Math o swydd wag - Parhaol/Llawn Amser
Ystod cyflog - £25,219 - £29,336 wrth hyfforddi yna;
£29,657 - £36,536 ar ôl cadarnhau eich bod yn gymwys
Oriau - 37 awr yr wythnos
Dyddiad Cau - 18 Awst am 5yp
Cyfweliadau - wythnos 25 Awst
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Daeth un o brif atyniadau twristiaeth y Deyrnas Unedig, sef Big Pit, yn rhan o Amgueddfa Cymru ym mis Chwefror 2001. Mae Big Pit yn bwll glo go iawn ac yn un o brif amgueddfeydd mwyngloddio Prydain.
Mae Big Pit yn rhan annatod o gymuned Blaenafon, a dyfarnwyd statws treftadaeth byd iddi gan UNESCO yn 2000 oherwydd ei threftadaeth ddiwydiannol unigryw a'i chyfraniad at y diwydiannau gwneud haearn a chloddio glo.
Prif Ddiben y Swydd
Gan adrodd i'r Peiriannydd Mecanyddol, byddwch yn cyflawni'r holl elfennau mecanyddol ar gynnal a chadw'r pwll. Mae hyn yn cynnwys cynnal a chadw systemau ar yr wyneb a than ddaear, yr adeiladau a'r strwythurau, siafft y pwll a'r holl beiriannau ac offer cysylltiedig.
Byddwch hefyd yn cynnal a chadw ac yn gwirio'r holl offer mecanyddol, arteffactau ac arddangosfeydd yn yr amgueddfa ac yn cyflawni archwiliadau statudol yn unol â'r Cynllun Gweithredwyr ar gyfer y Mwynglawdd.
Byddwch yn cynnal a gwirio'r holl offer ac adeiladau gan ddilyn yr holl weithdrefnau, dulliau gwaith, statudau, y Rheolau i’r Rheolwr, a chodau ymddygiad.
Byddwch chi hefyd yn gweithredu fel arolygwr pen pwll ac arolygwr winsh ac yn gwneud gwaith mecanyddol ar unrhyw offer, adeiladau neu swyddogaethau yn ôl yr angen.
Byddwch yn dirprwyo ar ran y Peiriannydd Mecanyddol pan fo’n absennol.
Hefyd, gallwch weithredu fel tywysydd tanddaear a helpu i weithredu'r teithiau tanddaear gydag ymwelwyr a chydweithwyr.
* Gwaith cynnal a chadw mecanyddol yn y pwll.
* Dirprwyo ar ran y Peiriannydd Mecanyddol pan fo’n absennol.
* Cynorthwyo i weithredu teithiau tanddaearol
* Chwarae rhan weithredol wrth gynllunio rhaglen cynnal a chadw’r gaeaf
* Cynorthwyo mewn unrhyw waith project i wella'r safle
* Cysylltu ag adrannau eraill
Cyfrifoldeb masnachol: mae gan bob aelod o staff gyfrifoldeb dros lwyddiant masnachol Amgueddfa Cymru. Yn benodol ar gyfer y rôl hon:
Bwriedir i'r disgrifiad swydd uchod fod yn amlinelliad o ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r rôl hon. Nid yw’n gyflawn, ac mae'n debygol o newid dros amser. Efallai y bydd disgwyl i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r rôl hon.
Penodol i’r Swydd
* yn fecanig cymwysedig profiadol.
* yn angerddol am fwyngloddio glo a gwarchod ei dreftadaeth ar gyfer y dyfodol.
* ag agwedd hyblyg ac ymarferol at weithio a bod yn barod i weithio patrwm shifft ar rota.
* yn chwaraewr tîm da gyda sgiliau rhyngbersonol da
* Â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol
* Llythrennedd cyfrifiadurol
* O leiaf 2 flynedd o brofiad fel Mecanig cymwysedig
* Profiad o weithio fel rhan o dîm
* Profiad o weithio'n annibynnol
* Sylw rhagorol i fanylion a chywirdeb
* BTEC lefel 3 mewn peirianneg fecanyddol
Ai dyma'r tro cyntaf i chi wneud cais am rôl yn y sector Amgueddfeydd? Peidiwch â gadael i hynny eich dal chi’n ôl! Mae'n hanfodol bod ein haelodau staff yn adlewyrchu amrywiaeth ein hymwelwyr, ein casgliadau a'n rhaglen gyhoeddus. Hyd yn oed os nad yw eich profiad yn cyfateb yn berffaith, rydyn ni’n rhoi hyfforddiant a sesiynau cynefino i bob aelod newydd o staff.
#J-18808-Ljbffr