Planner / Senior Planner
Due to continued growth, Cadnant Planning is seeking to appoint a Planner and/or Senior Planner to join our expanding consultancy team.
We are a small, close-knit practice delivering an exciting and diverse portfolio of projects across North Wales and Cheshire, including involvement in major infrastructure schemes alongside a broad range of residential, commercial, rural and mixed-use developments. This is an opportunity to take on meaningful responsibility within a supportive environment where your contribution will directly influence projects and clients.
The Role
You will work as part of a planning consultancy team alongside Directors and senior colleagues, contributing across all stages of the development and planning process. The role offers exposure to varied and often complex projects, requiring a proactive and solutions-focused approach.
The position will provide the opportunity to work on key projects across the region, including:
* Residential development schemes
* Tourism and leisure projects
* Commercial and industrial developments
* Projects that support thriving town centres and local economies
* Education-related developments
* Major infrastructure and strategic development proposals
Key aspects include:
* Preparing and managing a range of planning applications and appraisals, including specialist planning reports and documents, often working as part of a wider multi-disciplinary project team
* Supporting the delivery of major and local development projects
* Site promotion work in relation to emerging Development Plans
* Liaising with clients, local planning authorities and consultees
* Contributing to project strategy and problem-solving
* Supporting business development
Because of the diversity of our workload, a proven ability to manage your own time, prioritise effectively, and resolve issues independently is essential.
About You
We are looking for motivated individuals committed to a career in planning and development, with strong technical grounding and commercial awareness.
Essential Requirements:
* Minimum 2:1 (or equivalent) at undergraduate level
* MRTPI status achieved (for Senior Planner) or actively working towards chartership
* Strong analytical, report writing and presentation skills
* Clear commitment to the planning and property development sector
* Ability to work both independently and collaboratively within a small team
* Commercial awareness, with an interest in marketing, client engagement and innovation
Preferred requirements:
* Ideally, a Master’s degree in an RTPI accredited subject
* Ability to confidently speak and communicate through the medium of Welsh together with good written skills in Welsh
Experience level will determine whether the appointment is made at the Planner or Senior Planner level.
What We Offer
Cadnant Planning provides a professional but personable working environment where effort and initiative are recognised.
* Competitive salary commensurate with experience (up to £45,000 per annum)
* Company pension
* Discretionary annual bonus (performance related)
* Genuine opportunities for career progression within a growing business
* A positive and supportive team culture
* A busy calendar of client and staff social events, including an annual European study tour
* A strong commitment to flexibility and work–life balance
* Full support for professional development, including:
* Payment of professional memberships
* Training and CPD
* Structured support toward achieving RTPI chartered status
This role is ideal for an ambitious planner looking to broaden their experience, take on responsibility, and grow with a dynamic and respected regional consultancy.
If you want to join Cadnant Planning, please send your CV and a covering email to Sioned Edwards on Sioned.Edwards@cadnantplanning.co.uk. If you’d like a confidential and informal chat, please contact Sioned to arrange.
Cynlluniwr / Uwch Gynlluniwr
O ganlyniad i dwf parhaus, mae Cadnant Planning yn dymuno penodi Cynlluniwr a/neu Uwch Gynlluniwr i ymuno â’n tîm ymgynghoriaeth sy’n ehangu.
Rydym yn gwmni bach, clos ei natur, sy’n cyflawni portffolio cyffrous ac amrywiol o brosiectau ledled Gogledd Cymru a Swydd Gaer, gan gynnwys cyfranogiad mewn cynlluniau seilwaith mawr ochr yn ochr ag ystod eang o ddatblygiadau preswyl, masnachol, gwledig a chymysg. Mae hwn yn gyfle i ymgymryd â chyfrifoldeb ystyrlon mewn amgylchedd cefnogol lle bydd eich cyfraniad yn dylanwadu’n uniongyrchol ar brosiectau, lleoedd a chleientiaid.
