Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cydlynydd rhanbarthol – uned lleihau anafiadau ffyrdd cymru ganbwyll

Cross Hands
£38,169 - £41,487 a year
Posted: 21h ago
Offer description

Heddlu Heddlu Dyfed Powys Math o rôl Staff Heddlu Maes Busnes / Adran Ymgyrchoedd Arbenigol Lleoliad Cross Hands Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg Gradd F Cyflog £38,169 - £41,487 Rhan/Llawn Amser Llawn Amser Oriau'r Wythnos 37 Math o Gytundeb Dros Dro Dyddiad Gorffen Cytundeb Dros Dro 31 Hydref 2026 Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1 Dyddiad Cyfweliad 8 Ionawr 2026 Dyddiad cau 29/12/25 23:55 Disgrifiad Hysbysiad Swydd Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cydlynydd Rhanbarthol – Uned Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru GanBwyll yn Gweithrediadau Arbenigol. Beth fyddwch chi’n ei wneud? Cydlynu a rheoli ymgyrch orfodi’r Bartneriaeth Camerâu Diogelwch o fewn Heddlu Dyfed-Powys a gweithredu fel canolbwynt a phwynt ymgynghorol ar gyfer Partneriaid Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd y rôl hon yn cydlynu, monitro a chefnogi gweithgarwch plismona rheng flaen lle mae angen i gynnal y gyfraith, galluogi diogelwch cyhoeddus a magu hyder mewn plismona yn unol â fframweithiau cyfreithiol a chanllawiau polisi. Cydlynu a rheoli ymgyrch orfodi’r Bartneriaeth Gamerâu a’i rolau ategol o fewn rhanbarth Heddlu Dyfed-Powys partneriaeth Cymru gyfan. Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer). Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais. Beth allwch chi ddisgwyl? Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd) Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd) Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas Cynllun Beicio i’r Gwaith Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi Cynllun pensiwn Rhwydweithiau Cymorth Staff Cyfleoedd gweithio hyblyg Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael Darpariaethau tâl salwch Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio. Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata. https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf Amrywiaeth a’r Gymraeg Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona. Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol. Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio. Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Pwynt gwybodaeth: Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Pembrokeshire
jobs Cross Hands
jobs Wales
Home > Jobs > Cydlynydd Rhanbarthol – Uned Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru GanBwyll

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save