Unigolyn sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n deall pwysigrwydd gwasanaeth gwychyn gallu gweithio mewn tîm, ond hefyd yn gallu gweithio’n annibynnolhynod drefnus ac yn gallu addasurhywun sy’n barod i ddysgu sgiliau newyddgydag agwedd gadarnhaolWelcome & Service AssistantMae Pen Llŷn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, sy'n gyfoeth o ddiwylliant, hanes a bywyd gwyllt. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch o fod yn diogelu dros 20 milltir o’r arfordir hwn, gan sicrhau bod ei harddwch a’i dreftadaeth yn cael eu diogelu am genedlaethau i ddod.Mae ein pedwar maes parcio arfordirol yn hybiau hanfodol, sy'n cynnig mynediad rhwydd i ymwelwyr at draethau arbennig, Llwybr Arfordir Cymru, a thrysorau di-ri’r ardal ehangach.Yn ychwanegol, mae ein canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt, yn borth croesawus, sy'n ysbrydoli ymwelwyr i grwydro Llŷn.Fel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, byddwch yn atebol i’r Rheolwr Croeso ac yn gweithio fel rhan o dîm ymroddgar ar draws y lleoliadau hardd hyn. Gyda’ch gilydd, byddwch yn chwarae rhan allweddol i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad anhygoel.Yn y swydd hon, byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Byddwch yn ymdrin ag ymholiadau yn rhwydd, yn cyfeirio ymwelwyr at bopeth sydd ei angen arnynt a’u helpu i gael diwrnod cofiadwy.Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian hanfodol i ofalu am dreftadaeth ein hymddiriedolaeth. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni targedau recriwtio aelodaeth a rheoli prosesau talu yn y meysydd parcio.Yn ychwanegol, byddwch yn cynnal safon uchel o lendid a chyflwyniad ar draws ein safleoedd, gan gynnwys glanhau’r toiledau a chynnal casgliadau sbwriel rheolaidd.Byddwch yn fodlon gweithio ar y rhan fwyaf o benwythnosau a gwyliau banc.Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr arwyddair 'I bawb, am byth' wrth ei gwraidd. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu’r amrywiaeth o gymunedau a chynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu, ac yn eu cynrychioli. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau croesawu pawb i’n timau hefyd.Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenolMynediad am ddim i leoliadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i chi, gwestai, a'ch plant (dan 18 oed)Cynllun benthyciad blaendal rhentBenthyciad tocyn tymorCynllun prydlesu car trydanGostyngiadau buddion y gweithle megis aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinemaLwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol.Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosiblRhaglen cynorthwyo gweithwyrParcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoedd yr YmddiriedolaethCliciwch yma i ddysgu rhagor am y buddion a gynigiwn i’ch cefnogi chi.Closing Date: 29 June 2025 To apply for this vacancy simply click the 'apply' button in the top right hand side of the page.If you need any help with your application, i.e. due to technical difficulties, please call us on 0370 240 0274 or email us at recruitmentenquiries@nationaltrust.org.ukIf you require an adjustment to the application process, for example due to disability or medical condition, please call us on 0370 240 0274 or email us at adjustments@nationaltrustjobs.org.uk and we'll support you as best as we can. For examples of how, please see our supporting you page.Equal Opportunities Statement The National Trust celebrates diversity and is committed to creating a fair and equal society, free from discrimination. You can read more about our commitment to inclusion and diversity here. Safeguarding Statement The National Trust is committed to a safe recruitment processes to help the organisation attract and appoint the right staff/volunteer for the role and responsibilities as set out in the vacancy advert. We will not accept applicants who are not suitable to work with children, young people or adults at risk. If you have any questions around your suitability for this vacancy, please contact the people service centre. Please note we reserve the right to close this advert early and therefore we encourage you to apply for this position early. 164478IRC164478BeddgelertFixed Term p/t (until 21/09/25)Ends: Jun 29th 83.3 mi from ManchesterFel Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth, chi fydd yr wyneb cyfeillgar a fydd yn cyfarch ein hymwelwyr, gan roi croeso cynnes a llon iddynt, a rhannu gwybodaeth am ein safleoedd a’r gwaith pwysig a wnawn. Byddwch yn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael ymweliad difyr a chofiadwy.Yn y swydd hon, byddwch yn gweithio ar draws pedwar maes parcio arfordirol ym Mhorthor, Porthdinllaen, Llanbedrog ac Aberdaron, yn ogystal â’n canolfan ymwelwyr, Porth y Swnt.Mae hon yn swydd am gyfnod penodol hyd at 21/09/25, a bydd disgwyl ichi weithio o 10am i 4pm, hyd at bum diwrnod yr wythnos.Noder, mae’r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â thrafnidiaeth ddibynadwy i bob lleoliad, yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.The English translation of this advert is available in an attached PDF. Ar gyfer y swydd hon, bydd angen ichi gwblhau ein hasesiad ar-lein yn hytrach na defnyddio C.V. neu ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn o gymorth i ni ddeall rhagor am eich cryfderau a rhoi ichi ragor o wybodaeth am y swydd.Llyn Peninsula, Aberdaron, Pwllheli LL53 8BECompliance.Eligibility to Work in the UK12.75 per hour