The suitable applicant must demonstrate that they meet the requirements for a Grade 8 social worker in the Fostering service as described in the Job Description and Person Specification.
You will be responsible for undertaken connected person assessments in collaboration with the child’s social worker and contribute to care planning for the child. Be able to offer recommendations not only on the suitability of the carers but on their ability to meet the specific needs of the child(ren) being assessed on the least intrusive legal order. You will also be responsible for proposing a support plan for the carers that ensures that any areas of vulnerability are mitigated through the provision of support services.
Rhaid i'r ymgeisydd addas ddangos ei fod yn bodloni'r gofynion ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 8 yn y gwasanaeth Gofal Maeth fel y disgrifir yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.
Byddwch yn gyfrifol am gynnal asesiadau unigolion cysylltiedig mewn cydweithrediad â gweithiwr cymdeithasol y plentyn ac yn cyfrannu at gynllunio gofal ar gyfer y plentyn. Byddwch yn gallu cynnig argymhellion nid yn unig ar addasrwydd y gofalwyr ond ar eu gallu i ddiwallu anghenion penodol y plentyn/plant sy'n cael eu hasesu ar y gorchymyn cyfreithiol lleiaf ymwthiol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gynnig cynllun cymorth i'r gofalwyr sy'n sicrhau bod unrhyw feysydd bregusrwydd yn cael eu lliniaru drwy ddarparu gwasanaethau cymorth.