Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Internal applicants only - project support officer (welsh)

Project support officer
Posted: 15 December
Offer description

Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Swyddog Cefnogi Prosiect (Cymraeg) Rydym yn chwilio am Swyddog Cefnogi Prosiectau i gefnogi'r Brifysgol yn y gwaith llwyddiannus o ddatblygu a chyflwyno ein prosiect Cynllun Cynefin. Cynllun Cynefin yw'r fframwaith iaith/diwylliant Cymraeg newydd sy'n hyrwyddo ein nodau strategol ac yn cyflawni Mesurau Llwyddiant y Brifysgol. Bydd yn cefnogi a gwella sut mae ein cynnig Cymraeg a dwyieithog yn cael ei ddatblygu, gan gynnwys cryfhau cyfleoedd i bawb gofleidio’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Gan weithio gyda Deon y Gymraeg a’r Academi Gymraeg, bydd y Swyddog Cymorth Prosiectau yn gyfrifol am gefnogi cynllunio, amserlennu, monitro a rheoli prosiectau llwyddiannus. Gall yr aseiniad amrywio wrth i amser fynd rhagddo, ac efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd gefnogi prosiectau eraill yn ôl yr angen. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud y canlynol: • Cynnig cymorth prosiect proffesiynol a chynhwysfawr i’r Academi Gymraeg – Deon y Gymraeg, Rheolwr yr Academi Gymraeg a Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn cyflawni ei hamcanion ar amser. • Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i lunio a chyflwyno'r prosiect. • Ymchwilio a dadansoddi materion penodol o fewn y prosiect Cynllun Cynefin, gan greu adroddiadau argymhelliad, wedi'u hategu gan ddatblygiadau o fewn rheoli prosiect a'r sector addysg uwch. Bydd sgiliau dwyieithog rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol yn y swydd hon. Mae un swydd ar gael Mae'r swydd hon yn llawn-amser ac ar dymor penodedig am 24 mis. Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn (Gradd 5) Dyddiad cau: Dydd Sul, 4 Ionawr 2026 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Prif Ddyletswyddau 1. Cynnig cymorth prosiect proffesiynol a chynhwysfawr i’r Academi Gymraeg – Deon y Gymraeg, Rheolwr yr Academi Gymraeg a Swyddog Cangen Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, - gan gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn cyflawni ei hamcanion ar amser. 2. Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol yng nghyswllt prosesau a gweithdrefnau rheoli rhaglenni a phrosiectau i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a chreadigrwydd wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall. 3. Ymchwilio a dadansoddi materion penodol o fewn Cynllun Cynefin, gan greu adroddiadau argymhelliad, wedi'u hategu gan ddatblygiadau o fewn rheoli prosiect a'r sector addysg uwch. 4. Sicrhau bod Cynllun Cynefin yn cael ei ddarparu i’r sefydliad, gan newid y ddarpariaeth yn rhagweithiol yn unol â gofynion cwsmeriaid/rhanddeiliaid 5. Cydweithio â thîm yr Academi Gymraeg a chymunedau cymorth ehangach i wneud argymhellion ar gyfer datblygiadau i brosesau a gweithdrefnau sefydledig 6. Meithrin cydberthynas waith gyda chysylltiadau allweddol, a chreu cysylltiadau cyfathrebu addas gydag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol fel y bo angen 7. Creu gweithgorau penodol sy'n cynnwys cydweithwyr yn y Brifysgol i gyflawni amcanion Cynllun Cynefin 8. Goruchwylio timau prosiect penodol o bryd i'w gilydd er mwyn cyflawni amcanion allweddol 9. Datblygu a chyflwyno hyfforddiant yn ôl yr angen ar gyfer prosiectau o fewn Cynllun Cynefin. 10. Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm; 11. Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill yn y Brifysgol ar ddatblygiadau a thechnolegau newydd sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o Gynllun Cynefin yn ôl yr angen. Dyletswyddau Cyffredinol 12. Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob un o’r dyletswyddau 13. Cadw at bolisïau’r Brifysgol mewn perthynas ag Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth 14. Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol nad ydynt wedi’u crybwyll uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y rôl Gwybodaeth Ychwanegol Fel gweithiwr ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd deiliad y swydd: • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, polisïau, gweithdrefnau a chodau ariannol a Phrifysgol eraill fel y bo'n briodol. • Cymerwch ofal rhesymol am iechyd a diogelwch eich hun a phersonau eraill y gall eich gweithredoedd neu hepgoriadau yn y gwaith effeithio arnynt yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cyfarwyddebau'r CE a Pholisïau a gweithdrefnau Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd y Brifysgol ac i gydweithredu â'r Brifysgol ar unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol a osodir arni fel y cyflogwr. Nodyn Pwysig : Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn ichi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Gofalwch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei rhoi’n cyfateb i rifau’r meini prawf a amlinellir isod. Caiff eich cais ei ystyried ar sail y wybodaeth a rowch yn unol â phob elfen. Wrth atodi’r datganiad ategol i’ch cais, sicrhewch mai cyfeirnod y swydd wag yw enw’r ddogfen, e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 21158BR Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg 1. Gradd/NVQ 4 neu aelodaeth/profiad proffesiynol cyfatebol Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad 2. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar 3. Profiad sylweddol o weithio mewn rôl cefnogi rhaglen/prosiect. 4. Dealltwriaeth broffesiynol amlwg o reoli prosiect neu newid i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol. 5. Gallu sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm 6. Gallu cyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl 7. Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau 8. Tystiolaeth o allu datrys problemau eang drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle gallai’r canlyniadau amrywio 9. Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, yn ogystal â monitro cynnydd. Arall 10. Parodrwydd i ymgymryd â rhagor o hyfforddiant a datblygiad Meini Prawf Dymunol 11. Cymhwyster Ôl-raddedig/Proffesiynol 12. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch ac o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Addysg Uwch

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Finance project support officer
Barnstaple
Systems Engineering and Assessment Limited
Project support officer
£45,000 a year
Similar job
Finance project support officer
Permanent
Project support officer
£45,000 a year
Similar job
Project support officer
London
Permanent
Advanced Resource Managers
Project support officer
€315,000 a year
See more jobs
Similar jobs
Home > Jobs > Administration jobs > Project support officer jobs > Internal Applicants Only - Project Support Officer (Welsh)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save