Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Rheolwr gweithrediadau rhaglenni

Llangefni
Isle of Anglesey County Council
£20,000 - £40,000 a year
Posted: 21 September
Offer description

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Y Rheolwr Gweithrediadau Cymwysiadau DDaT sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ddisgyblaeth Gweithredu Cymwysiadau TG o fewn teulu swyddi Gweithrediadau DDaT a swyddogaethau swydd sy'n gysylltiedig â dylunio, adeiladu, darparu a chynnal a chadw systemau cymwysiadau a meddalwedd y Cyngor. Byddant yn gweithio ar y cyd â disgyblaethau eraill i weithredu a chefnogi datrysiadau meddalwedd cost-effeithiol o ansawdd uchel i fodloni ystod hynod gymhleth o ofynion busnes ar draws y sefydliad. Byddant yn arwain ymchwil i dechnolegau newydd mewn integreiddio cymwysiadau, cynnal a chadw, monitro ac awtomeiddio i sicrhau bod y Cyngor yn barod ar gyfer newidiadau yn y dirwedd dechnoleg.

Gan adrodd i Reolwr Gweithrediadau TG DDaT, bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni nodau strategol tîm DDaT. Byddant yn darparu cyfeiriad a rheolaeth i'w tîm ac yn arwain a chyfrannu at brosiectau.

Bydd deiliad y swydd yn rhoi arweiniad i dîm o swyddogion i sicrhau bod y cyngor yn gwella perfformiad, gwytnwch a diogelwch ei systemau meddalwedd yn barhaus. Byddant yn sicrhau datblygiad eu timau i ddiwallu anghenion technoleg newidiol y sefydliad trwy fentora, asesu a gwelliant parhaus.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Anthony Williams

Rhif ffôn:

Cyfeiriad e-bost:

Job Reference: CORP100503

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Llangefni
jobs Isle of Anglesey
jobs Wales
Home > Jobs > Rheolwr Gweithrediadau Rhaglenni

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2025 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save