Grade 9 Fixed term contract until March 2028 Full time – 35 hours per week (happy to discuss flexible working) Based at Cardiff CF11 9SD TUC Cymru is looking for an experienced and politically astute Head of Public Affairs, Media and Digital Communications to help shape our work, influence decision-makers and strengthen the voice of working people across Wales. Do you have experience in working in or with trade unions, political institutions, political parties or public affairs organisations, with a strong understanding of how political decisions are made? Can you lead and develop a communications team, delivering high-quality, timely and strategic outputs across press, digital and social media? Do you have strong analytical skills and political judgement, with the confidence and ability to respond quickly to fast moving events and changing contexts? Do you have knowledge and understanding of current key issues in Wales and the UK more broadly around employment, the economy, society, trade unionism and politics- and can you apply this insight into communications and public affairs work? In this role you’ll be working with unions and other organisations to deliver TUC Cymru priorities and will take the lead on building and maintaining effective relationships with elected representatives, advisors and civil servants across pollical parties. As well as having excellent interpersonal skills, the successful candidate will also need to demonstrate they can operate confidently in a political environment, influence decision-makers and represent TUC Cymru with authority. You’ll also work closely with the General Secretary and senior leadership team to align political engagement with communications strategy, ensuring TUC Cymru’s voice is clear, consistent and influential. You will also be responsible for monitoring and evaluating the impact of political and communications activity, using insight and data to refine and strengthen our work. We’re looking for someone who can demonstrate: A strong personal commitment to equality and diversity and the aims and values of TUC Cymru Excellent organisational, planning and time management skills The ability to act as a confident spokesperson, with outstanding written, digital and verbal communication skills. An understanding of trade union values, campaigns and structures The ability to work collaboratively with senior leaders, unions and partner organisations Desirable: Experience working in a bilingual (Welsh/English) communications environment If this is you, then look at our job description and person specification. We are particularly keen to receive applications from Black, Asian and minority ethnic (BME) applicants who are underrepresented in this part of the TUC but also welcome applications from any candidate. If you’re BME and considering applying for the post, we invite you to join an online briefing at 12:30 on Thursday 5 February 2026 to hear about the role and the TUC as an employer. To register for the briefing, please email by no later than 12:00 on Monday 2 February 2026. You don’t need to attend the briefing session to apply for this position. The closing date for completed applications for this post is 12 noon on Wednesday 11 February 2026. First round interviews will be held on Thursday 19 February 2026 with second round interviews scheduled for Wednesday 4 March 2026. First round interviews will be conducted in person at the TUC Cymru Office, 1 Cathedral Road, Cardiff CF11 9SD. Second round interviews will be conducted in person at Congress House, London WC1B 3LS. Staff enjoy a good benefits package including final salary pension scheme and other benefits. The TUC operates an anonymised recruitment process and names are not included during shortlisting. We don’t ask for the names of educational institutions you’ve attended. Gradd 9 – Cyflog: £71,816 y flwyddyn yn codi'n raddol I £73,207 y flwyddyn Contract cyfnod penodol tan fis Mawrth 2028 Amser llawn – 35 awr yr wythnos (yn fodlon trafod trefniadau gweithio’n hyblyg) Swydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, CF11 