Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School School Business Manager Permanent | Grade 9 | SCP 31–35 £40,476 – £44,711 Be at the Heart of School Leadership We are seeking a first-class, forward-thinking School Business Manager to join our senior leadership team. This is a rare opportunity to play a central role in the future of our school, as our long-serving and highly respected current Business Manager prepares for retirement at the end of this academic year. We’re looking for someone who is not only professionally accomplished but also passionate, energetic, and committed to excellence. You’ll need to be dynamic, ambitious, and organised—with a firm-but-fair approach and the ability to lead with integrity and vision. Why Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School? Located in a vibrant coastal community in Pembrokeshire, Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School is a welcoming and inclusive 11–18 comprehensive school. We are proud of our journey of improvement and growth, which was reflected in our positive Estyn report in January 2022. We are committed to building on this progress and continuing to strive for excellence in everything we do. This is a genuinely exciting time to join our school as we focus on driving further improvement, innovation, and achievement for all learners. What You’ll Be Responsible For As School Business Manager, you’ll play a critical leadership role across the entire school operation. Your responsibilities will include: Strategic Leadership : Leading all business and administrative operations in line with the school’s vision and strategic plan. Finance & Budgeting : Managing the school’s finances, including budget planning, monitoring, forecasting, and reporting—ensuring value for money and financial sustainability. Human Resources : Supporting staff recruitment, retention, and development, in line with best HR practice and employment legislation. Facilities Management : Overseeing the school site, premises, and contracts—ensuring safety, compliance, and long-term planning for improvements and efficiency. Governance : Acting as Clerk to the Governing Body, ensuring strong support and robust governance procedures. Compliance & Risk : Taking the lead on Health & Safety, GDPR, data protection, and risk assessments, embedding a culture of accountability and safety. Project & Systems Management : Leading on project planning, MIS systems, asset management, and income generation, including fundraising and lettings. Collaboration & Communication : Working closely with the Headteacher, the Local Authority, and external partners to develop and maintain effective systems and partnerships. Who We’re Looking For We welcome applications from: Experienced School Business Managers looking for a new challenge. Professionals from related sectors (e.g., finance, operations, project management, HR, or education leadership) who can bring strong transferable skills and a passion for making a difference in education. Above all, you will be a resilient, committed, and solutions-focused leader with excellent interpersonal and organisational skills, ready to contribute to the success of our whole school community. Ready to Join Us? We’d be delighted to show you around and discuss this exciting opportunity further. To arrange an informal visit or conversation, please contact: Mr Nick Makin, School Business Manager contact@yht.wales | 01646 682461 Learn more about us at www.yht.wales Ysgol Harri Tudur Rheolwr Busnes yr Ysgol Parhaol | Gradd 9 | SCP 31–35 £40,476 – £44,711 Wrth wraidd arweinyddiaeth yr ysgol Rydym yn chwilio am reolwr busnes blaengar i ymuno â’n uwch-dîm arwain. Mae hwn yn gyfle prin i chwarae rhan ganolog yn nyfodol ein hysgol, gan fod ein rheolwr busnes presennol sydd wedi bod yn gwasanaethu’n hir ac sy’n uchel ei barch, yn paratoi ar gyfer ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Rydym yn chwilio am rywun sydd nid yn unig yn fedrus broffesiynol ond sydd hefyd yn angerddol, yn egnïol, ac wedi ymrwymo i ragoriaeth. Bydd angen i chi fod yn ddeinamig, yn uchelgeisiol, ac yn drefnus—ag ymagwedd gadarn ond teg a’r gallu i arwain gydag uniondeb a gweledigaeth. Pam Ysgol Harri Tudur? Wedi’i lleoli mewn cymuned arfordirol fywiog yn Sir Benfro, mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol gyfun groesawgar a chynhwysol i blant 11–18 oed. Rydym yn falch o’n gwelliant a thwf, sydd wedi’i adlewyrchu yn ein hadroddiad Estyn cadarnhaol ym mis Ionawr 2022. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y cynnydd hwn a pharhau i geisio rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno â’n hysgol wrth i ni ganolbwyntio ar sbarduno gwelliant, arloesedd a chyflawniad pellach i bob dysgwr. Byddwch yn gyfrifol am y canlynol Fel rheolwr busnes yr ysgol, byddwch yn ymgymryd â rôl arweinyddiaeth allweddol ar draws gweithrediadau’r ysgol gyfan. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys y canlynol: Arweinyddiaeth strategol : Arwain yr holl weithrediadau busnes a gweinyddol yn unol â gweledigaeth a chynllun strategol yr ysgol. Cyllid a chyllidebu : Rheoli cyllid yr ysgol, gan gynnwys cynllunio cyllideb, monitro, rhagweld ac adrodd—gan sicrhau gwerth am arian a chynaliadwyedd ariannol. Adnoddau dynol : Cefnogi recriwtio, cadw a datblygu staff, yn unol ag arferion gorau Adnoddau Dynol a deddfwriaeth cyflogaeth. Rheoli cyfleusterau : Goruchwylio safle, adeilad a chontractau’r ysgol—sicrhau diogelwch, cydymffurfiaeth a chynllunio hirdymor ar gyfer gwelliannau ac effeithlonrwydd. Llywodraethu : Gweithredu fel Clerc i’r Corff Llywodraethu, gan sicrhau cefnogaeth gref a gweithdrefnau llywodraethu cadarn. Cydymffurfiaeth a risg : Arwain ar brosesau iechyd a diogelwch, GDPR, diogelu data, ac asesiadau risg, gan ymgorffori diwylliant o atebolrwydd a diogelwch. Rheoli prosiectau a systemau : Arwain ar gynllunio prosiectau, systemau gwybodaeth reoli, rheoli asedau, a chynhyrchu incwm, gan gynnwys codi arian a gosod eiddo. Cydweithio a chyfathrebu : Gweithio’n agos gyda’r Pennaeth, yr awdurdod lleol, a phartneriaid allanol i ddatblygu a chynnal systemau a phartneriaethau effeithiol. Am bwy yr ydym yn chwilio? Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth: Rheolwyr busnes ysgol profiadol sy’n chwilio am her newydd. Gweithwyr proffesiynol o sectorau cysylltiedig (e.e. cyllid, gweithrediadau, rheoli prosiectau, adnoddau dynol, neu arweinyddiaeth mewn addysg) a all ddod â sgiliau trosglwyddadwy cryf ac angerdd dros wneud gwahaniaeth ym myd addysg. Yn anad dim, byddwch yn arweinydd gwydn, ymroddedig, sy’n canolbwyntio ar atebion, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau trefnu rhagorol, ac sy’n barod i gyfrannu at lwyddiant cymuned yr ysgol gyfan. Ydych chi’n barod i ymuno â ni? Byddem wrth ein bodd yn eich tywys o amgylch yr ysgol a thrafod y cyfle cyffrous hwn ymhellach. I drefnu ymweliad neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Mr Nick Makin, Rheolwr Busnes yr Ysgol contact@yht.wales | 01646 682461 I ddysgu mwy ewch i www.yht.wales