Math o Gontract: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis
Adran: Meithrin Potensial
Lleoliad: Caerdydd - 3 Sgwâr Canolog
Cyflog: £22,950
AI UN O BRENTISIAETHAU'R BBC YW'R SWYDD NESAF I CHI?
Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o'n darparwyr dysgu.
PAM YMUNO Â'R CYNLLUN?
Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni'n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o'n gweminarau yma. Sylwch fod y weminar ar gyfer y cynllun hwn yn cael ei chynnal nos Fercher 10 Rhagfyr am 6pm. Os nad ydych chi'n gallu bod yn bresennol, neu os ydych chi wedi gweld hyn ar ôl y dyddiad hwnnw, cadwch lygad ar ein rhestr o weminarau ar Youtube yma lle bydd y fideo'n cael ei uwchlwytho.
PAM YMUNO Â'R TÎM?
Adran gynhyrchu a chomisiynu yw BBC Cymru Addysg, sy'n gweithio ar un o wasanaethau mwyaf y BBC i bobl ifanc, sef BBC Bitesize. Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar sy'n gwneud cynnwys ffres, dwyieithog i bobl ifanc 3-16 oed sy'n cael ei weld gan filiynau. Mae ein cynnwys yn ennyn chwilfrydedd ac yn annog dysgwyr ledled Cymru i feddwl O'r syniad cyntaf un i'r lansiad mawr, byddwch yn ganolog i bopeth, yn gweithio ochr yn ochr â thimau golygyddol a thechnegol gwych i helpu i ddod â chynnwys newydd sbon o ansawdd uchel yn fyw. Mae cenhadaeth BBC Addysg yn syml - gweddnewid bywydau drwy ddysgu. Yn ystod cyfnodau clo'r ysgolion, roedd yr adran wedi darparu'r gwasanaeth addysgol mwyaf yn hanes y BBC drwy BBC Bitesize a daeth cynulleidfaoedd newydd enfawr i ddarganfod ein cynnwys. Rydym ni wedi cynnal y momentwm hwnnw, gan greu mwy fyth o gynnwys cyffrous i ddysgwyr ledled Cymru.
Ein nod yw:
* Rhoi profiad dysgu personol i bob plentyn yn y DU drwy BBC Bitesize, sy'n denu dros 2 filiwn o ddefnyddwyr yr wythnos
* Cefnogi ac ysbrydoli dysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy greu cynnwys o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm
* Mynd i'r afael â bylchau addysgol a chymdeithasol ledled y DU drwy ymgysylltu ag ymgyrchoedd addysgol
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A'CH DYLANWAD
Fel prentis Cynhyrchu, dyma gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Gallech chi:
* Dysgu sut rydym ni'n ffilmio ac yn darparu cynnwys ffilm i bobl ifanc
* Dysgu am y broses o gomisiynu a chynhyrchu animeiddiadau
* Cael cyfleoedd i gynhyrchu cynnwys cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo
* Ymweld ag ysgolion i ddeall anghenion ein dysgwyr
* Datblygu dealltwriaeth o'r haenau o brosesau cynhyrchu sydd eu hangen i wneud cynnwys addysgol diddorol a digidol ar gyfer un o frandiau mwyaf y BBC.
Byddwch chi'n dysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (wythnos neu ddwy ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant, sef Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol. Bydd y blociau dysgu'n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb.
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith prentisiaeth y byddwch yn ei astudio, ewch i'r ddolen hon.
EICH SGILIAU A'CH CYMHWYSEDD
Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi'n awyddus i weithio yn y BBC ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o'r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i'n cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydym ni'n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a'ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.
Os oes gennych chi rai o'r sgiliau a'r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais. Rydym ni'n chwilio am y canlynol:
* Brwdfrydedd, dychymyg a dawn greadigol
* Angerdd dros gynnwys dysgu digidol
* Diddordeb gwirioneddol mewn animeiddio
* Awdur creadigol ysbrydoledig
* Dealltwriaeth neu barodrwydd i ddysgu beth sy'n cadw cynulleidfaoedd i wylio ein cynnwys
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau tebyg yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi ar wefan gyrfaoedd y BBC neu'n edrych ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill.
MEINI PRAWF CYMHWYSEDD
Mae'n rhaid i chi fodloni'r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:
* Bod yn 18 oed neu'n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
* Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau'r brentisiaeth
* Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio'n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
* Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy'n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd
* Nid oes angen unrhyw ddysgu blaenorol i wneud cais.
Ar gyfer ymgeiswyr o dan 19 oed ar 8 Medi 2026: I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid i chi fod wedi cael Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif o fewn 12 mis cyntaf y brentisiaeth.
BAROD I YMGEISIO?
Peidiwch â cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi'n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch 'Ymgeisio Nawr'
Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn - does dim angen CV na llythyr cais.
Os ydych chi'n gymwys, byddwn ni'n eich tywys drwy'r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i'w ddisgwyl.
Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill - ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.
Mae'r BBC yn cydnabod y gallai fod angen i rai pobl sy'n gwneud cais am Gynllun Prentisiaeth y BBC symud i leoliad newydd ar gyfer y rôl, ac efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd eich cyfyngiadau ariannol personol. Cynigir cymorth adleoli i nifer cyfyngedig o brentisiaid bob blwyddyn ac fe fyddai hyn yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon, yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cymorth adleoli. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ag ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio. Mae manylion y cymorth ehangach sydd ar gael yn y BBC ar gael yma.
Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol - bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun.
Yn ystod eich prentisiaeth, byddwch chi'n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i'ch helpu i gymryd y camau nesaf - boed hynny gyda'r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant. PRA26