Summary
We’re looking for a Community, Participation & Volunteering Co-ordinator to help us build meaningful relationships, create inclusive opportunities, and inspire civic action.The role includes taking on Duty Management responsibilities for Tredegar House on a rota basis. Occasional evening and weekend working will be required. Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cymuned, Cyfranogiad a Gwirfoddoli i’n cynorthwyo i feithrin cysylltiadau ystyrlon, creu cyfleoedd cynhwysol ac ysbrydoli gweithrediad dinesig.Mae’r swydd yn cynnwys ymgymryd â chyfrifoldebau Rheolwr ar Ddyletswydd ar gyfer Tŷ Tredegar ar sail rota. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau bob hyn a hyn.
What it's like to work here
A place shaped by the local community, Tredegar House and its surrounding gardens and parkland stand proudly at the heart of Newport's heritage. For more than 500 years the house was home to the Morgan family, whose lives impacted on the population of south-east Wales socially, economically and politically.
We currently have over 250 regular volunteers who support us day to day and more who join us for one-off experiences. By creating inclusive opportunities, we aim to break down barriers to participation and connect more people with heritage and nature.
Together with Dyffryn Gardens, we form the South East Wales portfolio. With increasing visitor numbers, exciting conservation work and a new national strategy, we are an outward looking team with big ambitions for the future.
Yn lleoliad wedi’i lywio gan y gymuned leol, mae Tŷ Tredegar a’r gerddi a’r parcdir o’i amgylch yn sefyll yn llawn balchder wrth galon treftadaeth Casnewydd. Am dros 500 mlynedd, bu'r tŷ'n gartref i'r teulu Morgan, yr oedd eu bywydau wedi cael effaith ar boblogaeth de-ddwyrain Cymru, yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol.
Ar hyn o bryd mae gennym dros 250 o wirfoddolwyr rheolaidd sy’n ein cefnogi o ddydd i ddydd a mwy sy’n ymuno â ni am brofiadau untro. Drwy greu cyfleoedd cynhwysol, ein nod yw chwalu’r rhwystrau rhag cyfranogi a chysylltu mwy o bobl gyda threftadaeth a byd natur.
Ynghyd â Gerddi Dyffryn, rydym yn ffurfio portffolio De Ddwyrain Cymru. Gyda niferoedd yr ymwelwyr yn cynyddu, gwaith cadwraeth cyffrous a strategaeth genedlaethol newydd, rydym yn dîm sy’n edrych tuag allan gydag uchelgeisiau sylweddol ar gyfer y dyfodol.
What you'll be doing
You'll champion best practice at Tredegar House, creating inclusive volunteering opportunities, coaching and supporting volunteer managers and ensuring systems and data are well managed. Working with volunteer managers in Tredegar’s wider team, you'll deliver the end to end volunteer journey including recruitment and induction, database management, reward and recognition, resolving issues and training and support.
You'll be part of the South East Wales Community, Participation & Volunteering team, reporting to the Community, Participation & Volunteering Manager. With your counterpart at Dyffryn Gardens, you'll collaborate to improve processes and ensure consistency across the portfolio. Using insight and relationships, you’ll help shape strategic decisions and test new approaches to participation, connecting people with places and creating lasting public benefit.
Byddwch yn hyrwyddo’r arfer orau yn Nhŷ Tredegar, yn creu cyfleoedd gwirfoddoli cynhwysol, hyfforddi a chefnogi rheolwyr gwirfoddol a sicrhau bod systemau a data yn cael eu rheoli’n dda. Wrth weithio gyda rheolwyr gwirfoddol yn nhîm ehangach Tredegar, byddwch yn cynnal taith y gwirfoddolwyr o’r cychwyn i’r diwedd, gan gynnwys recriwtio a chynefino, rheoli cronfa ddata, gwobrwyo a chydnabod, datrys problemau a hyfforddi a chefnogi.