Y Rôl
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm ymgynghoriaeth gynllunio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwyr a chydweithwyr profiadol, gan gyfrannu ar bob cam o’r broses ddatblygu a chynllunio. Mae’r rôl yn cynnig profiad o brosiectau allweddol ar draws y rhanbarth, gan gynnwys:
* Cynlluniau datblygu preswyl
* Prosiectau twristiaeth a hamdden
* Datblygiadau masnachol a diwydiannol
* Prosiectau sy’n cefnogi canol trefi ffyniannus ac economïau lleol
* Datblygiadau addysgol
* Cynigion seilwaith mawr a datblygiadau strategol
Prif gyfrifoldebau’r rôl yw:
* Paratoi a rheoli ystod o geisiadau cynllunio ac arfarniadau, gan gynnwys adroddiadau cynllunio arbenigol a dogfennau ategol, yn aml fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach
* Cefnogi cyflwyno prosiectau datblygu mawr a lleol
* Gwaith hyrwyddo safleoedd mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu sy’n dod i’r amlwg
* Cysylltu â chleientiaid, awdurdodau cynllunio lleol a chyrff ymgynghorol
* Cyfrannu at strategaeth prosiectau a datrys problemau
* Cefnogi gweithgareddau datblygu busnes
Oherwydd amrywiaeth ein llwyth gwaith, mae gallu profiad i reoli eich amser eich hun, blaenoriaethu’n effeithiol a datrys problemau’n annibynnol yn hanfodol.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd wedi ymrwymo i yrfa ym maes cynllunio a datblygu, gyda sylfaen dechnegol gadarn ac ymwybyddiaeth fasnachol.
Gofynion Hanfodol
* Gradd israddedig 2:1 o leiaf (neu gyfwerth)
* Statws MRTPI wedi’i gyflawni (Uwch Gynlluniwr) neu’n gweithio tuag at statws siartredig
* Sgiliau dadansoddol, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno cryf
* Ymrwymiad clir i’r sector cynllunio a datblygu eiddo
* Gallu gweithio’n annibynnol ac ar y cyd o fewn tîm bach
* Ymwybyddiaeth fasnachol, gyda diddordeb mewn marchnata, ymgysylltu â chleientiaid ac arloesi
Gofynion Dymunol
* Gradd Meistr mewn pwnc achrededig gan yr RTPI
* Y gallu i siarad a chyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â sgiliau ysgrifenedig da yn y Gymraeg
Bydd lefel profiad yn pennu a wneir y penodiad ar lefel Cynlluniwr neu Uwch Gynlluniwr.
Beth Rydym yn ei Gynnig
Mae Cadnant Planning yn cynnig amgylchedd gwaith proffesiynol ond cyfeillgar, lle mae ymdrech a menter yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo.
* Cyflog cystadleuol yn unol â phrofiad (hyd at £45,000 y flwyddyn)
* Pensiwn cwmni
* Bonws blynyddol dewisol yn seiliedig ar berfformiad
* Cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer datblygiad gyrfa o fewn busnes sy’n tyfu
* Diwylliant tîm cadarnhaol a chefnogol
* Calendr prysur o ddigwyddiadau cymdeithasol i gleientiaid a staff, gan gynnwys taith astudio flynyddol i Ewrop
* Ymrwymiad cryf i hyblygrwydd a chydbwysedd bywyd-gwaith
* Cefnogaeth lawn ar gyfer datblygiad proffesiynol, gan gynnwys:
* Talu am aelodaethau proffesiynol
* Hyfforddiant a CPD
* Cefnogaeth strwythuredig tuag at ennill statws siartredig RTPI
Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer cynlluniwr uchelgeisiol sy’n dymuno ehangu ei brofiad, ymgymryd â chyfrifoldeb, a datblygu o fewn ymgynghoriaeth ranbarthol ddeinamig a pharchus.
I wneud cais, anfonwch eich CV ac e-bost eglurhaol at:
Sioned Edwards – Sioned.Edwards@cadnantplanning.co.uk
Os hoffech sgwrs gyfrinachol ac anffurfiol, cysylltwch â Sioned i drefnu.
#J-18808-Ljbffr