**If you have submitted an application for this role within the last 6 months and were unsuccessful, please do not re-apply as regrettably, your application will not be considered.
Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship.**
The Role
The Supply Chain Manager will contribute and drive forward the implementation of the supply chain vision, advising and supporting the business on supply chain strategies and initiatives that deliver value from Transport for Wales (TfW) supply chain relationships and contracts.
Role responsibilities
Contribute to shaping and implementing TfW's Supply Chain Management (SCM) strategy and vision into deliverables aligned to TfW strategic priorities through the implementation of supply chain initiatives and activities to build an environment which encourages high performance and continuous development within the SCM team and across the organisation.
Identify opportunities to better improve and create efficiencies by overseeing the supply chain and keeping abreast of changes in industry best practice and legislation to ensure TfW has a best in class and compliant supply chain management provision, continuously improving the supply chain management function.
Support and drive initiatives that extract value from our supply chain relationships and contracts through supply chain management strategies, delivering savings and benefits that support TfW strategic objectives.
Develop and drive sustainable procurement governance to include social value measures by collaborating with key stakeholders across the business and ensure measures are embedded in contractual obligations and performance measures to provide demonstrable evidence in reporting requirements.
Enable the delivery on TfW priorities by undertaking market analysis to support development and implementation of the right supply chain and procurement strategy.
Support and contribute to the development of a diverse supply chain through supplier engagement and supplier development to ensure a diverse supply chain can respond to TfW requirements and deliver sustainable solutions that prove value for money.
Support the design and implementation of a supplier relationship management framework to include a strategic relationship programme for TfW by fostering strong and lasting relationships with external stakeholders and our delivery partners to create a culture of collaboration and shared best practice with our partners.
Who we're looking for
Experience of working in a complex supply chain environment.
Experience of identifying and managing risk in the supply chain.
Knowledge and understanding of sustainable and social value approaches in the supply chain in order to develop a diverse supply chain.
Previous experience in the governance and assurance of the supply chain.
Experience of engaging and developing effective working relationships with a range of internal and external customers and stakeholders.
Demonstrable evidence of performance management lifecycle, ensuring lessons learnt are embedded in future requirements.
Welsh Language Skills
While not essential for this role, Welsh language skills would make a great addition to your application.
TfW support anyone who wants to learn Welsh or improve their skills. We offer online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses.
Equal Opportunities
We're changing the way the transport industry looks. By celebrating and embracing differences, we're building a workforce that represents Wales. We need talented people from all backgrounds and cultures to bring their perspectives and experiences. Diverse teams make better decisions and drive innovation. Join us in transforming the way Wales travels."
Who we are
Transport for Wales is changing the way Wales travels, making sustainable transport the first choice. We're building a multimodal integrated transport network called the T Network, making it easier for people to travel by train, bus, walking, wheeling and cycling.
Next steps
See attached Job Description for further details and how to apply. If you want to find out more about what we're doing in Wales, see our Annual Report.
We're a Disability Confident Leader. Let us know about any reasonable adjustments you may need in the recruitment process and as part of the role if you are successful.
This advert will close at 23:59 on the day of the application closing date stated above. However, we reserve the right to close this vacancy early if we receive enough applications. We encourage you to submit your application as early as possible.
**Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Y Swydd
Bydd y Rheolwr Cadwyn Gyflenwi yn arwain ac yn gweithredu gweledigaeth y gadwyn gyflenwi, gan gynghori a chefnogi'r busnes ar strategaethau a mentrau'r gadwyn gyflenwi sy'n sicrhau gwerth o berthnasoedd a chontractau cadwyn gyflenwi Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Cyfrifoldebau'r swydd
Cyfrannu at lunio ac arwain strategaeth Rheoli Cadwyn Gyflenwi (RhCG) TrC a'i weledigaeth i gyflawni sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol TrC drwy weithredu mentrau a gweithgareddau'r gadwyn gyflenwi i adeiladu amgylchedd sy'n annog perfformiad uchel a datblygiad parhaus o fewn y tîm RhCG ac ar draws y sefydliad.
Nodi cyfleoedd i wella ac i greu effeithlonrwydd drwy oruchwylio'r gadwyn gyflenwi a bod yn ymwybodol o newidiadau yn arferion gorau a deddfwriaeth y diwydiant i sicrhau bod gan TrC y ddarpariaeth rheoli cadwyn gyflenwi gorau posibl a chydymffurfiol, gan wella'r swyddogaeth rheoli'r gadwyn gyflenwi yn barhaus.
Datblygu a gyrru mentrau sy'n echdynnu gwerth o'n perthnasoedd a'n contractau cadwyn gyflenwi trwy strategaethau rheoli'r gadwyn gyflenwi, gan sicrhau arbedion a buddion sy'n cefnogi amcanion strategol TrC.
Datblygu a gyrru llywodraethiant caffael cynaliadwy i gynnwys mesurau gwerth cymdeithasol trwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol ar draws y busnes a sicrhau bod mesurau'n cael eu hymgorffori mewn rhwymedigaethau cytundebol a mesurau perfformiad i ddarparu tystiolaeth dangosadwy o ran adrodd am ofynion.
Galluogi cyflawni blaenoriaethau TrC drwy gynnal dadansoddiad o'r farchnad i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r gadwyn gyflenwi a'r strategaeth gaffael gywir.
Datblygu ac adeiladu cadwyn gyflenwi amrywiol drwy ymgysylltu â chyflenwyr a datblygu cyflenwyr i sicrhau cadwyn gyflenwi amrywiol sy'n gallu ymateb i ofynion TrC a darparu datrysiadau cynaliadwy sy'n profi gwerth am arian.
Dylunio a darparu fframwaith rheoli perthnasoedd â chyflenwyr i gynnwys rhaglen cysylltiadau strategol ar gyfer TrC drwy feithrin perthnasoedd cryf a pharhaol â rhanddeiliaid allanol a'n partneriaid cyflawni i greu diwylliant o gydweithio ac arferion gorau ar y cyd â'n partneriaid.
Am beth rydyn ni'n chwilio
Aelodaeth o'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (MCIPS) – lefel 5 neu uwch neu gyfwerth.
Profiad dangosadwy o nodi a rheoli risg yn y gadwyn gyflenwi.
Profiad dangosadwy o weithio mewn amgylchedd cadwyn gyflenwi gymhleth.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau cynaliadwy a gwerth cymdeithasol yn y gadwyn gyflenwi.
Profiad dangosadwy o ddatblygu'r gadwyn gyflenwi i fodloni gofynion gallu a chapasiti.
Profiad dangosadwy blaenorol o lywodraethu a sicrhau'r gadwyn gyflenwi.
Profiad dangosadwy o ymgysylltu ag amryw o gwsmeriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol, ac o feithrin perthynas waith effeithiol â nhw.
Tystiolaeth dangosadwy o gylch bywyd rheoli perfformiad, gan sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu gwreiddio yn y gofynion yn y dyfodol.
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.