Byddwch yn rhan o dîm Cymuned, Cyfranogiad a Gwirfoddoli De Ddwyrain Cymru, yn adrodd i’r Rheolwr Cymuned, Cyfranogiad a Gwirfoddoli. Gyda’ch cydlynydd cyfatebol yng Ngerddi Dyffryn, byddwch yn cydweithredu i wella prosesau a sicrhau cysondeb ar draws y portffolio. Gan ddefnyddio mewnwelediad a chysylltiadau, mi fyddwch yn cynorthwyo i lywio penderfyniadau strategol a phrofi dulliau newydd o gymryd rhan, cysylltu pobl â lleoedd a chreu budd parhaol i’r cyhoedd.
Who we're looking for
Applications from redeployees are assessed against the minimum criteria for the role. In your application, please provide details of how you meet the minimum criteria below:
1. understanding of good community engagement and participatory practice
2. understanding of good practice in engaging and managing volunteers
3. delivers team priorities with excellent organisational and planning skills
4. the ability to coach and support others, and to work collaboratively across teams
5. excellent communication and relationship-building skills
Additional criteria for all other applicants:
6. the ability to coach and support others and work collaboratively across teams
7. self-motivated and confident working independently, with the ability to take initiative and manage your own workload and priorities effectively
8. excellent organisational and planning skills to deliver team priorities
9. excellent communication and relationship-building skills
10. experience of improving and innovating processes/experiences within a volunteering context
11. experience of creating new opportunities for volunteer and community engagement.
12. knowledge of relevant legislation, including safeguarding, GDPR, and equality
13. understanding of the social trends, different audience motivations and barriers and the external context impacting civic participation including volunteering
Asesir ceisiadau gan unigolion sy’n adleoli yn erbyn y meini prawf isaf ar gyfer y swydd. Yn eich cais, rhowch fanylion am sut ydych chi’n bodloni’r meini prawf isaf isod:
14. dealltwriaeth o ymgysylltiad cymunedol da ac ymarfer cyfranogol
15. dealltwriaeth o arfer da wrth ymgysylltu gyda gwirfoddolwyr a’u rheoli
16. cyflawni blaenoriaethau tîm gyda sgiliau trefnu a chynllunio ardderchog
17. y gallu i hyfforddi a chefnogi eraill, a gweithio’n gydweithredol ar draws timau
18. sgiliau cyfathrebu a meithrin cysylltiadau ardderchog
Meini prawf ychwanegol ar gyfer pob ymgeisydd arall:
19. y gallu i hyfforddi a chefnogi eraill, a gweithio’n gydweithredol ar draws timau
20. hunan-gymhellol a hyderus i weithio’n annibynnol, gyda’r gallu i gymryd cyfrifoldeb a rheoli blaenoriaethau a’ch llwyth gwaith eich hun yn effeithiol
21. gyda sgiliau trefnu a chynllunio ardderchog er mwyn cyflawni blaenoriaethau tîm
22. sgiliau cyfathrebu a meithrin cysylltiadau ardderchog
23. profiad o wella a chreu prosesau/profiadau o fewn cyd-destun gwirfoddoli
24. profiad o greu cyfleoedd newydd ar gyfer ymgysylltiad gwirfoddolwyr a’r gymuned.
25. gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys diogelu, GDPR a chydraddoldeb
26. dealltwriaeth o dueddiadau cymdeithasol, cymhellion a rhwystrau cynulleidfaoedd gwahanol a'r cyd-destun allanol sy’n effeithio ar gyfranogiad dinesig yn cynnwys gwirfoddoli
The package
The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.
27. Substantial pension scheme of up to 10% basic salary
28. Free entry to National Trust places for you, a guest and your children (under 18)
29. Rental deposit loan scheme
30. Season ticket loan
31. EV car lease scheme (for roles that meet the salary criteria)
32. Perks at work discounts such as gym memberships, shopping discount codes, cinema discounts
33. Holiday allowance up to 32 days relating to length of service, plus holiday purchase scheme, subject to meeting minimum criteria.
34. Flexible working whenever possible
35. Employee assistance programme
36. Free parking at most Trust places
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.
37. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
38. Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)
39. Cynllun benthyciad blaendal rhent
40. Benthyciad tocyn tymor
41. Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
42. Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.
43. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl
44. Rhaglen cynorthwyo cyflogai
45. Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi.