Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Project officer – finance and data

London
Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Project officer
Posted: 19 August
Offer description

Join to apply for the Project Officer – Finance and Data role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

2 days ago Be among the first 25 applicants

Join to apply for the Project Officer – Finance and Data role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd

Get AI-powered advice on this job and more exclusive features.

Rhaglen Genedlaethol Partneriaethau Iechyd Meddwl Myfyrwyr (NSMHPP) - Swyddog Prosiectau - Cyllid a Data

Dyma flwyddyn gyntaf datblygu a chyflwyno Rhaglen Genedlaethol Partneriaethau Iechyd Meddwl Myfyrwyr (NSMHPP). Ffocws y rhaglen yw cefnogi a hwyluso cydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru a'r GIG i wella dealltwriaeth a mynediad at gymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr a dysgwyr ôl-16.

Yn sgil hyn, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Rhaglen. Rôl y Swyddog Prosiectau - Cyllid a Data fydd cefnogi rheoli cyllid a chefnogi prosiectau tîm y rhaglen, gan gynnwys ffocws penodol ar ffrwd waith data'r rhaglen.

Gweithio’n gyfunol fydd y swydd hon yn ogystal ag yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, Plas y Parc, a gweithio o bell. Bydd gofyn ichi ymweld â safleoedd partner yng Nghymru ond bydd rhybudd yn cael ei roi.

Mae hon yn swydd amser llawn, 35 awr yr wythnos am gyfnod penodol tan fis Gorffennaf 2026, a cheir y posibilrwydd o’i hymestyn os canfyddir cyllid.

Patrwm sifft safonol, o ddydd Llun i ddydd Gwener

Cyflog: £33,482 - £36,130 y flwyddyn (Gradd 5)

Os hoffech drafod y swydd neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â

brownm27@caerdydd.ac.uk Mike Brown, Rheolwr Prosiectau.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 12 Awst 2025

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 9 Medi 2025

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Diben y Swydd

Bod yn aelod allweddol o Raglen Genedlaethol Partneriaethau Iechyd Meddwl Myfyrwyr (NSMHPP), drwy gefnogi prosiectau ariannol a gweinyddol y tîm a rhanddeiliaid allweddol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y rôl gefnogi data'r rhaglen yn rhan o'r gwelliannau mewn perthynas â chasglu data apwyntiadau iechyd meddwl myfyrwyr ar y lefel genedlaethol.

Prif Ddyletswyddau


* Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau ariannol a gweinyddu i’r rhaglen, gan ddefnyddio eich crebwyll a’ch creadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu mwyaf priodol pan fo’n briodol, a sicrhau bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.
* Sicrhau bod cyllid y rhaglen yn cael ei gwblhau yn unol â rheoliadau ariannol y Brifysgol.
* Ymchwilio i faterion penodol ynghylch data a chyllid y rhaglen a’u dadansoddi, drafftio adroddiadau argymhellion, gyda chefnogaeth aelodau tîm y rhaglen ac arbenigedd arall yn ôl yr angen.
* Sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chefnogi o ran ei phrosiectau neu ei gweinyddiaeth, gan fynd ati i newid y ffordd y gwneir hyn yn unol â’r gofynion.
* Cydweithio a chydlynu â swyddogion eraill er mwyn gwneud argymhellion i wella neu ddatblygu’r prosesau a'r gweithdrefnau sydd eisoes ar waith.
* Sefydlu perthnasoedd gwaith ag enwau cyswllt allweddol a’u cynnal, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas ag Ysgolion, Colegau, y GIG a chyrff allanol yn ôl y gofyn.
* Creu gweithgorau penodol sy’n cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r rhaglen i gyflawni amcanion y rhaglen
* Prosesu archebion prynu, ceisiadau am anfonebau a thalu am weithgareddau'r rhaglen. Cadw llygad ar wariant a’i gofnodi ar daenlenni'r rhaglen.
* Goruchwylio a chydlynu staff penodol yn achlysurol er mwyn cyflawni amcanion allweddol.
* Datblygu a darparu hyfforddiant yn y rhwydwaith yn ôl yr angen.
* Ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cefnogi a chwblhau prosesau gweinyddu caffael a recriwtio

Dyletswyddau Cyffredinol

* Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol.
* Sicrhau bod staff yn derbyn gwasanaeth, cefnogaeth a gwybodaeth gywir ac amserol o safon sy'n cael y flaenoriaeth fel y bo’n briodol, gan ddibynnu ar anghenion y person neu'r is-adran.
* Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â phob un o’ch dyletswyddau.
* Glynu wrth bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
* Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym yn dymuno cyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu bod yn rhan o dîm ac a fydd yn cynnig gwasanaeth gwych i dîm y Rhaglen a’r rhanddeiliaid allweddol. Nid oes gofyn ichi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’n bosibl y bydd y swydd hon yn gyfle ichi ychwanegu at eich profiad o weithio mewn rôl neu weithle gweinyddol blaenorol, gan ymddiddori’n arbennig mewn tasgau cyllid a dangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y rôl. Dylech fod yn frwd dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm.

