Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder. Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Fel aelod o’r Tîm Llywodraethu byddwch yn g weithredu fel Swyddog Cwynion Grŵp Cynefin, ac arwain ar bob rhan o'r broses cwynion swyddogol yn unol â safonau rheoleiddio ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan sicrhau: Bod cwynion yn cael eu trin yn brydlon gan sicrhau datrysiadau cynnar, lle bo'n bosibl Bod cwynion tenant/defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu clywed a’n bod yn weithredu proses gwersi a ddysgwyd cadarn Data cywir ynghylch cwynion, sy'n cael eu hasesu ar gyfer tueddiadau, ac sy'n llywio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol Cefnogi'r Rheolwr Llywodraethu drwy gyfrannu at gyflawni amcanion a thargedau'r tîm Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi. Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Eleri Jones, Rheolwr Llywodraethu ar 0300 111 2122. Y Pecyn Math o gytundeb: Parhaol Cyflog: £33,517 - £37,724 y flwyddyn Lleoliad: Penygroes, Dinbych a gweithio o adre Oriau Gweithio: 35 yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (pro rata) Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol Pensiwn: M ae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon Disgrifiad Swydd: DS Uwch Swyddog Cwynion 01.26.pdf JD Senior Complaints Officer 01.26.pdf Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd! Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf Dyddiad y cyfweliadau: Wythnos cychwyn 23 Mawrth 2026 Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno. Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.