9SD Mae TUC Cymru yn chwilio am Swyddog Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu profiadol a gwleidyddol graff i helpu i siapio ein gwaith, dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chryfhau llais pobl sy'n gweithio ledled Cymru. Oes gennych chi brofiad o weithio gyda/mewn undebau llafur, sefydliadau gwleidyddol, pleidiau gwleidyddol neu sefydliadau materion cyhoeddus, a dealltwriaeth gref o sut mae penderfyniadau gwleidyddol yn cael eu gwneud? Allwch chi arwain a datblygu tîm cyfathrebu, gan ddarparu allbynnau strategol, amserol ac o ansawdd uchel ar draws y wasg, y cyfryngau digidol a'r cyfryngau cymdeithasol? Oes gennych chi farn wleidyddol a sgiliau dadansoddi cryf, gyda'r hyder a'r gallu i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau sy'n symud yn gyflym a chyd-destunau sy'n newid? Oes gennych chi wybodaeth a dealltwriaeth o faterion allweddol cyfredol yng Nghymru a'r DU yn ehangach o ran cyflogaeth, yr economi, cymdeithas, undebaeth lafur a gwleidyddiaeth – ac a allwch chi ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon mewn gwaith cyfathrebu a materion cyhoeddus? Fel rhan o'r swydd hon, byddwch yn gweithio gydag undebau a sefydliadau eraill i gyflawni blaenoriaethau TUC Cymru a byddwch yn arwain y gwaith o feithrin a chynnal cysylltiadau effeithiol â chynrychiolwyr etholedig, cynghorwyr a gweision sifil ar draws pleidiau gwleidyddol. Yn ogystal â meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd ddangos ei fod yn gallu gweithredu'n hyderus mewn amgylchedd gwleidyddol, dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chynrychioli TUC Cymru gydag awdurdod. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Ysgrifennydd Cyffredinol a'r uwch dîm arwain i gysoni ymgysylltiad gwleidyddol â strategaeth gyfathrebu, gan sicrhau bod llais TUC Cymru yn glir, yn gyson ac yn ddylanwadol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso effaith gweithgarwch gwleidyddol a chyfathrebu, gan ddefnyddio gwybodaeth a data i fireinio a chryfhau ein gwaith. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n gallu dangos: Ymrwymiad personol cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth, a nodau a gwerthoedd TUC Cymru Sgiliau ardderchog o ran trefnu, cynllunio a rheoli amser Y gallu i weithredu fel llefarydd hyderus, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, yn ddigidol ac ar bapur. Dealltwriaeth o werthoedd, ymgyrchoedd a strwythurau undebau llafur Y gallu i gydweithio ag uwch arweinwyr, undebau a sefydliadau partner Dymunol: Profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) Os mai chi yw’r person hwn, darllenwch ein disgrifiad swydd a manyleb y person. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n cael eu tangynrychioli yn y rhan hon o’r TUC ond rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan unrhyw ymgeisydd. Os ydych chi’n weithiwr Du ac Ethnig Leiafrifol, ac yn ystyried gwneud cais am y swydd hon, rydym yn eich gwahodd i ymuno â sesiwn briff ar-lein ar 12:30 Dydd Iau 5 Chewfror 2026 er mwyn clywed mwy am y swydd a’r TUC fel cyflogwr. Er mwyn cofrestru ar gyfer y sesiwn briffio, anfonwch e-bost at erbyn 12:00 Dydd Llun 2 Chewfror 2026 fan bellaf. Does dim angen i chi ddod i’r sesiwn briffio er mwyn gwneud cais am y swydd hon. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cyflawn am y swydd hon yw 12 hanner dydd ar Dydd Mercher 11 Chewfror 2026. Cynhelir cyfweliadau rownd gyntaf Ddydd Iau 16 Chwefror 2026 gyda chyfweliadau ail rownd wedi'u hamserlennu ar gyfer Dydd Mercher 4 Mawrth 2026. Mae’r TUC yn tynnu enwau a sefydliadau ymgeiswyr o bob cais cyn llunio’r rhestr fer. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn Swyddfa TUC Cymru, 1 Heol y Gadeirlan, CF11 9SD. Mae’r staff yn cael pecyn buddion da, gan gynnwys cynllun pensiwn cyflog terfynol a buddion eraill. Mae’r TUC yn cynnal proses recriwtio ddienw ac nid yw enwau’n cael eu cynnwys yn ystod y broses o lunio rhestr fer. Nid ydym yn gofyn am enwau’r sefydliadau addysgol rydych chi wedi’u mynychu. INDHIGH