Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Enwebedig Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd – Y Gwasanaethau Biolegol Mae swydd amser llawn a pharhaol ar gael ar unwaith yn y Gwasanaethau Biolegol, a hynny ar gyfer Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Enwebedig. Yn unol â'n safonau uchel sefydledig ar gyfer gofal anifeiliaid, bydd gennych hanes amlwg o reoli anifeiliaid labordy a gwybodaeth am ofynion cyfleuster gwasanaeth mewn sefydliad ymchwil. Bydd disgwyl i chi fod yn Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Enwebedig mewn meysydd dynodedig, a bydd hyfforddiant yn cael ei roi os nad oes gennych statws Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Enwebedig. Mae'r swydd yn gofyn cefnogi’r Gwasanaethau Biolegol, sy’n golygu y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i wneud hyn. I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd a Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd, cysylltwch â Mrs Deborah Adams, Prif Dechnegydd, drwy e-bostio adamsdc@caerdydd.ac.uk. Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon, ac mae ar gael ar unwaith. Cyflog: £28,031 hyd at £31,236 y flwyddyn (Gradd 4) – nid ydym yn disgwyl penodi rhywun uwchlaw pwynt 18 ar y raddfa gyflog, sy’n talu £28,031 y flwyddyn ar hyn o bryd Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, asesiad iechyd galwedigaethol a phroses sgrinio at ddibenion diogelwch. Nid oes modd cynnig contract cyflogaeth oni bai bod canlyniadau’r rhain yn foddhaol. Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2025 Dyddiad cau: Dydd Sul, 4 Ionawr 2026 Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. DIBEN Y SWYDD Rhoi cymorth cynhwysfawr a phroffesiynol i gymuned ymchwil anifeiliaid Prifysgol Caerdydd wrth oruchwylio tîm technegol y Gwasanaethau Biolegol Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn roi’r cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU Prif Ddyletswyddau Goruchwylio gweithgareddau tîm technegol y Gwasanaethau Biolegol o ddydd i ddydd, gan gynnwys dyrannu tasgau, llunio amserlenni gwaith, monitro’r trefniadau i lenwi bwlch oherwydd gwyliau ymhlith y staff, cwblhau proses y cyfnod prawf, cyfrannu at y broses arfarnu flynyddol, chwarae rhan yn natblygiad y staff a rhoi hyfforddiant a chymorth lles i’r staff yn ôl yr angen Rhoi cyngor ac arweiniad manwl i gwsmeriaid mewnol ac allanol (y staff, y myfyrwyr neu’r cyhoedd) ar weithdrefnau a rôl gyfreithiol Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Enwebedig, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol a chyfrannu at y gwaith o ddatrys materion mwy cymhleth – bydd hyn yn cynnwys: Hyfforddi staff technegol a deiliaid trwydded newydd ar amrywiaeth o weithdrefnau anrheoleiddiedig a rheoleiddiedig Cymryd cyfrifoldeb am hwsmonaeth, gofal a lles anifeiliaid labordy drwy ymgymryd â rôl gyfreithiol Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Enwebedig; Rhoi cyngor ar gyfundrefnau bridio anifeiliaid a'r ymchwil a awdurdodwyd yn gyfreithiol, rhoi arweiniad ar faterion iechyd a lles a allai godi, hyrwyddo diwylliant o ofal, hyrwyddo'r tri ‘R’ a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Côd Ymarfer Gweithio gydag eraill i wneud argymhellion ar gyfer gwella ffyrdd yr adran o weithio Meithrin perthynas gynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol a chysylltiadau allanol) i helpu i wella’r gwasanaeth y mae'r tîm yn ei ddarparu ar gyfer ei gwsmeriaid a chynrychioli’r rôl ar bwyllgorau amrywiol y Brifysgol Cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i helpu’r tîm a'r adran i gyflawni eu nodau Rhoi arweiniad i gydweithwyr ym mhob rhan o’r Brifysgol ar rôl Swyddog Gofal a Lles Anifeiliaid Enwebedig yn ôl yr angen Dyletswyddau Cyffredinol Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol Sylwer: Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, asesiad iechyd galwedigaethol a phroses sgrinio at ddibenion diogelwch. GWYBODAETH YCHWANEGOL Cyfrinachedd yn hanfodol Parodrwydd i weithio ar benwythnosau ar sail rota a bod ar y rhestr galwadau brys SUT Y BYDDWN YN EICH HELPU I GYFLAWNI’R SWYDD HON Rydym am eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd. Felly, byddwn yn defnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial: Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell – efallai mai trefniant anffurfiol fydd hyn neu’n brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes Cynllun mentora staff Cymorth i ddysgu Cymraeg neu loywi eich sgiliau iaith Manyleb Unigolyn Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n rhan o dîm, a fydd yn cydweithio ag eraill i ddarparu gwasanaeth gwych ar gyfer y staff a’r myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd. Gall y swydd hon fod yn gyfle i chi gael mwy o brofiad o weithio mewn rôl neu amgylchedd gweinyddol, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch potensial i fod yn llwyddiannus yn y swydd. Dylech fod â diddordeb mewn rheoli a datblygu tîm. Dylech fod yn frwd dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm a rhoi cymorth goruchwyliol i’r rhai sy’n cael eu rheoli gennych. Bydd eich cais yn cael ei asesu’n unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r meini prawf a’u gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob un ohonynt, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau, bywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd. Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD a'i atodi i’ch cais yn y system recriwtio, sydd ar gael yma. Dyma'r meini prawf a gaiff eu defnyddio hefyd i asesu’r ymgeiswyr ar y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau). Meini Prawf Hanfodol Y gallu i ysgrifennu’n glir, yn gryno ac yn effeithiol i roi cyngor, arweiniad a chymorth manwl i aelodau'r tîm a chwsmeriaid ar (Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986). Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd TG da Profiad o fod yn dechnegydd Dealltwriaeth o gyfrifoldebau rheoli llinell (megis dyrannu gwaith, cwblhau proses y cyfnod prawf, arfarnu, cymeradwyo/gwrthod ceisiadau am wyliau, ac ati) Y gallu i ddatrys a rheoli problemau o ran perfformiad a lles yn eich tîm yn unol â gweithdrefnau a pholisïau'r Brifysgol, gan gynnal safonau proffesiynol Y gallu i gyfleu gwybodaeth yn effeithiol ac yn broffesiynol i amrywiaeth eang o bobl Y gallu i gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol er mwyn datrys problemau, ymateb i ymholiadau a gwneud argymhellion, gan nodi a chynnig atebion ymarferol Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chyflwyno gwaith mewn pryd, gan gynllunio, gosod a monitro eich blaenoriaethau chi a rhai’r tîm Y gallu i ymchwilio i anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan eich tîm yn briodol er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu Deiliad trwydded bersonol gweithredol a phrofiadol Meini Prawf Dymunol Profiad blaenorol o oruchwylio/bod yn rheolwr llinell Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i ddysgu’r iaith