Amdanom ni
Mae’r rôl o fewn Darpariaeth Arbenigol Bro Morgannwg sy’n rhan o Gyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Lleolir y swydd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gwaun y Nant.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda disgyblion o fewn yr ystod oedran cynradd, yn y Ganolfan Adnoddau ac ar draws Bro Morgannwg trwy allgymorth. Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio cymorthyddion dysgu eraill a chydweithio ag athro arbenigol. Byddwch yn rhan o dîm bach ond egnïol a chefnogol sy’n frwd dros gefnogi disgyblion ag ADY
Uchelgeisiol - Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored - Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd - Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch - Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynghylch y rôl
Gradd 6, pwynt graddfa 14-19
t30 awr: 5 diwrnod yr wythnos
Lwfans ADY
Prif weithle : Ysgol Gwaun Y Nany, Y Barri, Bro Morgannwg, ond yn ymestyn ar draws Bro Morgannwg mewn ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
Disgrifiad:
Cyfle cyffrous i ymuno â’n tîm cefnogol yn y Ganolfan Ragoriaeth yn Ysgol Gwaun Y Nant. Mae’r rôl yn cynnwys cefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu anawsterau rheoleiddio, i gael mynediad i’r cwricwlwm gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau arbenigol a’u galluogi i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. O ddydd i ddydd, golyga hyn gefnogaeth dosbarth i ddisgyblion unigol a gwaith un i un neu waith grŵp bach o fewn y Ganolfan Adnoddau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoleiddio ar draws Camau Cynnydd 1 i 3.
Efallai y bydd y rôl yn gofyn am gefnogi’r Athro Arbenigol gyda gwaith allgymorth / pontio mewn ysgolion eraill ym Mro Morgannwg pan fo angen.
Gweler y disgrifiad swydd am fanylion pellach
Amdanoch chi
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagorol, gyda lefel dda o Gymraeg a Mathemateg a gallai fod yn fodel rôl da.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb ac angerdd am ADY ac yn benodol ASD a gorbryder.
Bydd angen:
1. Dealltwriaeth o wahanol anghenion addysgol a chymdeithasol disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoliad. Dealltwriaeth o effeithiau anhawterau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu rheoleiddio ar ddysgu
2. Profiad blaenorol a diweddar o weithio gyda phlant mewn lleoliad cynradd
3. Y gallu i gefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu anawsterau rheoleiddio ar draws holl feysydd y cwricwlwm
4. Sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
5. Sgiliau dadansoddi a datrys problemau da
6. Gallu gweithio'n annibynnol gyda blaengaredd ond hefyd fel rhan o dîm
7. Sgiliau trefnu da
8. Bod yn barod i, a medru dysgu sgiliau newydd
9. Y gallu i hybu dysgu annibynnol disgyblion
10. Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen
11. Parodrwydd i wneud gwaith allgymorth dan gyfarwyddyd yr Athro/Athrawes Arbenigol yn ôl yr angen
12. awydd i weithio gyda chymorthyddion eraill a'u hysbrydoli
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwiriad DBS yn ofynnol
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sarah Redrup, Rheolwr Gweithredol ADY
01446709811
sredrup@valeofglamorgan.gov.uk
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth.
Available documents