Cynghorydd Canolfan Gyswllt Cyflog: £26,410 y flwyddyn Lleoliad: Parc Busnes Llanelwy Oriau: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 5pm Ynglŷn â’r Swydd Fel Cynghorydd Canolfan Gyswllt, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i’n preswylwyr, a byddwch yn darparu gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol, ac ymatebol. Byddwch yn delio ag amrywiaeth eang o ymholiadau dros y ffôn, negeseuon e-bost, a sianeli digidol, i sicrhau bod preswylwyr yn derbyn gwybodaeth gywir a chymorth yn ôl yr angen. Mae’r swydd hon yn ymdrin yn aml â sefyllfaoedd cymhleth neu heriol, sy’n gofyn am wydnwch, amynedd, a’r gallu i ddatrys problemau yn hyderus. Rhan allweddol o’r swydd hon yw datrys ymholiadau ar y pwynt cyswllt cyntaf lle bo’n bosibl, gan helpu i gynnig profiad cadarnhaol i gwsmeriaid a chynnal perthasoedd cadarn yn y gymuned. Beth fyddwch yn ei wneud Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau preswylwyr Cyfathrebu dros y ffôn, negeseuon e-bost, a llwyfannau digidol Rhoi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad clir Datrys problemau yn effeithlon, a hynny ar y cynnig cyntaf os yn bosibl Cofnodi a rheoli ymholiadau yn gywir gan ddefnyddio systemau cyfrifiadurol Cyfathrebu gydag empathi, proffesiynoldeb, a hyder, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd heriol Ai dyma’r Swydd iawn i chi? Gofynion hanfodol: Siaradwr Cymraeg rhugl (siarad, gwrando a darllen) Gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Saesneg Yn teimlo’n gyfforddus i ddefnyddio cyfrifiaduron ar gyfer tasgau bob dydd Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf Gallu i gadw eich pen, dangos gwydnwch, a rheoli sgyrsiau heriol Profiad o ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid (cyflogedig, gwirfoddol, neu bersonol) Dymunol: Profiad o ddelio â phroblemau a’u datrys mewn ffordd adeiladol Os ydych chi’n mwynhau helpu pobl, datrys problemau, a gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol ar brydiau, gallai hon fod yn swydd berffaith i chi. Pam dod i weithio gyda ni? Pensiwn – cyfraniadau cytafebol hyd at 8% gan y cyflogwr Gwyliau blynyddol – 25 diwrnod a gwyliau banc, yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth Hyblygrwydd o ran gwyliau – dewis i brynu neu werthu gwyliau blynyddol Tâl salwch – tâl salwch uwch y cwmni Manteision a gostyngiadau i’n gweithwyr, yn cynnwys: Ap Husing Perks – arbedion bob dydd ar eich siopa a nwyddau hanfodol Gstyngiad Blue Light – gostyngiadau ariannol gydag amrywiaeth eang o adwerthwyr, bwytai, a gwasanaethau Vivup – llwyfan llesiant a budd-daliadau sy’n cynnig gstyngiadau, gwobrwyon, a chymorth ymarferol …a llawer mwy! Os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn rydych chi’n angerddol dros ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.