Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Amddiffyn pobl sy'n agored i niwed - swyddog ymchwilio achosion

Aberaeron
Permanent
Dyfed-Powys Police
€34,193 a year
Posted: 3 December
Offer description

Job Details

* Heddlu
* Heddlu Dyfed Powys
* Math o rôl
* Staff Heddlu
* Maes Busnes / Adran
* Yr Adran Ymchwiliadau Troseddol
* Lleoliad
* Aberaeron
* Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol
* Hyblyg
* Gradd
* E
* Cyflog
* £32,613 - £35,772
* Rhan/Llawn Amser
* Llawn Amser
* Oriau'r Wythnos
* 37
* Math o Gytundeb
* Parhaol
* Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
* 1
* Dyddiad Cyfweliad
* 16 Rhagfyr 2025
* Dyddiad cau
* 08/12/25 23:55


Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Amddiffyn Pobl Sy’n Agored i Niwed - Swyddog Ymchwilio Achosion yn Adran Ymchwiliadau Troseddol.


Beth fyddwch chi’n ei wneud?

* Cefnogi'r gwaith o ymchwilio i droseddau yn erbyn plant ac oedolion, cam-drin, cam-drin domestig, camfanteisio’n rhywiol ar blant, trais rhywiol, diogelu a throseddau eraill yn erbyn pobl sy’n agored i niwed. Gwneud asesiad a chyfrannu at ddod i benderfyniad ar achosion amddiffyn plant ac oedolion. Sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei rhannu er mwyn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed. Diogelu ac adolygu deunydd trydydd parti. Rhoi cymorth priodol i bob elfen o'r Grŵp Rheoli Diogelu ac Ymchwilio yn ôl y gofyn.
* Ymchwilio, paratoi a chyflwyno adroddiadau mewn Cynadleddau Achos Amddiffyn Plant ac Oedolion. Sicrhau bod cofnod annibynnol yn cael ei gadw o'r wybodaeth a ddarperir / a dderbyni a'r penderfyniadau a wneir.
* Adolygu cofnodion Cynadleddau Amddiffyn Plant a sicrhau ansawdd y camau gweithredu sy’n deillio ohonynt, gan ystyried unrhyw gamau sy’n ofynnol gan asiantaethau partner, a chymryd camau priodol i gywiro unrhyw gamgymeriadau neu anghysondebau.


Beth allwch chi ddisgwyl?

* Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
* 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
* 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
* Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
* Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
* Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
* Cynllun Beicio i’r Gwaith
* Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
* Cynllun pensiwn
* Rhwydweithiau Cymorth Staff
* Cyfleoedd gweithio hyblyg
* Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
* Darpariaethau tâl salwch
* Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Cynhelir cyfweliadau: 16-18 Rhagfyr 2025


Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.


Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

#J-18808-Ljbffr

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Aberaeron
jobs Ceredigion
jobs Wales
Home > Jobs > Amddiffyn Pobl Sy'n Agored i Niwed - Swyddog Ymchwilio Achosion

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save