Overview
Yn eisiau 3ydd o Dachwedd 2025. Cyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru. Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu y Ganolfan ADY – (Ymddygiad/Arweiniad/Cefnogaeth – Lefel 2) sy’n ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i Athro/Athrawes Arbenigol Calon Aeron, y Ganolfan ADY. Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Calon Aeron, Canolfan ADY Ysgol Dyffryn Aeron a llywio ei llwyddiant.
Responsibilities
* Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o’r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth; gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolion / grwpiau, oddi mewn neu oddi allan i’r ystafell ddosbarth.
* Gallai hyn olygu’r rhai sy’n galw am wybodaeth fanwl ac arbenigol mewn rhai meysydd, a bydd yn golygu cynorthwyo’r athro neu’r athrawes gyda’r cylch cynllunio cyflawn, yn ogystal â rheolaeth staff a rheoli/paratoi adnoddau.
* O bryd i’w gilydd hefyd, gall staff oruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenboldeb athrawon (absenldeb byr-dymor).
* Bydd y prif bwyslais ar gynnal disgyblaeth dda a chadw’r disgyblion wrth eu gwaith.
* Bydd angen i Oruchwylwyr Llanw ymateb i gwestiynau a rhoi cymorth cyffredinol i’r disgyblion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau penodol.
Qualifications / Requirements
* Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
* Rydym wedi ymrwymo ddiogelu ac amdd protect plant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiadh, mae rôlai o fewn ein sefydad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preiftrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr