Why work for Estyn? We are the education and training inspectorate for Wales. Our aim is to improve the quality of education and training for learners in Wales. One of our key roles is to inspect education and training in Wales to give assurance to the public and government regarding educational standards. We help education providers, such as schools and colleges, to improve quality and outcomes. We also advise the Welsh Government about educational policy and prepare reports on a wide range of educational issues and themes. Further information on our work can be found here. Our work makes a real difference to learners in Wales, and we know that it’s our dedicated team who help make that happen. Who are we looking for? We’re looking for a Welsh speaking People and OD Advisor, with experience of working in a generalist HR role. You will play an important role in our People function - delivering advice, supporting managers, developing policy, managing recruitment activities and supporting learning and development. Full details of the role and skills, experience and behaviours can be found in the information pack. Diversity and Inclusion We’re committed to creating a workplace where everyone feels welcome, supported, and able to thrive. At Estyn, we value different perspectives and lived experiences which help us grow stronger as an organisation and make better, more informed decisions for the learners and communities we serve. We know that a diverse team brings fresh ideas, richer conversations, and stronger outcomes. That’s why we encourage applications from people of all backgrounds, cultures, and experiences. Flexible and Hybrid Working At Estyn, we believe flexibility helps our people do their best work while maintaining a healthy work-life balance. Typically, this means working from home, with one set day in the Cardiff office as a team day. It’s a great opportunity to collaborate, catch up in person, and stay connected. We also hold Central Services get-togethers and all-staff conferences throughout the year to bring everyone together. We operate a flexitime system too, giving you even more freedom to shape your working day in a way that suits you and meets business needs. Key Dates Closing date - 10:00am on 17 July 2025 Assessment / Interview - 28 July 2025 More information If you have any questions about the role, please contact Vicky Price on [email protected] or 02920 446314. Further details on working for us can be found in the information pack. Guidance on how to apply can be found here. You will be prompted to complete an application form during the process but for ease, please download the form here and upload on stage 3 of the application. Pam gweithio i Estyn? Ni yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant i ddysgwyr yng Nghymru. Un o’n rolau allweddol yw arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru i roi sicrwydd i’r cyhoedd a’r llywodraeth ynghylch safonau addysgol. Rydym yn helpu darparwyr addysg, fel ysgolion a cholegau, i wella ansawdd a deilliannau. Rydym hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch polisi addysgol ac yn paratoi adroddiadau ar ystod eang o faterion a themâu addysgol. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith i’w gweld yma. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr yng Nghymru ac rydym yn gwybod mai ein tîm ymroddedig sy’n helpu i wneud i hynny ddigwydd. Rydym yn credu mewn cefnogi a gwerthfawrogi pob aelod o’n tîm. O’r cychwyn cyntaf, cewch eich croesawu i amgylchedd cyfeillgar a phroffesiynol, lle mae eich syniadau a’ch cyfraniadau o bwys. Fe gewch gyfnod ymsefydlu trylwyr i’ch helpu i ddeall sut mae’ch rôl yn rhan o’n cenhadaeth gytûn. Byddwch yn rhan o rwydwaith cydweithredol o gydweithwyr, yn eich tîm ac ar draws y sefydliad ehangach. Pwy ydym ni'n chwilio amdano? Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol sy’n siarad Cymraeg, sydd â phrofiad o weithio mewn rôl adnoddau dynol gyffredinol. Byddwch yn chwarae rôl bwysig yn ein swyddogaeth Pobl – gan roi cyngor, cefnogi rheolwyr, datblygu polisi, rheoli gweithgareddau recriwtio a chefnogi dysgu a datblygu. Mae pob manylyn am y rôl a'r sgiliau, profiad a ymddygiadau i'w cael yn y pecyn gwybodaeth. Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cefnogi a’u bod yn gallu ffynnu. Yn Estyn, rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a phrofiadau bywyd sy’n ein helpu i gryfhau fel sefydliad a gwneud penderfyniadau gwell a mwy gwybodus ar gyfer y dysgwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwybod bod tîm amrywiol yn dod â syniadau newydd, sgyrsiau cyfoethocach a deilliannau cryfach. Dyma pam rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, diwylliant a phrofiad. Gweithio hyblyg a gweithio hybrid Yn Estyn, rydym yn credu bod hyblygrwydd yn helpu ein pobl i wneud eu gwaith gorau wrth gynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd. Fel arfer, mae hyn yn golygu gweithio gartref, gydag un diwrnod penodol bob wythnos yn gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd fel diwrnod tîm. Mae’n gyfle gwych i gydweithio, dal i fyny wyneb-yn-wyneb a chadw mewn cysylltiad. Rydym hefyd yn dod ynghyd fel Gwasanaethau Canolog ac yn cynnal cynadleddau i’r holl staff trwy gydol y flwyddyn i ddod â phawb at ei gilydd. Rydym yn gweithredu system oriau hyblyg hefyd, gan roi hyd yn oed mwy o ryddid i chi lunio’ch diwrnod gwaith mewn ffordd sy’n addas i chi ac yn bodloni anghenion busnes. Dyddiadau Allweddol Dyddiad cau: 10yb ar 17 Gorffennaf 2025 Asesiad a Chyfweliad - 28 Gorffennaf 2025 Mwy o wybodaeth Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Vicky Price ar [email protected] neu 02920 446314. Mae manylion pellach am weithio i ni ar gael yn y pecyn gwybodaeth. Mae arweiniad ar sut i wneud cais ar gael yma. Fe'ch anogir i lenwi ffurflen gais yn ystod y broses ond er hwylustod, lawrlwythwch y ffurflen yma a'i lanlwytho ar gam 3 y cais.