Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Teacher – penparc primary school

Cardigan
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Teacher
Posted: 2h ago
Offer description

Mae Ysgol Gynradd Penparc yn chwilio am athro neu athrawes ysbrydoledig, empathetig ac ymroddgar i ymuno â’n tîm hapus a chefnogol o fis Medi 2025 ymlaen.

Mae’r swydd yn 0.4 i ddechrau, ond gyda’r posibilrwydd y gallai’r oriau gynyddu wrth i nifer y disgyblion yn yr ysgol barhau i dyfu. Mae’r ysgol yn agored i drafod pa oedran y byddai’r aelod newydd yn ei addysgu, ac yn hyblyg o ran pa ddyddiau gwaith fyddai’n fwyaf addas.

Ysgol hapus a chroesawgar yw Penparc, lle mae gofal a lles disgyblion, staff a’r gymuned ehangach yn ganolog i bopeth a wnawn. Credwn fod ymddiriedaeth, cefnogaeth ac uchelgais yn sylfeini pwysig ar gyfer cynnydd a llwyddiant pob unigolyn.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n:

* broffesiynol, llawn brwdfrydedd ac yn bositif o ran agwedd
* meddu ar ymdeimlad cryf o ofal, sensitifrwydd ac empathi
* ystyriol a chreadigol yn ei ddulliau addysgu
* barod i gyfrannu’n llawn at fywyd cymunedol yr ysgol
* hyderus wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, rhieni a chydweithwyr
* yn medru creu amgylchedd dysgu ysgogol a chefnogol
* yn barod i ddysgu ac ymroi i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac ymholi er mwyn cwrdd â gofynion gwahanol y disgyblion o’u blaenau
* yn gallu defnyddio data a gwybodaeth i lywio dysgu effeithiol a thargedu cynnydd pob un ar eu lefelau hwy
* yn rhannu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer lles, cynnydd a chyfle cyfartal

Bydd yr aelod newydd o staff yn cael eu croesawu’n gynnes ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan dîm profiadol a gofalgar yr ysgol. Croesawn geisiadau gan athrawon profiadol yn ogystal ag athrawon sy’n dechrau ar eu gyrfa. Ein blaenoriaeth yw dod o hyd i’r unigolyn mwyaf addas i ymuno â’n cymuned ysgol arbennig.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun y 7fed o Orffennaf
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Llun y 14eg o Orffennaf
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mr Trystan Phillips neu Mrs Nicola Roscoe ar 01239 810586. Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs cyn hynny, ac i drefnu ymweliad â’r ysgol pe dymunech.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Welsh teacher
Adpar
Teacheractive
Teacher
Similar job
Teacher - penparc primary school
Cardigan
Educators Wales
Teacher
Similar job
Teacher - aberaeron comprehensive school
Aberaeron
Educators Wales
Teacher
See more jobs
Similar jobs
Education jobs in Cardigan
jobs Cardigan
jobs Ceredigion
jobs Wales
Home > Jobs > Education jobs > Teacher jobs > Teacher jobs in Cardigan > Teacher – Penparc Primary School

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save