Jobs
My ads
My job alerts
Sign in
Find a job Career Tips Companies
Find

Cyfarwyddydd cyflwyno gwasanaethau (dyddiad cau 11/02/2026)

Bangor (Gwynedd)
Careers Wales
Posted: 21 January
Offer description

Gyrfa Cymru


Cyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau

Cyflog: £82,947 i £91,308

Math o gontract: Parhaol

Oriau: Llawn amser (37 awr yr wythnos)

Lleoliad: Cymru (gyda chylch gwaith cenedlaethol)

Canolfan: I’w benderfynu ar ôl penodi (un o'n canolfannau Gyrfa sydd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru).

Dyddiad Cau: Hanner nôs 11/02/2026


Cyflwyniad

Ydych chi'n arweinydd sydd â gweledigaeth, sy’n barod i ddylanwadu ar ddyfodol cyfarwyddyd gyrfa a chymorth ledled Cymru? Mae Gyrfa Cymru yn chwilio am Gyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau i ysgogi arloesedd, hyrwyddo trawsnewid strategol, a darparu gwasanaethau sy'n arwain y sector gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.


Yn y rôl hon byddech yn:

· Darparu arweinyddiaeth glir a strategol ac yn cydweithio ar draws pob maes o'r cwmni

· Gyrru gwelliant busnes parhaus ac yn diogelu ein modelau gweithredu i’r dyfodol

· Cynrychioli Gyrfa Cymru yn genedlaethol a thu hwnt, gan adeiladu cysylltiadau dylanwadol gyda rhanddeiliaid

· Hyrwyddo'r Gymraeg ac arwain ar strategaeth y Gymraeg gan gyfrannu at Gymraeg 2050

· Goruchwylio'r gwaith o gyflwyno ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a meithrin diwylliant o ddiogelu

· Sicrhau bod ein strategaethau yn cefnogi nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a lles




Gofynion y Gymraeg:

Mae Gyrfa Cymru yn sefydliad dwyieithog ac mae sgiliau Cymraeg yn cael eu hystyried yn gaffaeliad i'r sefydliad. Rydyn ni’n annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg weithio tuag at ddatblygu'r sgiliau hyn.


Pam Gyrfa Cymru?

Mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n darparu gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfa ac annog hanfodol, pob oedran, annibynnol, diduedd a dwyieithog yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru’n Gweithio. Byddwch yn ymuno â sefydliad dynamig sydd ar flaen y gad o ran cyfarwyddyd gyrfa, ac yn gweithio gyda chydweithwyr talentog i ddarparu gwasanaethau arloesol, effeithiol. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd cefnogol lle bydd eich syniadau a'ch arweinyddiaeth yn helpu i lunio dyfodol unigolion a chymunedau ledled Cymru.




Buddion

Buddion deniadol gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio, a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.




Barod i wneud gwahaniaeth?

Gwnewch gais nawr i fod yn Gyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau a helpwch ni i adeiladu dyfodol mwy disglair i Gymru.



Am ragor o wybodaeth am y rôl, cymerwch gip ar y disgrifiad swydd yma: Cyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau



Er mwyn gwneud cais, mae'n ofynnol i chi lenwi ychydig o gwestiynau ynglŷn â'ch manylion personol, yn ogystal â chyflwyno CV a llythyr eglurhaol. Dylai’ch llythyr eglurhaol fanylu ar sut mae’ch cymwysterau, sgiliau, nodweddion a phrofiad yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, a fanylir yn y disgrifiad swydd. Ni ddylai’ch llythyr eglurhaol fod yn fwy na 2 dudalen o hyd.



Mae Gyrfa Cymru yn gweithredu system recriwtio dienw ac ni fydd y panel dethol yn gweld gwybodaeth bersonol wrth dynnu rhestr fer, yn unol â'n hymrwymiad i roi terfyn ar ragfarn a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Peidiwch â chynnwys unrhyw fanylion personol ar eich CV neu lythyr eglurhaol.



Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs 11/02/2026.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 02/03/2026 a 03/03/2026.





Ewch i wefan recriwtio Gyrfa Cymru i gael manylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddarganfod mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.



Yn Gyrfa Cymru, rydyn ni’n ffynnu ar amrywiaeth a chynhwysiant. Credwn fod sefydliadau â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, ac yn hapusach yn gyffredinol. Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus rhagorol ac at alluogi gwelliannau parhaus i bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy'n cynrychioli’r dinasyddion rydyn ni'n eu gwasanaethu ym mhob gradd swydd.



Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg. Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodas neu bartneriaeth sifil, statws economaidd, neu gyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, gan drin pobl yn deg gydag urddas a pharch.

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save
See more jobs
Similar jobs
jobs Bangor (Gwynedd)
jobs Gwynedd
jobs Wales
Home > Jobs > Cyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau (Dyddiad Cau 11/02/2026)

About Jobijoba

  • Career Advice
  • Company Reviews

Search for jobs

  • Jobs by Job Title
  • Jobs by Industry
  • Jobs by Company
  • Jobs by Location
  • Jobs by Keywords

Contact / Partnership

  • Contact
  • Publish your job offers on Jobijoba

Legal notice - Terms of Service - Privacy Policy - Manage my cookies - Accessibility: Not compliant

© 2026 Jobijoba - All Rights Reserved

Apply
Create E-mail Alert
Job alert activated
Saved
Save