ansawdd ac uchelgais ac yn chwarae rhan lawn, hyderus a chynyddol yn nhirwedd addysgol Cymru.

Mae’n gweithio'n agos gydag Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, gyda Chyfarwyddwyr Addysg yr Esgobaethau ac arweinwyr addysgiadol eraill.

Bydd y Cyfarwyddwr Addysg yn aelod o'r tîm Cenhadaeth a Strategaeth, ac yn rheoli dau gynghorydd cenedlaethol arbenigol, a bydd yn cyfrannu at ddarparu cyngor polisi a datblygu gwasanaethau parhaus ar draws ein holl ysgolion.

Manyleb y Person:

Hanfodol

1. Gradd mewn pwnc perthnasol.
2. Statws Athro Cymwysedig (SAC).
3. Dealltwriaeth drylwyr o'r dirwedd addysgol a'r amgylchedd polisi yng Nghymru.
4. Ymrwymiad i gynnal ethos unigryw, cymeriad, gweledigaeth a chenhadaeth Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, i wella ansawdd eu gwaith yn gyson, ac i gryfhau a gwella eu safle, eu proffil a'u henw da yn nhirwedd addysgol Cymru.
5. Profiad uwch helaeth o weithredu yn y sector addysg fel arweinydd ysgol, Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth, neu swyddog mewn llywodraeth leol neu genedlaethol, gan gynnwys profiad o weithio gydag uwch swyddogion ac aelodau etholedig.
6. Craffter gwleidyddol, ynghyd â sgiliau rheoli perthnasoedd cryf, rhwydweithio, dylanwadu, adeiladu tîm, a meithrin consensws.
7. Y gallu i weithio fel rhan o uwch dîm rheoli mewn amgylchedd cymhleth, gan gynnwys llywio polisïau’n llwyddiannus drwy strwythurau llywodraethu tra’n ymgynghori â rhanddeiliaid drwy gydol yr amser.
8. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog.
9. Profiad o gynhyrchu briffiau cryno, craff ar faterion cymhleth a rheoli prosiectau mawr o'u cychwyn i'w gweithredu tra'n monitro a gwerthuso eu heffaith.
10. Parodrwydd i deithio drwy Gymru a thu hwnt, gan gynnwys aros dros nos.
11. Trwydded yrru lawn a defnydd o'ch trafnidiaeth eich hun.
12. Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.

Cais

I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’i danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol i’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk

Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a anfonir atom ar ffurf PDF.

Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.

Dyddiad cau

09 Mai 2025 am 10.00 am

Dyddiadau Cyfweliad

02 Mehefin 2025 i'w gadarnhau yn bersonol yng Nghaerdydd #J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Provincial director of education
Cardiff
Educators Wales
Director education
€100,000 - €125,000 a year
See more jobs
Similar jobs
Education jobs in Cardiff
jobs Cardiff
jobs Cardiff
jobs Wales
Home > Jobs > Education jobs > Director education jobs > Director education jobs in Cardiff > Director of Education

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save