Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Teacher – ysgol gyfun aberaeron

Aberaeron
Ceredigion County Council
Teacher
Posted: 9 February
Offer description

About the role

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i’r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Aberaeron am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i’r proffesiwn.

Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol ddwyieithog naturiol, a’r nod yw cefnogi pob disgybl i fod yn ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Mae dros o ddisgyblion, a dros 80 ohonynt yn y 6ed dosbarth. Ein cenhadaeth yw sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod i wynebu heriau’r 21ain Ganrif a’n bod yn cefnogi holl aelodau ein cymuned i ddatblygu eu potensial yn academaidd, yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Anogir y disgyblion i wneud eu gorau, er mwyn cyrraedd y safonau uchaf posib, ac i’w paratoi am fywyd yn ystod, ac ar ôl eu blynyddoedd ysgol.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Aberaeron i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

1. Cynllunio gwersi
2. Asesu, marcio ac adborth
3. Rheolaeth ddosbarth
4. Datblygu dycnwch
5. Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio:

Ffurflen Mynegi Diddordeb

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i’r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen mynegi diddordeb sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 22 Chwefror .

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau’r Pasg.

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg – Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Mr Owain Jones ar .

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

What we offer

Work-life balance

Lifestyle savings scheme

Generous employer pension scheme

Cycle to work scheme

Learning and development

Where you'll work

Schools and Culture

We offer appropriate challenge and support to our schools, to help them deliver first class education to all pupils, across the age and ability range. Our primary functions are as follows:

6. School Improvement: Leadership; Support and Challenge, Teaching and Learning; Digital Literacy; Literacy and Numeracy; Welsh in Education
7. Additional Learning Needs: Provision for pupils with Additional Learning Needs, Inclusion; Attendance; Educational Psychology
8. Pupil Wellbeing:Counselling; Welfare; Anti-Bullying, Pupil Voice
9. Education Governance: Data ; Governor Support, Policy support
10. School Admissions
11. Culture: Music Service; Cered; Felinfach Theatre; Museum
12. Infrastructure and Resources: Planning School Places; Modernisation and Twenty First Century Schools Programme; Buildings; Grants
13. Catering: Day Centres; Primary Schools; Residential homes.
14. Childcare Unit: Childcare Sufficiency Assessment; Childcare & Play Grant; Childcare Offer; Out of School (After School Clubs and Holiday Playschemes); Day Nursery, Cylch/Playgroup & Childminder business support and staff training
Aberaeron Aberaeron is a picture perfect harbour town and is one of Ceredigion's best loved holiday destinations with fashionable places to stay and eat.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Develop your teaching future
Llandysul
Equal Education Partners
Teacher
Similar job
Develop your teaching future
Aberaeron
Equal Education Partners
Teacher
Similar job
Teacher – tal-y-bont primary school
Aberystwyth
Ceredigion County Council
Teacher
See more jobs
Similar jobs
Education jobs in Aberaeron
jobs Aberaeron
jobs Ceredigion
jobs Wales
Home > Jobs > Education jobs > Teacher jobs > Teacher jobs in Aberaeron > Teacher – Ysgol Gyfun Aberaeron

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save