Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin sy’n rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn. Nod Canllaw yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Canllaw Addasu - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth. Canllaw Technegol - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus. Pwrpas cyffredinol y swydd Uwch Swyddog Technegol yw d arparu gwasanaeth technegol cynhwysfawr i grŵp cleient Canllaw: Darparu gwasanaeth technegol proffesiynol llawn i grŵp cleient Canllaw mewn perthynas ag estyniadau, atgyweiriadau ac addasiadau iw cartrefi gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheoliadau a deddfau cyfredol. Sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar y cwsmer, yn gost-effeithiol ac yn gynaliadwy. Bod yn sensitif i anghenion a dymuniadau cleientiaid a darpar-gleientiaid Canllaw. Galluogi pobl hŷn a phobl anabl i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain. Cwrdd â’r safonau ansawdd, amser ac ymateb o fewn Amcanion Perfformiad, Cytundebau Gwasanaeth a’r Canllawiau Ymarfer Da a osodir gan Canllaw. Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymatebol ac yn gallu dangos gwelliant. Arwain drwy esiampl a dangos ymrwymiad tuag at ddarparu gwasanaeth technegol o ansawdd ynghyd â rhannu profiadau a gwybodaeth er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ansawdd y gwasanaeth. Y Pecyn Math o gytundeb: C ytundeb Parhaol Cyflog: £33,517 - £37,724 y flwyddyn Oriau: 35 awr yr wythnos Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS) Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Sut i Ymgeisio am y swydd Canllawiau sut i ymgeisio: Canllawiau cwblhau cais.pdf Disgrifiad Swydd DS Uwch Swyddog Technegol Medi 2025.pdf JD Senior Technical Officer Sept 2025.pdf Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.