Athro / Athrawes Mathemateg (Ysgol Bro Caereinion)
Job description
Welsh language skills are essential
Athro / Athrawes Mathemateg a Rhifedd
gyda opsiwn o CAD cydlynydd rhifedd (CAD2A)
Llawn amser a pharhaol
Ar gyfer ysgol pob oed
YSGOL BRO CAEREINION
Ei hangen ar gyfer 1af o Fedi 2026
Teacher of Mathematics and Numeracy at Ysgol Bro Caereinion and the option of Numeracy Co-ordinator (TLR 2A)
This is a role where the ability to read, write and speak in Welsh (Common European Framework of Reference (CEFR) C levels: Proficient user) is essential.
CYNNWYS
1. Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Corff Llywodraethol a’r Pennaeth
2. Swydd ddisgrifiad
3. Manyleb person
YSGOL BRO CAEREINION
Athro / Athrawes Mathemateg a Rhifedd
Prif raddfa cyflog
(Cyfateb i £33,731 - £51,942 amser llawn)
A’r opsiwn (pe dymunir) ar gyfer swydd Cydlynydd Rhifedd
CAD2A
(Cyfateb i £3,626 y flwyddyn)
Mawrth 2026
Annwyl Ymgeisydd
Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi athro / athrawes mathemateg a rhifedd ymroddedig i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig o staff sydd yn ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad disgyblion o fewn ysgol arbennig sydd ag ethos deuluol gref. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o’r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion ‘yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau’r ysgol. Maent yn ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu’.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig sydd yn:
4. meddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
5. athro ysbrydoledig sydd yn gallu dod â’r sgiliau mathemategol yn fyw i’r disgyblion trwy brofiadau dysgu cyfoethog, ystyrlon ac ymarferol
6. datblygu sgiliau meddwl mathemategol disgyblion
7. cyfrannu’n gadarnhaol at wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru
8. gallu gweithio mewn tîm yn effeithiol
9. ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
10. bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
Os yn mynd am y cyfrifoldeb Cydlynydd Rhifedd:
11. sgiliau cynllunio strategol i ddatblygu profiadau a medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran
12. sgiliau arweinyddiaeth cadarn i fonitro darpariaeth a chynnydd disgyblion ar draws yr ysgol
13. meithrin cymhwysedd rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran
14. cefnogi MDaPh eraill i gynllunio profiadau rhifedd pwrpasol
15. mapio profiadau medrau rhifedd disgyblion ar draws yr ysgol
Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol pob oed, 5 – 18 mlwydd oed. Mae’n symud ar hyd y continwwm ieithyddol ac ym mis Medi 2026 mi fydd hi’n Ysgol cyfrwng Cymraeg trawsnewidiol ar gyfer y dosbarth derbyn, Blwyddyn 1, 2 a 7. Darparir gwersi mathemateg cyfrwng Cymraeg hyd at flwyddyn 10, ond y bwriad gydag amser a’r ymgeisydd cywir, yw i ddarparu mathemateg hyd at y chweched dosbarth.
Mae’r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C – Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)).
Mae cyfle hefyd, pe dymunir (plîs nodwch yn eich llythyr cais), i hefyd cymryd y cyfrifoldeb o gydlynu’r medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran (o dysgu sylfaen hyd at flwyddyn 11).
Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person isod. Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda’r ysgol os dymunwch sgwrs gyda’r pennaeth neu i ddod i ymweld â’r ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda’ch cais.
Yn gywir
Myfanwy Alexander Anwen Orrells
Cadeirydd y Llywodraethwyr Pennaeth
Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac yn destun Datgeliad DBS