3 days ago Be among the first 25 applicants
MANYLION Y SWYDD
Swydd : Uwch Newyddiadurwr BBC Cymru Fyw
Band : D
Cytundeb : Cytundeb 12 mis, Llawn-amser
Adran : Newyddion BBC Cymru
Cyflog : £41,200 – £48,000 y flwyddyn yn ddibynnol ar sgiliau perthnasol, gwybodaeth a phrofiad. Mae'r ystod cyflog ar gyfer y rôl yn adlewyrchu meincnodau mewnol a mewnwelediadau marchnad allanol.
Mae sgiliau'r Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role
BBC EXTEND
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai: y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu'r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend drwy flwch derbyn Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC.
Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol ein cyflogaeth gyda ni. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend, ewch i dudalen we BBC Extend. EX2324
PWRPAS Y SWYDD
Fel Uwch Newyddiadurwr Fe Fyddwch Yn Chwarae Rhan Allweddol Wrth Siapio Agenda Newyddion Digidol Cymru Fyw a Meddwl Yn Greadigol Am Gynnwys Ar Gyfer Cynulleidfaoedd Cymraeg. Byddwch Yn Gyfrifol Am Arwain Tîm Bach o Newyddiadurwyr, Gan Gynnig
* arweiniad golygyddol cadarn er mwyn ymateb i straeon sy’n torri, a chyhoeddi straeon gwreiddiol.
* arweiniad strategol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni blaenoriaethau’r adran
* arweiniad i staff i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â gwerthoedd y BBC, ac i sicrhau bod yr adran yn lle gwych i weithio.
Bydd hi’n allweddol dangos dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa, gan feddwl am ffyrdd o dargedu cynulleidfaoedd newydd a hyrwyddo amrywiaeth. Yn y rol bydd angen arddangos dealltwriaeth o dechnoleg newydd ac arddel uchelgais i ddatblygu cynnwys creadigol ac arbrofol ar gyfer y platfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
PAM YMUNO GYDA'R TÎM
Mae tîm Cymru Fyw wedi eu lleoli ar draws Cymru, gyda newyddiadurwyr a chynhyrchwyr cynnwys yn cydweithio i greu gwasanaeth cynhwysfawr yn Gymraeg. Bydd cyfle i weithio ar straeon yn annibynnol a hefyd dirprwyo yn gyson mewn cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau digidol wrth fod yn rhan o drafodaethau am ddatblygiad gweledol y wefan a datblygu platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Eich Prif Gyfrifoldebau A'ch Dylanwad
* Arwain tîm o newyddiadurwyr arlein a rhoi arweiniad clir
* Cydweithio gyda’r Golygydd Cynorthwyol er mwyn sicrhau fod gwerthoedd y BBC yn cael eu gweithredu yn effeithiol o fewn yr adran, a rhoi hyder i staff weithredu ar y gwerthoedd hynny mewn ffordd bositif.
* Sicrhau bod y cynnwys yn cyrraedd y safonau golygyddol uchaf
* Cydweithio gyda nifer o dimau ar draws yr ystafell newyddion i sicrhau cynnwys o safon.
* Creu cynnwys unigryw i Cymru Fyw a datblygu syniadau ar gyfer straeon lleol a chenedlaethol.
* Helpu datblygiad aelodau staff drwy arweiniad clir a sgyrsiau cyson.
EICH SGILIAU A'CH PROFIAD
Meini Prawf Hanfodol
* Profiad o weithio ar blatfformau digidol ac arwain tîm.
* Ymwybyddiaeth o dargedau Cymru Fyw a’r ystafell newyddion yn ehangach a’r gallu i ysbrydoli i gyrraedd y targedau.
* Y gallu i weithio yn gyflym ac o dan bwysau.
* Cydweithio gyda gohebwyr ar straeon er mwyn cynhyrchu y cynnwys gorau posib yn ddigidol.
* Gwybodaeth drylwyr am bolisiau golygyddol y BBC ac ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau cyfreithiol.
* Ymwybyddiaeth gadarn o werthoedd y BBC, a phrofiad o’u gweithredu er mwyn gwneud yr adran yn lle gwych i weithio ynddi.
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.
Disclaimer
This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.
Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.
For any general queries, please contact: bbchr@bbc.co.uk
Redeployment
The BBC is committed to redeploying employees seeking suitable alternative employment within the BBC and they will be given priority consideration ahead of other applicants. Priority consideration means for those employees seeking redeployment their application will be considered alongside anyone else at risk of redundancy, prior to any individuals being considered who are not at risk.
Seniority level
* Seniority level
Entry level
Employment type
* Employment type
Full-time
Job function
* Job function
Other
* Industries
Broadcast Media Production and Distribution
Referrals increase your chances of interviewing at BBC by 2x
Get notified about new Uwch Newyddiadurwr - Cymru Fyw : EXTEND jobs in Cardiff, Wales, United Kingdom.
We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.
#J-18808-Ljbffr