Bydd eich cais yn cael ei asesu’n unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r meini prawf a’u gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob un ohonynt, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar ei pherthnasedd i'r swydd.

Dyma'r meini prawf a gaiff eu defnyddio hefyd i asesu’r ymgeiswyr ar y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).

Sut byddwn yn eich cefnogi i gyflawni’r swydd hon

Rydym eisiau eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial.

* Cyfarfodydd un i un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm.
* Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
* Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell.
* Cynllun mentora staff.
* Cymorth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi eich sgiliau iaith.

Nodyn Pwysig

Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol.

Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais.

Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo.

Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen.

Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 20435BR.

Meini Prawf Hanfodol

Cymwysterau ac Addysg

* Gradd/NVQ Lefel 4 neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

* Profiad sylweddol o weithio mewn rôl sy'n cefnogi rheolaeth ariannol neu ddadansoddi data
* Y gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol o faes dadansoddi busnes i roi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol
* Y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol.
* Yn fedrus wrth ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (e.e. MS Office), yn enwedig taenlenni Excel hyd safon uchel.

Gwasanaethu Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm

* Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
* Tystiolaeth o'r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny i roi gwasanaeth o safon

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau

* Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, ac adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl.
* Tystiolaeth o wybodaeth amlwg am bolisïau a gweithdrefnau ym maes cyllid, dadansoddi data a/neu reoli prosiectau
* Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan gynllunio a gosod blaenoriaethau i’ch gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, gan fonitro’r cynnydd.

Meini Prawf Dymunol

* Profiad o weithio mewn swydd neu weithle tebyg, e.e., Addysg Uwch neu Bellach, a Rheoli Prosiectau.
* Profiad diamheuol o weithio gyda systemau cyllid fel Oracle a Business Objects.
* Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu’r parodrwydd i ddysgu’r iaith.


Seniority level

* Seniority level

Entry level


Employment type

* Employment type

Full-time


Job function

* Job function

Finance and Sales
* Industries

Higher Education

Referrals increase your chances of interviewing at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd by 2x


Sign in to set job alerts for “Finance Officer” roles.


Finance Manager for Fintech (immediate vacancy)

London, England, United Kingdom 5 days ago

London, England, United Kingdom 3 days ago

London, England, United Kingdom 1 week ago

Greater London, England, United Kingdom 5 days ago

London, England, United Kingdom 1 week ago

London, England, United Kingdom 1 week ago

City Of London, England, United Kingdom £900.00-£1,100.00 3 days ago

London, England, United Kingdom 2 days ago

London, England, United Kingdom 2 days ago

London, England, United Kingdom 1 week ago


Finance Manager - Capital & Fixed Assets

London, England, United Kingdom 1 week ago

City Of London, England, United Kingdom £70,000.00-£80,000.00 3 weeks ago

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 1 month ago

Greater London, England, United Kingdom 2 weeks ago

London, England, United Kingdom 1 month ago

Greater London, England, United Kingdom 1 day ago

City Of London, England, United Kingdom £65,000.00-£70,000.00 3 days ago

Greater London, England, United Kingdom 1 week ago

London, England, United Kingdom £225,000.00-£275,000.00 1 month ago


Manager, Finance & Strategy - Roald Dahl Story Company

London, England, United Kingdom 3 days ago

London, England, United Kingdom 2 weeks ago

Uxbridge, England, United Kingdom 1 week ago

London, England, United Kingdom 4 weeks ago

London, England, United Kingdom 1 day ago


Chief Financial Officer at Insurtech Insights

London, England, United Kingdom 9 months ago


Deputy Finance Manager - Harefield Heart & Lung Directorate

London, England, United Kingdom 1 week ago


Financial Accountant - Octopus Group Finance

London, England, United Kingdom 2 days ago

We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
Similar job
Assistant housing project officer
London
Adecco
Project officer
Similar job
Scholarships relationships and projects officer
London
SOAS, University of London
Project officer
Similar job
Principal policy & project officer
London
Diversifying Group
Project officer
See more jobs
Similar jobs
Administration jobs in London
jobs London
jobs Greater London
jobs England
Home > Jobs > Administration jobs > Project officer jobs > Project officer jobs in London > Project Officer – Finance and Data

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save