The National Lottery Heritage Fund
As the largest funder for the UK’s heritage, our vision is for heritage to be valued, cared for and sustained for everyone, now and in the future. We believe in the power of heritage to ignite the imagination, offer joy and inspiration, and to build pride in place and connection to past.
Our mission is to use our expertise to support and champion the UK’s heritage and demonstrate the transformative potential of National Lottery funding through delivering our new strategy Heritage 2033. We ensure that money from the National Lottery makes a decisive difference for people, places and communities.
Marketing andCommunications Manager, Wales
We are currently recruiting for a permanent full time Marketing & Communications Manager based in our Cardiff office with Hybrid working. The post-holder must be fluent in Welsh and English with a high level of written and verbal communications skills.
The marketing team is responsible for pro-actively promoting our work to people who play the National Lottery, those who apply for our funding and other stakeholders such as the heritage sector and public bodies. You will be a communications all-rounder, with roughly half your time spent on marketing and half on media relations, PR and social media. You will be confident to develop and deliver marketing plans and tactics to support our work in Wales driving new business through activity across multiple channels. In addition to a specific Wales focus, you will also work closely with colleagues in our central communications team, supporting and directly developing a range of corporate and UK-wide activities.
If you enjoy broad marketing roles, with significant opportunity to work across both strategy and delivery, this is an ideal role for you. You will play a vital role in promoting our funding and telling the story of what it makes possible, supported by a talented and collaborative team.
If you are excited about helping ensure that heritage is inclusive and accessible to everyone, for now and future generations, then we want to hear from you.
* Applications close on:10June 2025.
* Interviews are expected to take place:19/20 June 2025.
Our Values
Our Values and Behaviours sit at the heart of our work and are central to how we recruit. How you demonstrate our Values is just as important to us as your skills and experience.
* Inclusive of all aspects of heritage, people and communities.
* Ambitious for our people, communities and heritage.
* Collaborative by working and learning together.
* Trusted for our integrity, expertise and judgement.
Flexible Working
The National Lottery Heritage Fund has offices all over the UK and we champion a flexible approach to working where this supports our business needs. We have formally adopted a hybrid working approach. This means that most employees will work from their contracted Heritage Fund office twice a week at minimum. Time spent on site visits to projects or other meetings based at another Heritage Fund or external office are counted as part of those two days. The other days in the week employees may work from home.
Disability Confident Employer
We guarantee to interview all disabled applicants who meet the minimum essential criteria for every vacancy. We always endeavour to make reasonable adjustments and special requirements can be discussed and arranged before an interview.
The National Lottery Heritage Fund pledges to provide an inclusive working and learning environment for our people which prioritises fairness, equality, diversity and inclusion as well as dignity and respect for all. We will create a workspace where intimidation, discrimination, harassment, bullying and victimisation are not tolerated and actively prevented and opposed.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, ein gweledigaeth yw i werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Credwn mewn nerth treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i ennyn balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.
Ein cenhadaeth yw defnyddio ein harbenigedd i gefnogi a hybu treftadaeth y Deyrnas Unedig a dangos potensial trawsnewidiol arian y Loteri Genedlaethol trwy gyflwyno ein strategaeth Treftadaeth 2033 newydd. Rydym yn sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, Cymru
Rydym wrthi'n recriwtio ar gyfer Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu amser llawn parhaol yn ein swyddfa yng Nghaerdydd gyda gweithio hybrid. Mae'n rhaid i'r deiliad swydd fod yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar o safon uchel.
Mae’r tîm marchnata'n gyfrifol am hyrwyddo ein gwaith yn rhagweithiol i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, y rhai sy’n gwneud cais am ein hariannu a rhanddeiliaid eraill megis y sector treftadaeth a chyrff cyhoeddus. A chithau'n amryddawn ym maes cyfathrebu, byddwch yn treulio tua hanner o'ch amser ar farchnata a hanner ar gysylltiadau cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn hyderus wrth ddatblygu a chyflwyno cynlluniau a thactegau marchnata i gefnogi ein gwaith yng Nghymru, gan ysgogi busnes newydd drwy weithgarwch ar draws nifer o sianeli. Yn ogystal â ffocws penodol ar Gymru, byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn ein tîm cyfathrebu canolog, gan gefnogi a datblygu amrywiaeth o weithgareddau corfforaethol a DU gyfan yn uniongyrchol.
Os ydych chi'n mwynhau rolau marchnata eang, gyda chyfle sylweddol i weithio ar draws strategaeth a chyflwyno, dyma rôl ddelfrydol i chi. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo ein hariannu ac adrodd stori'r hyn y mae'n ei alluogi, wedi'ch cefnogi gan dîm dawnus a chydweithredol.
Os ydych yn gyffrous am helpu i sicrhau bod treftadaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, yn yr oes bresennol ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yna rydym am glywed oddi wrthych.
* Daw ceisiadau i ben ar:10 Mehefin 2025.
* Disgwylir cynnal cyfweliadau: 19/20 Mehefin 2025.
Ein Gwerthoedd
Saif ein Gwerthoedd a'n Hymddygiadau wrth wraidd ein gwaith ac maent yn rhan annatod o'r ffordd yr ydym yn recriwtio. Mae'r ffordd yr ydych chi'n dangos ein Gwerthoedd yr un mor bwysig i ni â'ch sgiliau a'ch profiad.
* Cynhwysol o bob agwedd ar dreftadaeth, pobl a chymunedau
* Uchelgeisiol ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a'n treftadaeth
* Cydweithredol trwy weithio a dysgu gyda'n gilydd
* Ymddiriedir ynom am ein cyfanrwydd, ein harbenigedd a'n barn
Gweithio Hyblyg
Mae gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol swyddfeydd ledled y DU ac rydym yn hyrwyddo dull hyblyg o weithio lle mae hyn yn cefnogi ein hanghenion busnes. Rydym wedi mabwysiadu dull gweithio hybrid yn ffurfiol. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn gweithio o swyddfa Cronfa Treftadaeth dan gontract ddwywaith yr wythnos o leiaf. Mae'r amser a dreulir ar ymweliadau safle â phrosiectau neu gyfarfodydd eraill sydd wedi'u lleoli swyddfa arall y Gronfa Treftadaeth neu swyddfa allanol arall yn cael ei gyfrif fel rhan o'r ddau ddiwrnod hynny. Gall weithio o adref ar dyddiau eraill yn ytsod yr wythnos.
Cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn gwarantu rhoi cyfweliad i bob ymgeisydd ag anabledd sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer pob swydd wag. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol a gellir trafod a threfnu gofynion penodol cyn cyfweliad.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn addo darparu amgylchedd gweithio a dysgu cynhwysol i'n pobl sy'n blaenoriaethu tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad yn ogystal ag urddas a pharch at bawb. Byddwn yn creu gweithle nad yw'n goddef bygythiadau, gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio ac erledigaeth a lle caiff y rhain eu gwrthwynebu'n weithredol.
#J-18808-Ljbffr