Employment Solicitor
Closing date:
05/10/2025
About the Service
As the capital of Wales, Cardiff offers not only the experience of working in one of the fastest growing and most highly skilled cities in Britain but also offers easy access to the fabulous South Wales region's coastline and countryside with worldwide standing.
Cardiff Council has a Lexcel accredited in house Legal Service with excellent opportunities for a hardworking, motivated and adaptable legal practitioner. Currently based at County Hall in the heart of Cardiff Bay with good transport links and parking facilities. W
e have specialist lawyers carrying out procurement, litigation, property, planning, governance, childcare and adult social services work, and aim to provide our clients with an excellent and comprehensive service.
The service now operates a hybrid working model which enables employees to work flexibly from home or from an office base, depending upon service requirements. We have a modern case management system, an online legal library, and a small business support team. We also have 4 trainee solicitor posts which we use to help grow our own workforce.
About the Job
We are keen to recruit a high calibre, experienced and qualified Solicitor or Barrister with relevant experience who can deal with a varied and demanding Employment Law matters, including advising on the law itself, policy, governance, conducting litigation; and where necessary and appropriate appearing as advocate for the Council in Court and at tribunals, hearings, although Counsel is usually instructed for complex matters and final hearings.
About You
The successful applicant will need to have the relevant qualification of degree status, be admitted as a Solicitor or called to the bar and must be able to work as part of a team. We expect the individual appointed to take personal responsibility for delivering excellence, to work with others to achieve the best possible outcomes, to embrace change and new opportunities, to make the most of the resources available and to think and act in the best interests of the Council.
Additional Information
We have a modern case management system, an online legal library, and a small business support team.
While the role is demanding our flexible working policies ensure a healthy work life balance. The Council's Flexi Time policy applies to the post and flexible working patterns are available, subject to meeting the needs of our clients and having mutual regard to the working arrangements of existing team members. The successful applicant would need to be able to travel at short notice in line with the demands of this post.
This vacancy is suitable for post share
subject to there being another suitably qualified and experienced employee/candidate who wishes to post share.
For an informal conversation, please contact the Business Manager Kate Moran
We welcome applications in both English and Welsh. Applications received in Welsh will not be treated less favourably than English applications.
Due to the current interim working arrangements, we are unable to provide recruitment packs or accept application forms via the post.
We understand you might use AI and other resources for your application; however, please ensure all information you provide is factually accurate, truthful, original and does not include ideas or work that is not your own.
Please note the Council does not accept CV's. When completing the supporting information section of your application, please ensure you refer to the below located on our website:
Important information you need read in order to complete your application: -
• Application Guidance
• Applying for jobs with us
• Behavioural Competency Framework
Additional Information: -
• Employee Charter
• Recruitment of Ex-Offenders
• Privacy Notice
Cyfreithiwr Cyflogaeth
Dyddiad Cau:
05/10/2025
Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio yn un o'r dinasoedd uchaf ei sgiliau ac sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ond hefyd yn cynnig mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang
.
Mae gan Gyngor Caerdydd Wasanaeth Cyfreithiol mewnol wedi ei achredu gan Lexcel, gyda chyfleoedd rhagorol ar gyfer ymarferydd cyfreithiol gweithgar, llawn cymhelliant, sy'n gallu addasu. Ar hyn o bryd, mae'r swydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau parcio da. M
ae gennym gyfreithwyr arbenigol sy'n gwneud gwaith caffael, ymgyfreitha, eiddo, cynllunio, llywodraethiant, gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a'n nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhwysfawr i'n cleientiaid.
Mae'r gwasanaeth bellach yn gweithredu model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio'n hyblyg gartref neu o swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth. Mae gennym system reoli achosion fodern, llyfrgell gyfreithiol ar-lein, a thîm cymorth busnes bach. Mae gennym hefyd 4 swydd cyfreithiwr dan hyfforddiant a ddefnyddiwn er mwyn helpu i dyfu ein gweithlu ein hunain.
Ynglŷn â'r Swydd
Rydym yn awyddus i recriwtio Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr o safon uchel, sy'n brofiadol a chymwys ac sydd â phrofiad perthnasol. Bydd yn gallu delio â llwyth gwaith amrywiol a thrwm yn ymwneud â materion Cyfraith Cyflogaeth, gan gynnwys cynghori ar y gyfraith ei hun, polisi, gwneud gwaith ymgyfreitha; a lle bo angen ac yn briodol, cynrychioli'r Cyngor fel eiriolwr yn y llys ac mewn tribiwnlysoedd a gwrandawiadau, er y defnyddir Cwnsler ar gyfer materion cymhleth a gwrandawiadau terfynol.
Amdanoch Chi
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster gradd, bod wedi ei dderbyn fel Cyfreithiwr neu wedi ei alw i'r bar, a bydd yn gallu gweithio fel rhan o dîm. Disgwyliwn i'r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni'r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau'r Cyngor.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gennym system fodern i reoli achosion, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach.
Er bod y rôl yn heriol, mae ein polisïau gwaith hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae polisi Amser Hyblyg y Cyngor yn berthnasol i'r swydd ac mae patrymau gweithio hyblyg ar gael, yn amodol ar ddiwallu anghenion ein cleientiaid ac ystyried trefniadau gwaith aelodau'r tîm presennol. Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio ar fyr rybudd yn unol â gofynion y swydd hon.
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu ar yr amod bod gweithiwr / ymgeisydd cymwys arall sydd â phrofiad addas yn dymuno ei rhannu.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Rheolwr Busnes Kate Moran ar e-bost
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar gael ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
• Canllaw ar Wneud Cais
• Gwneud cais am swyddi gyda ni
• Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
• Siarter Cyflogeion
• Recriwtio Cyn-Droseddwyr
• Hysbysiad Preifatrwydd