Am bwy rydym yn chwilioUnigolyn egnïol a hyblyg i ddatblygu amrywiaeth o bartneriaethau a phrofiadau, ar y safle ac oddi arno, a fydd yn arwain at ddyfodol cyffrous a disglair i Dŷ Mawr. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydych yn meddu ar y canlynol: Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg. Profiad o weithio o fewn cymunedau Cymreig, a sgiliau pobl amlwg, sy’n galluogi perthnasoedd gweithio da yn fewnol ac yn allanol.. Diddordeb yn hanes Cymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, yn cynnwys arwyddocâd Tŷ Mawr Wybrnant. Profiad o gyfathrebu syniadau creadigol yn effeithiol i ystod o randdeiliaid, gyda’r gallu i addasu cynlluniau i anghenion partneriaid, aelodau tîm a chynulleidfaoedd. Profiad o feithrin, cynnal, a datblygu cysylltiadau partneriaeth er mwyn cynnig cyfleoedd ymgysylltu i ymwelwyr, gwirfoddolwyr neu gyfranogwyr cymunedol. Dealltwriaeth o’r hyn sy’n creu profiad ymwelwyr da. Profiad o gyflawni rhaglenni ymwelwyr a/neu weithio â phartneriaid cymunedol neu fasnachol i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau, yn ddelfrydol ar gyfer a chyda chynulleidfaoedd yn y sector treftadaeth. Diddordeb mewn cadwraeth adeiladau neu gasgliadau. Who we are looking forAn energetic and flexible individual to develop a variety of partnerships and experiences, both on site and off site, that lead to a bright and exciting future for Tŷ Mawr. We would love to hear from you if you have the following: Excellent communication skills, ability to communicate effectively in Welsh and EnglishExperience of working within Welsh communities & strong people skills, enabling good working relationships internally and externallyAn interest in the history of Wales, it's language and literature, including the significance of Tŷ Mawr Wybrnant Experience of communicating creative ideas effectively to a range of stakeholders with the ability to adapt plans to the needs of partners, team member and audiencesExperience of building, maintaining and developing partnership relationships to offer engagement opportunities to visitors, volunteers or community participants An understanding of what makes a good visitor experience Experience in delivering visitor programmes and/or working with community or commercial partners to deliver events and activities, ideally for and with audiences in the heritage sector An interest in the conservation of buildings or collections Senior Programming & Partnerships Officer / Uwch Swyddog Rhaglennu a PhartneriaethauSut brofiad yw gweithio ymaMae Tŷ Mawr Wybrnant yn ffermdy syml o’r 16eg ganrif a chanddo arwyddocâd diwylliannol enfawr. Yn swatio yn nyffryn gwledig Wybrnant, ger Penmachno, mae’n enwog am mai dyma’r lle y ganwyd yr Esgob William Morgan a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg ym 1588. Arweiniodd hyn at iaith safonol a gyfrannodd at sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei siarad yn eang hyd heddiw. Mae’r casgliad wedi tyfu i gynnwys dros 300 o Feiblau mewn dros 100 o ieithoedd, sy’n adlewyrchu sut y mae’r stori hon yn berthnasol i ddiwylliannau o bob cwr o’r byd. A ninnau wedi sicrhau cyllid yn ddiweddar i drawsnewid sut yr awn ati i rannu ein casgliad unigryw o Feiblau yn Nhŷ Mawr Wybrnant, byddwch yn ymuno â’n tîm ar adeg hynod gyffrous. Bydd cyfleoedd i ddatblygu syniadau a gweithio gyda’r gymuned leol, ysgolion, ymchwilwyr, gwirfoddolwyr, a phartneriaid. Byddwch yn Tŷ Mawr yn rheolaidd a gallwch hefyd weithio o'n swyddfa yn Dinas ger Betws y Coed neu Craflwyn, ger Beddgelert. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar Dŷ Mawr ond bydd hefyd yn cynnwys cefnogi portffolio cefn gwlad ehangach Eryri. Mae'r rôl yn cael ei hysbysebu fel 37.5 awr yr wythnos, ond rydym yn agored i ystyried trefniant rhan-amser (o leiaf 22.5 awr yr wythnos). Gellir trafod patrymau gwaith ond bydd angen gweithio ar benwythnosau a gŵyl y banc yn achlysurol.What its like to work hereTŷ Mawr Wybrnant is a modest 16th century farmhouse with huge cultural significance. Nestled in the rural Wybrnant valley, near Penmachno, its famous for being the birthplace of Bishop William Morgan, who translated the Bible into Welsh in 1588. This gave rise to a standardised language which was instrumental in ensuring Welsh is still widely spoken today. The collection has grown to include over 300 Bibles in over 100 languages, reflecting how this story resonates with cultures from every corner of the world. You’ll be joining our team at a very exciting time, having recently secured funding to transform how we share our unique collection of Bibles at Ty Mawr Wybrnant. There will be opportunities to develop ideas and work with the local community, schools, researchers, volunteers, and partners. You’ll be at Tŷ Mawr regularly and can also work from our office base at Dinas near Betws y Coed or Craflwyn, near Beddgelert. The work will focus on Tŷ Mawr but will also involve supporting wider countryside portfolio of Eryri (Snowdonia). The role is being advertised as 37.5 hours a week, but we are open to considering a part time arrangement (minimum 22.5 hours per week). Working patterns can be negotiated but will require occasional weekend and bank holiday working.Eich dyletswyddauByddwch yn gyfrifol am drefnu a chyflwyno rhaglen ddifyr a chreadigol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer ein hymwelwyr. Trefnu diwrnodau agored thematig misol, yn cynnwys perfformiadau ar y lawnt i deuluoedd a’n darlith flynyddol.Bydd eich cwmpas yn ymestyn drwy Ddyffryn Conwy, gan weithio’n rheolaidd â chymunedau mewn lleoliadau megis Penmachno, Pentrefoelas, Llanrwst a Chonwy. Byddwch yn gweithio gyda hwyluswyr ac ysgolion lleol i gyd-gynhyrchu rhaglen addysgol flynyddol, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at y profiad ymwelwyr a datblygu ymdeimlad o berchnogaeth dros y stori.Byddwch yn rheoli tîm bychan o wirfoddolwyr, gan helpu i feithrin a chynnwys y tîm wrth weithio i baratoi’r rhaglen.Bydd cyfleoedd hefyd i ddatblygu syniadau ynghylch rhannu stori a chasgliad Tŷ Mawr Wybrnant y tu hwnt i’r ffermdy, yn arbennig pan fyddwn ar gau dros y gaeaf. What you’ll be doingYou’ll be responsible for organising and delivering an engaging and creative programme of events and activities for our visitors. From organising monthly themed open days, from a gig on the lawn for families to our annual lecture.Your reach will extend throughout the Conwy valley, regularly working with communities in locations such as Penmachno, Pentrefoelas, Llanrwst and Conwy. You’ll work with local schools and facilitators to co-produce an annual educational programme, providing opportunities for young people to feed into the visitor experience and develop a sense of ownership over the story.You’ll manage a small team of volunteers, helping nurture and involve the team in the delivery of the programming.There will also be opportunities to develop ideas about sharing Tŷ Mawr Wybrnant’s story and collection beyond the farmhouse, particularly when we are closed for winter. 152176IRC152176