Dyletswyddau'r swydd
Bydd y Prif Weithredwr yn atebol i Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin trwy Gadeirydd y Mudiad am gyflawni’r canlynol:
* Hyrwyddo gofal plant ac addysg Gymraeg i bob plentyn gan gofleidio holl egwyddorion y Mudiad
* Sicrhau rhediad dydd i ddydd effeithiol y Mudiad yn unol â'r gofynion rheoleiddiol a statudol ar yr elusen gan gyrff megis Arolygiaeth Gofal Cymru, Gwasanaethau Cymdeithasol, Estyn, Gofal Cymdeithasol Cymru, Comisiwn Elusennau, Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth, HSE i enwi’r prif sefydliadau
* Sicrhau rhediad dydd i ddydd effeithiol is-gwmni Mudiad Meithrin, ‘Meithrinfeydd Cymru Cyf’
* Gweithredu fel Unigolyn Cyfrifol (https://meithrin.cymru/i-gylchoedd/cyfrifoldebau/arolygiaeth-gofal-cymru/) ar y cyd ag eraill i ddarpariaethau gofal plant sy’n cael eu cefnogi a’u rhedeg gan is-gwmni Meithrinfeydd Cymru Cyf ac, yn achlysurol, fel arall.
* Sicrhau llif gwybodaeth briodol i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr am ddatblygiad holl gynlluniau ac adrannau’r Mudiad
* Gweithredu fel Ysgrifennydd Cwmni a Swyddog Cyfrifyddu
* Sicrhau rheolaeth gadarn o holl ffynonellau ariannol ac amrywiol asedau Mudiad Meithrin a sicrhau llif arian positif wrth weithredu cynlluniau
* Ysgwyddo cyfrifoldeb dros holl staff Mudiad Meithrin (ynghyd â staff unrhyw gynlluniau dros dro), a’u datblygiad, gan gynnig arweiniad clir a phendant. Mae cyfrifoldeb penodol i gytuno targedau a gwerthuso gwaith chwech aelod y Tîm Strategol
* Sicrhau fod Mudiad Meithrin yn gweithio at fod yn sefydliad gwrth-hiliol
* Arwain ar, ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros, lunio strategaethau a chynlluniau corfforaethol cenedlaethol ar gyfer y Mudiad
* Sicrhau gweithrediad strategaethau penodol: rhai Mudiad Meithrin a rhai a gytunir ar y cyd â phartneriaid ym meysydd y Gymraeg, gofal plant, y blynyddoedd cynnar ac yn ehangach
* Cadeirio partneriaeth gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae ‘Cwlwm’ ac ysgwyddo holl gyfrifoldeb am ei rediad effeithiol
* Cadw, meithrin, a datblygu perthynas ag adrannau penodol o Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol
* Cadw, meithrin, a datblygu perthynas ag Aelodau Senedd Cymru, yn enwedig ag aelodau pwyllgorau perthnasol, er lles a datblygiad y Mudiad
* Gwneud ceisiadau, yn unol â strategaethau a gytunir, am gyllid craidd, grantiau a phrosiectau ar gyfer Mudiad Meithrin
* Sicrhau gweithrediad a chyrraedd targedau a osodir gan gyllidwyr a pharatoi adroddiadau cynnydd yn ôl yr angen
* Bod yn lladmerydd dros Mudiad Meithrin a’i gynrychioli yn effeithiol mewn cyfarfodydd cyhoeddus, ar y cyfryngau a phwyllgorau perthnasol.
Bydd disgwyl i’r Prif Weithredwr fynychu gwyliau cenedlaethol Cymreig a chynrychioli’r Mudiad yno
◦ Sefydlu a datblygu perthynas adeiladol ag asiantaethau statudol ac anstatudol, gan gynnwys mudiadau cyffelyb, y tu mewn a thu allan i Gymru
◦ Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Cadeirydd Cenedlaethol neu’r Bwrdd Cyfarwyddwyr.
Trafodaeth pellach
Pe hoffech drafod y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu gyda Chadeirydd Mudiad Meithrin cadeirydd@meithrin.cymru neu ddeilydd presennol y swydd, Dr Gwenllian Lansdown Davies ar gwenllian@meithrin.cymru
Gwneud Cais
Gyrrwch lythyr dwy ochr neu fideo 3 munud o hyd yn esbonio sut rydych yn cyrraedd y meini prawf a chopi o’ch CV er sylw.
Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin i adnoddaudynol@meithrin.cymru erbyn Medi 26 2025 am hanner dydd.
Dyddiadau allweddol tebygol
Dyddiad cau – Medi 26 2025 am hanner dydd
Dewis rhestr fer – Hydref 1 2025
Cyfweliad gyda rhanddeiliaid allweddol ar ‘Teams’ – ar ddyddiad i’w gadarnhau wythnos yn cychwyn Hydref 6 2025
Prawf, cyflwyniad a chyfweliad ffurfiol wyneb yn wyneb yn Aberystwyth – ar Hydref 13 2025
#J-18808-Ljbffr