Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Bydd eich tîm yn cefnogi ein cwsmeriaid i wneud y mwyaf o incwm a sicrhau opsiynau talu (rhent, tal gwasanaeth ac unrhyw daliadau perthnasol eraill). Byddwch yn cynnig cyngor a chefnogaeth ar fudd-daliadau, grantiau, cyllidebu, tlodi tanwydd a pharodrwydd i weithio. Byddwch yn cyfeirio'n effeithiol at sefydliadau partner ar gyfer cyngor ar ddyledion neu gwnsela. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni ac rydym yn chwilio am arweinydd a fydd yn buddsoddi yn eu tîm. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Rhiannon Davydd, Rheolwr Tai, ar 0300 111 2122. Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: £33,517 - £37,724 Lleoliad: Penygroes neu Dinbych / Gweithio o gartref Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Disgrifiad Swydd DS Arweinydd Tîm Lles Ariannol 1225.pdf JD Financial Welfare Team Leader 1225.pdf Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Canllawiau cwblhau cais.pdf Cyfweliadau: 19.01.26 Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad manwl ar gyfer y swydd hon.